Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Lleol y GIG

Gwasanaethau lleol Y GIG

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am wneud popeth posib i'ch helpu chi i gadw’n iach eleni. 

Rydyn ni wedi creu'r llyfryn hwn i roi canllaw defnyddiol i chi. Cadwch ef wrth law a'i ddarllen pan fydd angen i chi ddefnyddio gwasanaethau’r GIG. Mae'n cynnwys cyngor ynglŷn â sut mae gwahanol wasanaethau yn eich ardal leol yn gallu eich helpu.

Yn dibynnu ar beth yw eich problem, mae’n bosib nad eich meddyg teulu yw'r opsiwn gorau am gyngor neu driniaeth.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, fel ffisiotherapyddion, optometryddion a fferyllwyr, yn gallu cynnig cymorth mwy arbenigol yn y gymuned.

Paul Mears - Prif Weithredwr - BIPCTM

 

 

 

 

 

Paul Mears
Prif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yr her fwyaf sy’n ein hwynebu eleni yw pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Nid yn unig mae’r feirws hwn yn gallu lladd pobl, ond mae’n peri straen mawr i’n gwasanaethau iechyd.

Beth sydd ei angen gennych chi:

Helpwch ni i ddiogelu Cymru (ac i’ch diogelu chi) drwy ddilyn y canllawiau cenedlaethol diweddaraf, sydd i’w gweld ar llyw.cymru/coronafeirws

Os oes unrhyw rai o brif symptomau’r Coronafeirws gyda chi (tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus neu golli eich synnwyr blasu neu arogli), ewch i gael prawf cyn gynted â phosib ac arhoswch gartref nes i chi gael y canlyniad: gov.uk/get-coronavirus-test

Mae’r cyngor diweddaraf ynglŷn â’r Coronafeirws i’w weld yma: bipctm.gig.cymru/covid-19

Gwybodaeth am y brechlyn rhag COVID-19: 

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am frechu rhag COVID-19 ar gael yma: bipctm.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/

COVID-19: Profion PCR

Os oes symptomau COVID-19 gyda, dylech chi hunan-ynysu a chael prawf PCR ar unwaith drwy ffonio 119 neu drwy fynd i gov.uk/get-coronavirus-test

Ffoniwch 119 yn rhad ac am ddim rhwng 7am a 11pm. Os oes nam ar y clyw neu anawsterau leferydd gyda chi, ffoniwch 18001119.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrofion PCR, ewch i: bipctm.gig.cymru/covid-19/covid-19-profi-olrhain-diogelu/covid-19-profion-pcr

COVID-19: Profion llif unffordd

Mae prawf llif unffordd yn fath o brawf i’w gael pan does dim symptomau gyda chi. I gael gwybod sut i gael prawf am ddim, ewch i: bipctm.gig.cymru/covid-19/covid-19-profi-olrhain-diogelu/covid-19-profion-llif-unffordd/

Mae’r ffliw yn cylchredeg bob blwyddyn, fel arfer yn y gaeaf, ac mae’n afiechyd heintus iawn gyda symptomau sy’n ymddangos yn gyflym iawn. Mae annwyd yn llawer llai difrifol, ac fel arfer mae’n dechrau gyda thrwyn llawn neu drwyn sy’n rhedeg a gwddw tost. Mae achos gwael o’r ffliw yn gallu bod yn llawer gwaeth nag annwyd gwael, ac mae’n gallu gwneud i bobl iach deimlo’n dost hyd yn oed.

Twymyn, iasau oer, pen tost, poenau ysgafn yn y cyhyrau a’r cymalau a blinder llethol yw symptomau mwyaf cyffredin y ffliw. Gan fwyaf, mae’r symptomau yn weddol ysgafn, ond maen nhw’n gallu bod yn ddifrifol.

Mae ffliw yn cael ei achosi gan firws sy’n gallu lledaenu’n gyflym: gall unrhyw un ddal y firws a’i roi i rywun sydd mewn mwy o berygl o fynd yn dost iawn. Oherwydd bod ffliw yn cael ei achosi gan firws yn hytrach na bacteria, fydd moddion gwrthfiotig ddim yn ei drin.

Beth sydd ei angen gennych chi: Mae brechu’n ddiogel, a dyna’r ffordd orau o wneud yn siŵr eich bod chi ddim yn dal nac yn lledaenu’r ffliw. Bydd cael brechiad nawr yn eich diogelu chi dros fisoedd y gaeaf.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ffliw, ewch i icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/brechlynffliw/

Mae sawl enw gan y norofeirws, fel salwch y gaeaf, y byg chwydu neu hyd yn oed y dolur rhydd a chwydu. Ond beth bynnag yw ei enw, er nad yw’n ddifrifol fel arfer, mae’n salwch amhleserus sy’n gallu creu problemau difrifol i’n hysbytai bob blwyddyn.

Dyma’r byg stumog mwyaf cyffredin yn y DU ac mae’n effeithio ar bobl o bob oedran. Does dim modd penodol o’i wella, felly os byddwch chi’n gadael iddo barhau’n naturiol, dylai gymryd dim mwy na chwpl o ddiwrnodau. Fel arfer, bydd y cyfnod heintus yn para rhwng 12 a 48 awr.

Beth sydd ei angen gennych chi: Os ydych chi’n bwriadu ymweld ag un o’n hysbytai, peidiwch â dod os ydych chi wedi cael y dolur rhydd neu wedi bod yn chwydu yn y 72 awr ddiwethaf. Byddwch chi’n rhoi pobl eraill sy’n fwy bregus na chi, yn ogystal â’r staff, dan risg.

Mae rhagor o wybodaeth am y Norofeirws yma:bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/eich-canllaw-i-gadw-norofeirws-draw/

Dewch o hyd i’ch gwasanaeth GIG lleol

Erbyn hyn, mae un rhif hawdd i’w gofio ar gyfer Galw Iechyd Cymru a’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau, sef 111. Mae’r rhif ffôn newydd sbon hwn, ar gyfer achosion gofal iechyd sydd ddim yn argyfwng, ar gael yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae modd galw 111 yn rhad ac am ddim o ffonau symudol a llinellau tir 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Gallwch ffonio 111 os bydd angen un o’r canlynol arnoch:

  • Gofal brys
  • Gwasanaethau meddygon teulu tu allan i oriau
  • Cyngor
  • Gwybodaeth iechyd

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys gwiriwr symptomau ar-lein, cliciwch 111.wales.nhs.uk/

Cyn cysylltu â'ch meddyg teulu am apwyntiad, darllenwch y cyngor yn y llyfryn hwn gan wasanaethau eraill allai eich helpu.

Cysylltu â'ch meddyg teulu

  • Ffoniwch eich meddyg teulu yn ystod y diwrnod gwaith (8am-6.30pm)
     
  • Defnyddiwch eConsult ar-lein (os ydy hyn ar gael)
     
  • Y tu hwnt i’r oriau agor, cysylltwch â GIG 111 os oes angen cyngor neu driniaeth arnoch (rhwng 6.30pm a 8am yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau)

Siarad â derbynnydd

  • Bydd derbynyddion neu lywyddion gofal, sydd wedi cael hyfforddiant arbennig, yn gofyn cwestiynau i chi er mwyn deall eich problem
     
  • Bydd yr wybodaeth hon yn eu helpu i benderfynu pwy sydd orau i ddiwallu eich anghenion
     
  • Bydd popeth rydych chi'n ei ddweud yn hollol gyfrinachol

Eich ymgynghoriad

  • Erbyn hyn, mae apwyntiadau gyda meddygon teulu ac apwyntiadau eraill yn cael eu cynnal dros y ffôn a thros fideo, yn ogystal ag wyneb yn wyneb
     
  • Sut bynnag byddwch chi'n siarad â ni, byddwch chi'n dal i gael yr un safon uchel o gymorth gan y GIG
     
  • Os bydd eich meddyg teulu o’r farn fod angen i chi weld rhywun wyneb yn wyneb, byddwch chi'n cael apwyntiad

Am fwy o wybodaeth ac i ddod o hyd i'ch meddygfa leol, ewch i bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/eich-tim-gofal-sylfaenol-lleol/syrjeris-meddygon-teulu

Beth i'w ddisgwyl gan eich meddygfa?

Mae’r poster gyda’r holl wybodaeth i’w weld yma

Os oes poen ddifrifol gyda chi yn y frest, os ydych chi ar fin llewygu, os oes anawsterau anadlu difrifol gyda chi, os ydych chi’n teimlo’n wan ar un ochr neu’n siarad yn aneglur neu’n gwaedu’n ddifrifol, peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, ffoniwch 999 yn syth.

Bydd cael eich brechu rhag COVID-19 yn helpu i'ch diogelu rhag salwch difrifol sy'n gysylltiedig â’r Coronafeirws. Mae camau eraill gallwch chi eu cymryd i gadw eich hun yn iach ac i osgoi mynd yn sâl.

Dyma gamau bach i wella eich iechyd:

  • Rhoi'r gorau i ysmygu unwaith ac am byth
  • Bwyta bwydydd iachach
  • Gwneud mwy o ymarfer corff
  • Gofalu am eich lles meddyliol
  • Yfed llai o alcohol

Am fwy o wybodaeth, ewch i: bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/gig-111-cymru/helpwch-ni-ich-helpu-chi/

Cewch weld neu lawrlwytho'r poster gyda’r holl wybodaeth yma.

Helpwch Ni I

Os oes un o'r problemau canlynol gyda chi ac os ydych chi’n credu bod angen i chi weld meddyg, mae eich fferyllfa gymunedol leol yn ffordd wych arall o gael cymorth:

  • Acne
  • Tarwden y traed
    (Athlete’s Foot)
  • Poen cefn (acíwt)
  • Brech yr ieir
  • Doluriau annwyd
  • Colig
  • Llid yr amrannau (bacteriol)
  • Rhwymedd
  • Dermatitis (croen sych)
  • Y Dolur rhydd
  • Llygad sych
  • Haemoroidau
  • Clefyd y gwair
  • Llau pen
  • Diffyg traul
  • Intertrigo
  • Ewinedd traed sy’n tyfu ar i mewn
  • Wlser yn y geg
  • Brech cewyn
  • Llindag y geg
  • Tarwden
    (ringworm)
  • Clefyd crafu
  • Dolur gwddf
  • Trafferthion tyfu dannedd
  • Llyngyr edau
  • Llindag y wain
    (thrwsh)
  • Ferwca

Y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw mynd i fferyllfa sy'n cymryd rhan yn y cynllun hwn, am ymgynghoriad 5-10 munud gyda fferyllydd mewn ystafell breifat.

Does dim angen apwyntiad arnoch, a gallwch chi alw heibio ar adeg sy'n addas i chi.

Gall fferyllwyr roi cyngor i chi hefyd ynglŷn â moddion presgripsiwn a moddion dros-y-cownter.

I ddod o hyd i’ch fferyllfa leol, ewch yma: bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/eich-tim-gofal-sylfaenol-lleol/fferyllfeydd/gwasanaeth-anhwylderau-cyffredin/

Sylwch: dydy'r cyngor hwn ddim yn berthnasol i blant gyda phroblemau iechyd parhaus, fel asthma, problemau gyda'r galon neu'r arennau, nac i fabanod sy'n iau na 3 mis oed.

Twymyn (tymheredd corff uchel)

Ceisiwch ostwng tymheredd eich plentyn trwy wneud y canlynol:

  • Rhoi dosau argymelledig o barasetamol a/neu ibuprofen iddo
     
  • Tynnwch ei ddillad allanol. Peidiwch â lapio eich plentyn
     
  • Rhowch ddiodydd iddo’n rheolaidd

Annwyd cyffredin

Mae annwyd yn normal ac yn gyffredin iawn – weithiau gall plant iach gael 8 neu fwy ohonyn nhw mewn blwyddyn. Does dim tystiolaeth bod gwrthfiotigau’n helpu.

Peswch

Mae peswch yn gallu para 10–24 diwrnod a bydd yn clirio ar ei ben ei hun.

Dylech chi wneud y canlynol:

  • Rhoi digon o ddiodydd i’ch plentyn
     
  • Rhoi dosau argymelledig o barasetamol a/neu ibuprofen i’ch plentyn

Clust dost

Fel arfer, does dim angen trin heintiau ar y glust â gwrthfiotigau. Ewch i weld meddyg teulu os bydd y glust dost yn para am fwy na 3 diwrnod.

Cysylltwch â'ch meddygfa:

  • os oes hylif yn dod o'r glust eich plentyn
     
  • os ydy eich plentyn yn iau na 2 flwydd oed ac os oes haint ar ei ddwy glust
     
  • os oes problemau clywed gyda’ch plentyn

Dolur gwddf

Bydd dolur gwddf yn gwella ar ei ben ei hun heb driniaeth, fel arfer o fewn tridiau.

Mae’n bosib y bydd eistedd yn helpu gyda pheswch eich plentyn, a bydd sipian diod yn ei helpu i yfed digon.

Cysylltwch â'ch meddyg ar unwaith os ydy eich plentyn yn cael anhawster anadlu, neu'n ymddangos yn sâl iawn.

Fflem/Snot gwyrdd

Mae llawer o wahanol fathau o haint yn gallu achosi gollyngiad gwyrdd (snot) o’r trwyn, ond does dim angen trin y rhain â gwrthfiotigau.

Crŵp

Gall plant rhwng chwe mis a 12 oed gael crŵp, ond plant o dan dair oed sydd fwyaf tebygol o’igael. Fel arfer, mae'n waeth yn y nos. Dyma ambell beth allai fod o gymorth:

  • Mae’n bosib y bydd eistedd yn helpu gyda pheswch eich plentyn
     
  • Bydd sipian diod yn ei helpu i yfed digon.

Dylech chi weld eich meddyg ar frys:

  • os bydd eich plentyn yn anadlu'n gyflym
     
  • os bydd y meinweoedd o amgylch y gwddf neu o dan yr asennau’n cael eu tynnu i mewn wrth anadlu
     
  • os bydd yn cynhyrfu, neu’n mynd yn flinedig, yn llwydlas neu’n welw, neu
     
  • os na fydd modd iddo lyncu neu os bydd yn glafoerio

Ffoniwch 111 (mae'r llinellau ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos).

Cysylltwch â'ch meddygfa, neu os ydych chi'n credu ei fod yn argyfwng, ewch i'ch adran argyfwng agosaf.

Presgripsiynau rheolaidd

Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n rhedeg allan trwy ganiatáu 7 diwrnod gwaith rhwng archebu eich presgripsiwn newydd a chasglu eich moddion.

Bydd hyn hefyd yn rhoi digon o amser i'ch meddyg teulu a'ch fferyllydd brosesu eich presgripsiwn.

Cynllun Presgripsiynau Brys

Mae rhai fferyllfeydd yn cynnig Gwasanaeth Cyflenwi Meddyginiaethau Brys am ddim os ydych wedi rhedeg allan o'ch moddion rheolaidd ac os ydy eich meddygfa ar gau.

Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi cael y moddion hwn o'r blaen drwy ddangos:

  • Eich slip presgripsiwn rheolaidd neu
  • Becyn gwag gyda'ch label enw arno

Gwiriwch fod y fferyllfa'n cynnig y gwasanaeth hwn a bod eich moddion mewn stoc.

Bydd angen i chi fynd i’r fferyllfa eich hun – (allwch chi ddim gofyn i rywun fynd drosoch chi).

Am fwy o wybodaeth ac i ddod o hyd i'ch fferyllfa leol, ewch yma: bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/eich-tim-gofal-sylfaenol-lleol/fferyllfeydd/

Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch dannedd neu gyda’ch deintgig/poen deintyddol, cysylltwch â'ch deintydd rheolaidd yn ystod ei oriau agor arferol.

Os nad oes deintydd rheolaidd gyda chi ac os oes angen triniaeth frys, ffoniwch y Tîm Deintyddol Brys ar y rhifau isod:

Yn ystod yr wythnos
O ddydd Llun i ddydd Gwener
9am i 4.30pm

0300 1235060
 
Gwasanaeth tu allan i oriau
O ddydd Llun i ddydd Gwener
6.30pm i 8am
24 awr, ar y penwythnos ac
ar wyliau’r banc



0300 1235060

I ddod o hyd i ddeintydd yn eich ardal chi, ewch i: 111wales.nhs.uk/localservices 

Y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol

Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn darparu gofal deintyddol i gleifion agored i niwed sydd o bosib yn ei chael hi'n anodd mynd i ddeintyddfa ar y stryd fawr e.e. pobl sy’n gaeth i’r cartref.

Gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel deintydd, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd, eich cyfeirio chi at y gwasanaeth hwn.

Gallwch chi hefyd atgyfeirio eich hun neu aelod o'r teulu drwy ffonio:

  • 01685 351000 (Rhondda Cynon Taf neu Ferthyr Tudful)
  • 01656 667925 (Pen-y-bont ar Ogwr)

Os oes angen gofal llygaid brys arnoch chi, gall eich optegydd lleol helpu i asesu'r broblem a'ch cyfeirio chi i'r ysbyty os bydd angen.

Does dim angen i chi gysylltu â'ch meddyg teulu. Bydd yr optegydd yn gallu helpu:

  • os oes poen llygaid gyda chi
  • goleuadau'n fflachio a/neu smotiau’n arnofio yn eich golwg
  • golwg yn gwaethygu/diflannu’n sydyn
  • golwg dwbl
  • os oes llygad coch gyda chi

Mae’r cymorth hwn yn cael ei gynnig o dan gynllun Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru, a bydd yr archwiliad gofal llygaid yn rhad ac am ddim.

Ewch i www.eyecare.wales.nhs.uk am ragor o fanylion, gan gynnwys pa optegwyr sy'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gallwch chi hefyd gysylltu â'ch optegydd yn uniongyrchol i ofyn a yw'n cynnig triniaeth o dan y cynllun.

I ddod o hyd i'ch optegydd lleol, ewch i: bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/eich-tim-gofal-sylfaenol-lleol/optegwyr/

Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru

Gallwch chi gael cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl a lles trwy'r Ganolfan Gymorth Iechyd Meddwl.

Mind Cwm Taff Morgannwg
Rhif ffôn: 01685 707480
E-bost: info@ctmmind.org.uk 
Gwefan: www.ctmmind.org.uk
Kooth.com

Cymorth iechyd meddwl diogel, dienw, rhad, ac am ddim, ar-lein i bobl ifanc ac oedolion ifanc: Kooth.com

Argyfwng iechyd meddwl

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn wynebu argyfwng iechyd meddwl, cysylltwch â'r Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng.

Maen nhw’n gallu asesu ac ymateb yn gyflym i bobl 18-65 oed a darparu gwasanaeth diogel yn yr amgylchedd lleiaf cyfyngedig, gan amharu cyn lleied â phosib ar yr unigolyn.

