Neidio i'r prif gynnwy

Maeth a Moddion

Maeth A Moddion

Maeth A Moddion

Ers miloedd o flynyddoedd, rydyn ni’n gwybod bod y bwyd rydyn ni'n ei fwyta’n gallu effeithio ar ein hiechyd. 'Bydded bwyd yn feddyginiaeth a'ch meddyginiaeth yn fwyd' – dyna un o ddyfyniadau enwog Hippocrates, y mae llawer o bobl yn ei ystyried yn dad ar feddygaeth fodern.

Sawl blynedd yn ddiweddarach, dywedodd Thomas Edison, 'Ni fydd meddyg y dyfodol yn rhoi unrhyw feddyginiaeth, ond bydd yn ennyn diddordeb ei gleifion yng ngofal y ffrâm ddynol, y deiet a sut mae achosi ac atal clefydau'. Wrth gwrs, dyna beth yw ein diben ni yma yn WISE!

Rhaid i mi bwysleisio ein bod ni’n dal i gredu'n gryf mewn manteision moddion, felly os ydy eich meddyg neu ymarferydd gofal iechyd cymwysedig arall yn argymell hynny, dilynwch eu cyngor. Fodd bynnag, mae bwyd wir yn gallu ein niweidio neu ein hiachau, yn dibynnu ar ein dewisiadau.

Mae tystiolaeth dda bod deiet gwael yn cyfrannu'n fawr at glefyd y galon, Diabetes, sawl math o ganser, problemau gyda'r coluddyn a llawer o gyflyrau eraill, a bod dilyn deiet iachus yn gallu atal y cyflyrau hyn, arafu eu datblygiad os ydy’r cyflyrau hyn gyda chi eisoes, ac weithiau hyd yn oed eu gwrthdroi.

Yn yr un modd, os ydych chi neu anwylyd yn dioddef y cyflyrau hyn, nid hon yw'r adeg i ddechrau teimlo'n euog. Mae llawer o ffactorau’n cyfrannu at y pethau hyn, a dim ond un ohonyn nhw yw deiet.

Fodd bynnag, mae cymaint o wybodaeth a chamwybodaeth yn bodoli. Mae pawb yn honni eu bod nhw’n arbenigwr, ac mae'n arbennig o anodd gwybod pwy i'w gredu pan fydd hi’n amlwg iawn mewn llenyddiaeth feddygol ac ar y cyfryngau cymdeithasol fod hyd yn oed yr arbenigwyr go iawn mewn maeth yn dal i anghytuno â’i gilydd!!

Beth ddylech chi ei fwyta felly? Wel, mae'r holl arbenigwyr yn cytuno ar rai pethau, a diolch byth, maen nhw’n weddol hawdd i'w dilyn ar y cyfan. Yn gyffredinol, y newyddion da yw bod y pethau sy'n gweithio ar gyfer clefyd y galon hefyd yn gweithio ar gyfer Diabetes, sydd hefyd yn gweithio ar gyfer problemau'r coluddyn, ac yn y blaen.

Gan amlaf, mae'n ymddangos bod deiet iach ar y cyfan yn helpu i wella ein hiechyd, beth bynnag fo'r union broblem rydyn ni’n ceisio delio â hi. Mae llawer mwy i hyn na hynny, a dyna pam mae'r arbenigwyr yn parhau i ddadlau’n gryf a pham mae miliynau'n cael eu gwario ar ymchwil yn y maes cyffredinol hwn.

Os ydych chi wedi cael cyngor penodol gan ddeietegydd ynglŷn â’ch deiet sy'n ymwneud â'ch cyflwr, yna dilynwch hwnnw, ond dyma ambell beth syml gallwch chi ei wneud:

  1. Bwyta digon o ffrwythau a llysiau. Argymhellir 5 dogn y dydd; un dogn yw 80g neu un darn o ffrwyth, er enghraifft. Peidiwch â chredu'r myth y dylech chi osgoi ffrwythau gan eu bod nhw’n cynnwys siwgr (oni bai bod dietegydd wedi eich rhoi cyngor penodol i chi). Siwgr iachus yw hwn ac mae'n llawn ffibr, dŵr, fitaminau, gwrthocsidyddion a llwyth o bethau da eraill, sy'n golygu bod ffrwythau'n opsiwn gwych.
     
  2. Bwyta llai o halen. Mae halen yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel, ac mae’n ein hannog ni i orfwyta unwaith i ni gael blas arno. Gallwch chi leihau faint o halen rydych chi’n ei fwyta drwy beidio â'i ychwanegu wrth y bwrdd a gwneud penderfyniadau gofalus pan fyddwch chi’n bwyta y tu hwnt i'r cartref. Mae'r rhan fwyaf o fwytai a gweithgynhyrchwyr bwyd yn hoffi ychwanegu halen at fwyd i'w wneud yn fwy blasus, sy’n golygu y byddwch chi’n fwy tebygol o brynu mwy ohono yn y dyfodol. Dydw i ddim yn eu beio nhw. Busnes ydyn nhw sy’n ceisio gwerthu eu cynnyrch, ond cadwch lygad ar faint o halen sydd mewn bwydydd sydd wedi eu pecynnu ymlaen llaw.
  3. Bwyta llai o siwgr wedi ei buro. Mae siwgr naturiol mewn bwyd yn iawn, fel sydd mewn ffrwythau a llysiau, ac os ydy ychydig o siwgr cyffredin dros eich hoff rawnfwyd iach neu salad ffrwythau yn eich annog chi i'w bwyta, mae hynny'n iawn. Bydd hyn yn broblem pan fyddwn ni'n dechrau ei fwyta fel pryd o fwyd yn ei hun, fel mewn cacennau, bisgedi, losin ac ati. Mae siwgr wedi ei buro yn gwneud i lefel y siwgr yn ein gwaed gynyddu’n fawr ac yn gyflym iawn, sy'n sbarduno ein metabolaeth yn gyflym i geisio ei leihau.

    Yn aml hefyd, mae’n gorwneud pethau ychydig fel bod lefel y siwgr yn ein gwaed yn cwympo eto yr un mor gyflym, ac yn aml yn rhy isel. Mae hyn yn gallu ein gwneud ni’n llwglyd ac yn aml yn ddrwg ein tymer, sy'n golygu ein bod ni’n debygol o fod ag awydd byrbrydau llawn siwgr er mwyn ceisio gywiro hynny. Mae osgoi danteithion melys (nid bob amser, yn amlwg!!) a dewis bara grawn cyflawn, reis brown a phasta brown yn hytrach na'r mathau gwyn o’r rhain yn bethau syml i'w gwneud fan hyn.
     
  4. Bwyta llai o fraster wedi ei buro. Unwaith eto, mae braster naturiol mewn bwyd iachus yn iawn. Mae angen i ni fwyta braster er mwyn i’n corff allu gweithredu. Fodd bynnag, os ydych chi'n bwyta llawer iawn o fwydydd wedi eu prosesu sy'n cynnwys olew llysiau wedi ei buro, mae'n debyg na fydd hynny’n opsiwn iachus.
     
  5. Bwyta llai o fwydydd wedi eu prosesu a bwyd i fynd, felly pethau fel bwydydd parod a byrbrydau, a phrydau o siopau bwyd i fynd. Fel arfer, maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o gynhwysion afiach, ac maen nhw hefyd wedi eu cynllunio'n ofalus i'ch helpu i fwyta dognau mawr ohonynt a mynd yn ôl i brynu mwy yn y dyfodol. Mae bwyd cartref yn gallu edrych yr un fath â rhywbeth parod, ond bydd yn iachach o lawer gan amlaf.

Mae cymaint mwy o bethau i ysgrifennu amdanyn nhw ynglŷn â’r pwnc hwn, ond bydd unrhyw un sy'n dilyn y pum prif awgrym hyn eisoes yn gwneud byd o les i’w hunain er mwyn cadw eu hunain yn iach. Nid dwyn oddi arnoch chi yw’r bwriad fan hyn. Y nod yw dod o hyd i fwyd iach rydych chi'n ei garu a  chael trît bach o bryd i’w gilydd wrth gwrs.

Y pethau rydych chi’n ei wneud ar gyfartaledd sy’n bwysig. Fydd pryd o fwyd afiach nawr ac yn y man ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr yn yr hirdymor.

Awdur: Sue Kenneally