Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth i'n Hymwelwyr o Wcráin yng Nghwm Taf Morgannwg

Bydd Cyfieithiad Wcreinaidd ar gael yn fuan. | Переклад українською мовою стане доступним найближчим часом.

Mae pawb ledled Cymru wedi dychryn o weld y dinistr sy’n datblygu yn Wcráin. Mae Cwm Taf Morgannwg a'i bartneriaid yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin.

Mae'r dudalen hon ar gyfer pobl sydd wedi cyrraedd Cwm Taf Morgannwg yn ddiweddar o Wcráin.

Croeso i'n rhanbarth ac i galon De Cymru. Rydyn ni am sicrhau bod gennych yr holl gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ymgartrefu yn ein rhanbarth mor ddi-bryder â phosibl.

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ar draws ein rhanbarth, a gyda Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr bod ystod lawn o adnoddau a chymorth ar gael i’ch helpu.

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybodaeth am y ddarpariaeth gofal iechyd a chymorth iechyd meddwl, y ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc, cymorth lles, yn ogystal â dolenni i adnoddau cymunedol.

 


Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Os ydych yn cyrchu’r dudalen hon fel aelod o staff Cwm Taf Morgannwg ac eisiau gwybodaeth i gefnogi eich cleifion, yna mae gennym dudalen Fewnrwyd bwrpasol.

Sylwch: Bydd y ddolen hon ond yn gweithio pan gaiff ei gweld ar ddyfeisiau'r Bwrdd Iechyd.

 

Dilynwch ni: