Rydyn ni'n gwahodd pobl ledled Maesteg a Chwm Llynfi i rannu eu barn ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a lles lleol. Drwy ein harolwg a'n gweithgareddau ymgysylltu cymunedol, gallwch chi helpu i lunio cynlluniau ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd arfaethedig yn Heol Ewenni, yn amodol ar gymeradwyaeth cyllido Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, a chyfrannu syniadau ar gyfer defnydd safle Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol.
Rydym am glywed beth sydd bwysicaf i chi, eich teulu a'ch cymuned, gan gynnwys eich blaenoriaethau, syniadau a phryderon ar gyfer gwasanaethau lleol dros y pump i ddeng mlynedd nesaf. Cymerwch ran yn yr arolwg, ymunwch â ni mewn digwyddiad cymunedol, a helpwch i ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a lles yn eich ardal.
Defnyddiwch y dudalen bwrpasol hon 'Dyfodol Iach Maesteg' i gael mynediad
Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, a byddwn yn parhau iymgysylltu'n agored, gan ddarparu unrhyw ddiweddariadau diweddaraf trwy gylchlythyrau ac ymgysylltu â'r gymuned leol ac adeiladu ar y sgwrs bwysig a ddechreuon ni yn 2023.