Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Gorbwysedd y Byd 2022

Diwrnod Gorbwysedd y Byd 2022

Mae 17 Mai 2022 yn ddiwrnod i dynnu sylw at orbwysedd, neu bwysedd gwaed sef ei enw cyffredin. Enw arall arno yw’r ‘lladdwr tawel’, ac mae hyn yn fwy pryderus. Yn aml, mae hyn gan nad yw pobl yn cael gwybod bod pwysedd gwaed uchel gyda nhw tan ar ôl iddyn nhw ddioddef rhywbeth o’i ganlyniad, fel trawiad ar y galon neu strôc.


'Mesur eich pwysedd gwaed yn gywir, rheoli ef, a byw'n hirach'

Thema'r diwrnod eleni yw 'Mesur eich pwysedd gwaed yn gywir, rheoli ef, a byw'n hirach'. Y nod yw annog cynifer o bobl â phosib i fod yn ymwybodol o beth yw eu pwysedd gwaed, cymryd camau os bydd hwn yn uchel a lleihau'r risgiau hirdymor er mwyn byw bywyd hir ac iach. Mae rhyw 50% o achosion o drawiad ar y galon a strôc yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel. Gallai gwybod beth yw eich pwysedd gwaed achub eich bywyd.

Mae Cynghrair Gorbwysedd y Byd wedi gosod dwy ran hanfodol o ran sut maen nhw'n bwriadu gwella ymwybyddiaeth pobl o bwysedd gwaed uchel:

 'sefydlu rhaglenni sgrinio cymunedol eang eu gallu, er mwyn cydnabod pwysedd gwaed uchel ymysg y rheiny sydd mewn perygl” ac

 'annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fesur pwysedd gwaed eu cleifion yn rheolaidd ym mhob cyfarfod clinigol”.

Bydd hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni nod y Cenhedloedd Unedig erbyn 2025, sef gostwng nifer yr achosion o bwysedd gwaed uchel sydd ddim dan reolaeth 25%.


Beth yw pwysedd gwaed uchel?

Pwysedd gwaed yw pwysedd y gwaed yn erbyn waliau’r rhydwelïau, sef y pibellau sy'n cludo gwaed o gwmpas y corff. Mae angen rhywfaint o bwysau er mwyn gwthio'r gwaed o gwmpas. Mae'n cynyddu ac yn gostwng yn naturiol, yn dibynnu ar yr adeg o'r dydd a'ch lefelau gweithgarwch.

Pan fydd pwysedd gwaed yn cael ei fesur, byddwch chi’n sylwi ar ddau rif.

Y 'rhif ar y brig’ neu'r rhif uchaf yw'r pwysedd systolig:

  • Dyma fodd o fesur y grym neu'r pwysedd yn eich pibellau gwaed pan fydd y galon yn cyfangu, gan wasgu gwaed allan o'r galon

Y 'rhif ar y gwaelod' neu'r rhif isaf yw'r pwysedd diastolig:

  • Dyma fodd o fesur y pwysedd yn y pibellau gwaed pan fydd y galon yn ymlacio a rhwng curiadau’r galon

Fel arfer, mae pwysedd gwaed arferol rhwng 90/60 mmHg a 120/80 mmHg, ond yn is na 140/90. 

Gorbwysedd yw pwysedd gwaed rhwng 140/90 mmHg a 180/110 mmHg.

Gorbwysedd difrifol yw pwysedd gwaed dros 180/110 mmHg.

Gorbwysedd yw'r term meddygol ar gyfer y cyflwr pan fydd pwysedd gwaed yn uchel yn gyson. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'ch calon weithio’n galetach fyth i wthio gwaed o gwmpas eich corff. Mae’r pibellau gwaed yn gallu mynd yn gulach neu'n fwy stiff, yna gallan nhw gau ac achosi rhwystr. Mae hyn yn lleihau faint o waed sy'n cylchredeg i'r rhan honno o'r corff. Mae perygl o gael trawiad ar y galon os oes rhwystr yn y galon, neu o gael strôc os oes rhwystr yn yr ymennydd.  

Yn ôl rhagamcanion, bydd gorbwysedd yn effeithio ar fwy na 1.5 biliwn o bobl ledled y byd erbyn 2025.


Sut ydw i'n gwybod p’un a oes gorbwysedd gyda fi ai peidio?

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, dydy cynifer â 5 miliwn o oedolion yn y DU ddim yn gwybod bod gorbwysedd gyda nhw. Fydd yr holl bobl hyn ddim yn gwybod eu bod nhw mewn perygl o gael canlyniadau iechyd difrifol. Yr unig ffordd o wybod a oes pwysedd gwaed uchel gyda chi yw ei fesur gan ei fod prin iawn yn achosi symptomau.

Yn anffodus, dydy llawer o bobl ddim yn ceisio cymorth nes eu bod nhw’n datblygu cymhlethdodau eraill, fel problemau o ran eu cylchrediad, clefyd yr arennau, methiant y galon, problemau gyda’r golwg, dementia fasgwlar neu ddiffyg rhywiol.

Dylai oedolion sy’n hŷn na 40 oed wirio eu pwysedd gwaed o leiaf bob 5 mlynedd os oes pwysedd gwaed arferol gyda nhw. Mae angen archwiliad blynyddol arnoch os oes gorbwysedd gyda chi sydd dan reolaeth, a gwiriadau amlach os nad ydy eich pwysedd gwaed dan reolaeth. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn arwain hyn.


Ble mae modd mesur fy mhwysedd gwaed?

Fferyllfeydd

Meddygfeydd

Apwyntiadau gofal iechyd

Sesiynau hyfforddi WISE


Beth sy'n cynyddu'r risg o ddatblygu pwysedd gwaed uchel?

  • Bod dros eich pwysau neu fod yn ordew
  • Gormod o halen yn eich deiet
  • Llai o ffrwythau a llysiau
  • Dim digon o ymarfer corff
  • Gormod o gaffein
  • Gormod o alcohol
  • Ysmygu
  • Cwsg gwael
  • Bod yn hŷn na 65 oed
  • Hanes teuluol o bwysedd gwaed uchel
  • Tras Du Affricanaidd neu Ddu Caribïaidd
  • Byw mewn ardal o amddifadedd

Ymhlith yr achosion eraill mae clefyd yr arennau, problemau gyda’r chwarren adrenal a moddion, fel mathau o foddion hormonaidd ar gyfer atal cenhedlu a moddion llysieuol.

 

Mae WISE gerllaw i helpu

Mae'r Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) ar agor erbyn hyn i gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy'n pryderu am eu pwysedd gwaed ac sydd am gael cymorth, er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r ffactorau ffordd o fyw sydd wedi eu rhestru uchod a lleihau'r risgiau maen nhw’n gallu eu rheoli.

Bydd ein hyfforddwyr lles yn gallu eich hyfforddi i wella eich iechyd, gan gynnwys eich pwysedd gwaed, trwy ddilyn ein rhaglen sydd wedi ei dylunio gan Momenta, y rhaglen atal clefydau cardiofasgwlar;

“Mae ein rhaglen atal clefydau cardiofasgwlar yn helpu pobl gyda phwysedd gwaed uchel neu gyfnod cynnar o glefyd y rhydwelïau coronaidd, er mwyn arafu neu leihau eu risg o fynd ati i ddatblygu cyflyrau mwy difrifol. Byddan nhw’n gwneud hyn trwy fynd ati mewn modd cynaliadwy i wella eu deiet, gwneud mwy o ymarfer corff, rheoli eu pwysau a chadw at eu moddion.”

“Mae'r rhaglen atal clefydau cardiofasgwlar yn cydymffurfio â chanllawiau perthnasol NICE a SIGN, gan gynnwys canllawiau sy’n ymwneud â newid ymddygiad (NICE PH6, PH49), clefyd cardiofasgwlar (NICE CG181), gweithgarwch corfforol a gordewdra (NICE PH53, PH42, CG43), yn ogystal ag unrhyw waith ymchwil arall sy’n berthnasol (e.e. SCOT-HEART, INTERHEART). Mae newidiadau parhaus mewn ffyrdd o fyw yn gallu lleihau pwysedd gwaed ac arafu (a hyd yn oed gwrthdroi, o bosib) achos o gyfnod cynnar clefyd coronaidd y galon rhag datblygu’n ddigwyddiad cardiaidd difrifol, fel trawiad ar y galon.

Bydd yr hyfforddwyr lles yn esbonio sut i fesur eich pwysedd gwaed eich hun yn y sesiynau ac yn eich helpu i'w fonitro, yn ogystal â cheisio gweld gwelliant gyda chi dros gyfnod o 9 mis. Byddan nhw’n egluro'r holl ffactorau sy'n effeithio ar eich pwysedd gwaed ac yn rhoi'r adnoddau i chi gymryd camau, fel eich bod chi’n cael ymdeimlad o reolaeth dros eich iechyd.

Fyddwch chi ddim yn cael presgripsiwn o foddion ar gyfer eich pwysedd gwaed yn rhan o’r gwasanaeth hwn, ond bydd modd i’ch meddyg teulu neu arbenigwr bresgripsiynu’r rhain, os bydd angen. Nod gwasanaeth WISE yw eich helpu i ddefnyddio dull holistaidd o reoli pwysedd gwaed a lleihau eich risgiau hirdymor o ddatblygu clefyd y galon. Mae'r gwasanaeth yn cyd-fynd ag unrhyw foddion rydych chi wedi cael cyngor i'w cymryd. Wrth fynd i'r afael â'r ffactorau sydd wedi achosi eich pwysedd gwaed uchel ac wrth newid y ffordd rydych chi'n byw bob dydd, mae’n bosib y bydd modd lleihau eich dosau o foddion, neu roi’r gorau i rai ohonyn nhw (peidiwch â newid eich moddion oni bai eich bod chi’n cael cyngor gan eich meddyg i wneud hynny).

Os ydych chi newydd gael diagnosis o bwysedd gwaed uchel ac am gael cymorth gan hyfforddwr lles, gallwch chi gyfeirio eich hun gan ddefnyddio'r ffurflen hon, neu e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451/01685 351 444. 

Mae eich meddyg, nyrs, cynorthwyydd gofal iechyd, fferyllydd, ffisiotherapydd, dietegydd neu unrhyw weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd yn gallu eich cyfeirio chi hefyd.

Byddwch yn ddoeth, a gwiriwch eich pwysedd gwaed ar Ddiwrnod Gorbwysedd y Byd!

Awdur: Dr Liza Thomas-Emrus


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Blog Hoot