Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gleifion am heintiau Streptococws A (Strep A)

Ni all pobl â symptomau'r dwymyn goch ddefnyddio'r gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf, sydd ar gael mewn rhai Fferyllfeydd ar draws De Cymru, gan mai dim ond ar gyfer rheoli tonsilitis bacterol neu ddolur gwddf feirysol (bacterial tonsillitis/viral sore throat) y mae’r gwasanaeth hwn. Dylai unrhyw un sydd ag arwyddion o'r dwymyn goch (dolur gwddf, twymyn, brech, tafod chwyddedig) gysylltu â'i feddyg teulu neu GIG 111 yn lle hynny. Bydd unrhyw un sy'n gofyn am y Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf mewn fferyllfa, sydd â symptomau sy’n awgrymu y gall fod ganddo’r dwymyn goch, yn cael ei atgyfeirio at ei feddyg teulu neu GIG 111 gan y fferyllydd.

Mae Streptococws Grŵp A (GAS) – sef Streptococcus pyogenes – yn facteria sy’n gyffredin ar y croen neu yn y gwddf, lle gallan nhw fyw heb achosi problemau. O dan rai amgylchiadau, fodd bynnag, gall y bacteria hyn achosi afiechyd. Gall bacteria GAS achosi amrywiaeth eang o heintiau croen, meinwe meddal (soft tissue) a llwybr anadlol yn amrywio o ran difrifoldeb o rai ysgafn i rai sy'n bygwth bywyd.

Mae gwybodaeth am yr amrywiaeth eang o heintiau croen, meinwe meddal a llwybr anadlol a achosir gan Strep A, yn amrywio o ran difrifoldeb o rai ysgafn i rai sy'n bygwth bywyd, ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.

Y peth gorau i'w wneud yw rhoi'r gofal y byddech chi fel arfer yn ei roi i blentyn â symptomau annwyd a thebyg i’r ffliw, ond ymgyfarwyddo â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS i fod yn ofalus.

Symptomau'r Dwymyn Goch

Cyflwr cyffredin sy’n dod yn aml gyda haint Strep A yw'r dwymyn goch, sy’n salwch ysgafn fel arfer.

Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys:

  • dolur gwddf
  • cur pen
  • twymyn
  • cyfog a chwydu

Yn dilyn hyn mae brech fân lliw coch, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r bol, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Efallai na fydd plant hŷn yn cael y frech. Ar groen mwy tywyll, efallai y bydd y frech lliw coch yn anoddach i'w gweld, ond dylai deimlo fel 'papur tywod'. Gall yr wyneb gochi ond bydd yn welw o gwmpas y geg.

Os ydych chi’n amau bod gan blentyn symptomau'r dwymyn goch, dylech chi:

  • Gysylltu â'ch meddyg teulu, mynd i wefan GIG 111 Cymru, neu ffonio GIG 111 Cymru
  • Sicrhau bod y plentyn yn cymryd y cwrs llawn o unrhyw wrthfiotigau mae’r meddyg wedi eu rhoi i chi ar bresgripsiwn
  • Cadw’r plentyn gartref, i ffwrdd o'r feithrinfa, yr ysgol neu'r gwaith a dilyn unrhyw ganllawiau gan feddyg teulu ar ba mor hir y dylai barhau i fod yn absennol o'r lleoliadau hyn.
  • Dod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar heintiau Strep A ar wefan GIG 111.

Mewn achosion prin iawn, gall haint Strep A achosi iGAS, cymhlethdod prin sy’n effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn. Er bod iGAS yn gyflwr sy'n peri pryder, bydd y mwyafrif o’r plant hyn yn gwella gyda thriniaeth briodol. Cysylltwch â meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111 Cymru i gael cyngor meddygol os oes gan blentyn unrhyw rai o’r symptomau canlynol o glefyd iGAS:

  • Twymyn (tymheredd uchel dros 38°C)
  • Poenau difrifol yn y cyhyrau
  • Cyhyrau sy’n dendar mewn rhai mannau
  • Cochni ar safle clwyf.

Yn ogystal, cysylltwch â meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111 Cymru:

  • os yw’r plentyn yn gwaethygu
  • os yw’r plentyn yn bwyta llawer llai nag arfer
  • os yw’r plentyn wedi cael cewyn sych ers 12 awr neu fwy neu'n dangos arwyddion eraill o ddadhydradu
  • os yw’r babi o dan 3 mis oed a bod ganddo dymheredd o 38°C, neu’n hŷn na 3 mis oed a bod ganddo dymheredd o 39°C neu uwch
  • os yw’r babi'n teimlo'n boethach nag arfer pan fyddwch chi'n cyffwrdd â'i gefn neu frest, neu'n teimlo'n chwyslyd
  • os yw’r plentyn yn flinedig iawn neu'n bigog

Ffoniwch 999 neu ewch i’r Adran Achosion Brys:

  • os yw’r plentyn yn ei chael hi’n anodd anadlu – efallai y byddwch chi’n sylwi ar synau rhochian neu ei fol yn sugno o dan ei asennau
  • os oes seibiannau pan fo’r plentyn yn anadlu
  • os yw croen, tafod neu wefusau'r plentyn yn las
  • os yw’r plentyn yn llipa a ddim yn deffro nac yn aros yn effro

Sut i helpu i atal heintiau yn ystod plentyndod

Mae hylendid dwylo ac anadlol da yn bwysig i atal lledaeniad llawer o fygiau. Trwy ddysgu'ch plentyn sut i olchi ei ddwylo'n iawn gyda sebon am 20 eiliad, defnyddio hances bapur wrth beswch a thisian, a chadw draw oddi wrth eraill pan fydd yn teimlo'n sâl, bydd yn gallu lleihau'r risg o ddal neu ledaenu heintiau.

Mae hefyd yn bwysig bod plant o ddwy flwydd oed i fyny yn cael eu hamddiffyn rhag ffliw tymhorol ac yn cael y brechlyn.

Ffynonellau: Haint iGAS yn parhau’n brin, yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus - Iechyd Cyhoeddus CymruGIG 111 Cymru - Iechyd A-Y: Streptococcus A (Strep A).

Dilynwch ni: