Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Lles Gweithwyr

Amdanom ni

Yn flaenorol, cyfrifoldeb Iechyd Galwedigaethol oedd lles y staff yn BIP CTM. Fodd bynnag, ym mis Mehefin 2020, crëwyd gwasanaeth lles newydd, oedd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau lles rhagweithiol ac ataliol i'r staff, a hynny wyneb yn wyneb, gan fynd at y meysydd clinigol mae COVID-19 wedi effeithio arnynt fwyaf. Y nod yw hybu lles emosiynol yn hytrach nag aros i'r staff ddweud eu bod nhw'n cael trafferth cyn ymyrryd. Rydyn ni wedi creu ystafelloedd ymlacio, cynnnal gweithdai cadw'n iach, cyhoeddi blogiau sy'n hyrwyddo technegau lles, cynnal cyrsiau seicoaddysgol, darparu sesiynau cryno ynglŷn ag ymwybyddiaeth ofalgar a darparu sesiynau galw heibio am gymorth. Ers hynny, mae'r gwasanaeth wedi datblygu a thyfu, gan ymateb i anghenion ein staff.

Ymrwymiad CTM i les staff

Gofalu amdanoch chi yw ein prif ffocws. Drwy ein cymorth ar gyfer lles, rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb mewn sefyllfa well i ofalu am eu hunain (a’i gilydd) yn ystod y cyfnod go heriol hwn.

Bydd y cyngor a’r cymorth sydd ar gael yn helpu’r staff i edrych ar ôl eu hunain ac yn helpu rheolwyr i edrych ar ôl eu tîm.

Ein Tîm Lles

Mae tîm bach ond ymroddedig gyda ni sy’n darparu cymorth lles i’n holl staff ar draws holl ardaloedd y Bwrdd Iechyd. Cliciwch yma i gwrdd â'r tîm.

Ein Gwasanaethau

Mae trosolwg o bwy ydyn ni, a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig yma. Os oes unrhyw ymholiadau gyda chi, neu os hoffech chi gyfeirio eich hun neu gydweithiwr at y gwasanaeth, e-bostiwch ni ar CTM.Wellbeingservice@wales.nhs.uk.

Hefyd, cadwch lygad allan ar ein sianeli ar y cyfyngau cymdeithasol am newyddion a diweddariadau. Twitter @CTMWellExp a Facebook @CTMWellExp.

 

 

Adnoddau Ychwanegol

Dilynwch ni: