| Ysbyty Brenhinol Morgannwg Ynysymaerdy Llantrisant CF72 8XR |
![]() |
Rhif ffôn: 01443 443443
Rhif ffôn: 01685 721721
Cofiwch fod croeso i chi siarad Cymraeg gyda ni.
Diweddariad parcio i ymwelwyr ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Ar hyn o bryd rydym yn gosod rhai unedau dros dro ar y safle yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a fydd yn cynyddu ein gallu llawfeddygol ac endosgopi. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at ostyngiad dros dro mewn mannau parcio. Mae mannau parcio anabl wedi'u blaenoriaethu, eu cadw a'u symud i leoliad addas ger y prif adeilad.
Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad.
Mae ciosgau hunangofrestru bellach ar gael mewn adrannau cleifion allanol craidd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Pan fyddwch chi'n mynychu eich apwyntiad, defnyddiwch y sgriniau hyn i gofrestru.
Os na allwch ddefnyddio'r sgriniau, bydd aelod o staff y dderbynfa yn gallu eich helpu i gofrestru i'r adran.