Neidio i'r prif gynnwy

Hafan Gymunedol CTM2030

Croeso i Hafan Gymunedol CTM2030

Mae Cwm Taf Morgannwg wrthi’n datblygu strategaeth sefydliadol newydd – CTM2030: Ein Hiechyd, Ein Dyfodol. 

Nod ein strategaeth yw nodi sut rydyn ni’n datblygu ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein poblogaeth wrth i ni edrych at 2030 a’r tu hwnt, a sut gallwn ni weithio gyda'n cymunedau i wneud yn siŵr fod pobl leol yn gallu byw bywyd hapusach ac iachach cyhyd â phosib. 

Yng Nghwm Taf Morgannwg, rydyn ni am greu newid gwirioneddol a chanolbwyntio ar hybu iechyd ein cymunedau. Ystyr hyn yw atal salwch yn y lle cyntaf yn hytrach na thrin pobl pan fyddan nhw’n mynd yn sâl, gan wneud yn siŵr fod modd i ni ddarparu'r gofal gorau posib pan fydd angen ein cymorth ar bobl.

Mae gwir angen eich cymorth arnom ni i ddatblygu ein strategaeth ac rydyn ni wedi lansio'r safle hwn i gynnig porth cymunedol er mwyn i chi gymryd rhan.

Bydd ein hafan yn eich galluogi i weld holl elfennau'r strategaeth a holl weithgareddau diweddaraf ein partneriaid rhanbarthol i newid a gwella gofal a phrofiad cleifion.

Nodau ein strategaeth

Rydyn ni wedi nodi pedwar nod strategol ar gyfer datblygu ein strategaeth. Maen nhw’n nodi'r pethau allweddol rydyn ni am eu cyflawni yn CTM dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Dyma nhw:

  • Creu Iechyd
  • Gwella Gofal
  • Ysbrydoli Pobl
  • Cynnal ein Dyfodol

Mae nodau ein strategaeth yn cael eu trafod a'u cynllunio o safbwynt y pum cam allweddol y bydd unigolyn yn mynd trwyddyn nhw yn ystod ei oes: o’i enedigaeth, i’w farwolaeth o dan ofal tosturiol.

Wrth i ni weithio gyda chymunedau ledled CTM i ddatblygu a chyflwyno ein strategaeth, rydyn ni am sicrhau bod ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn hefyd.

Dyma Paul Mears, Prif Weithredwr BIP Cwm Taf Morgannwg yn rhoi crynodeb byr o'n strategaeth.

Cewch wybod mwy am ein nodau, camau bywyd a'ch rôl wrth gyd-greu cymunedau iachach drwy glicio ar y lluniau isod.