Gall unrhyw un sy'n sâl, neu berthnasau/gofalwyr sy'n poeni am rywun, gysylltu â'r tîm ar:

Ardal Ysbyty’r Tywysog Siarl 01685 721721
(estyniad 26952/3
Ardal Ysbyty Tywysoges Cymru
Y Tîm Triniaeth yn y Cartref
01656 752666
Pwynt mynediad sengl
(Y Tîm Asesu)
01656 752449

Mae’r Tîm Ffisiotherapi’n darparu asesiadau, triniaeth ac adsefydlu ar gyfer y canlynol:

  • Osteoarthritis y pen-glin
  • Ffisiotherapi ar gyfer poen yn y droed a’r migwrn
  • Poen yn yr esgyrn, y cymalau a’r cyhyrau
  • Iechyd y pelfis

Gallwch chi gysylltu â'r Ganolfan Ffisiotherapi ar 01443 715012, neu lenwi'r ffurflen hunangyfeirio ar ein gwefan: bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/ffisiotherapi/

Os ydych chi'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gallwch chi ymweld â'r clinig galw heibio yng Nghanolfan Adnoddau Port Talbot. Mae’r ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.45am a 3pm (ar gau ar wyliau’r banc).

Neu gallwch chi ffonio 0300 300 0024 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.45am a 4.15pm (ar gau ar wyliau’r banc).

Bydd uned mân anafiadau’n addas os oes un o’r achosion canlynol gydag oedolyn neu blentyn sy’n hŷn nag un flwydd oed:

  • Anafiadau i’r breichiau neu’r coesau a mân anafiadau i’r pen, y wyneb, y gwddf, y cefn a’r frest
  • Brathiadau gan bobl, anifail neu bryfed
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau
  • Clwyfau neu grafiadau
  • Corffynnau estron yn y clustiau, y trwyn a’r feinwe feddal

Mae ein hunedau mân anafiadau ar agor rhwng 9am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio ar wyliau’r banc).

Sut mae modd mynd i uned mân anafiadau?

Ysbyty Cwm Rhondda


Rhaid ffonio 111 i drefnu apwyntiad cyn ymweld. 

Ysbyty Cwm Cynon

Mae Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Cynon bellach wedi ail-agor. Mae'r Uned ar agor ar hyn o bryd ar ddydd Mawrth a dydd Iau 9am-11am. Sylwch – mae’r Uned bellach yn cael ei rhedeg ar sail apwyntiad yn unig – drwy ffonio 01443 444075 neu 01443 444060 – byddwch wedyn yn cael eich brysbennu dros y ffôn ac yn cael eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol i’ch helpu gyda’ch cyflwr. Dim ond pobl dros 16 oed y gall yr UMA eu trin, bydd plant dan 16 oed yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth brysbennu cywir (galwad ffôn). Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth.

Peidiwch â mynd i adran achosion brys oni bai bod salwch neu anaf difrifol gyda chi neu fod bygythiad i fywyd sydd angen sylw meddygol ar unwaith.

Mae tair adran damweiniau ac achosion brys yn ardal Cwm Taf Morgannwg:

Sylwch: Dydy Adran Argyfwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddim yn gallu helpu gydag achosion brys sy’n ymwneud â beichiogrwydd neu broblemau deintyddol. Am achosion brys sy’n ymwneud â beichiogrwydd, ewch i Ysbyty’r Tywysog Siarl. Am broblemau deintyddol brys, ffoniwch 0300 1235060.

 

Mae clinigau cynllunio teulu’n cynnig pob math o ddulliau o atal cenhedlu ac yn darparu gwasanaeth sgrinio iechyd rhywiol dienw.

Merthyr/Cynon

Parc Iechyd Keir Hardie
01685 728272
Llun a Mawrth9.00am - 4.30pm
Mercher ac Iau: 9.00am - 8.15pm
Gwener: 9.00am - 12.00pm
Ysbyty Cwm Cynon
01685 728272
Mawrth: 12.30pm – 8.15pm
Iau: 9.00am – 4.30pm
Canolfan Iechyd Aberdâr
01685 728272
Llun9.00am - 4.30pm
Gwasanaeth Terfynu 01685 728497

Rhondda/Taf Elái

Llinell trefnu apwyntiadau
01443 443836

Llun a Mawrth9.00am - 4.30pm
Mercher ac Iau: 9.00am - 8.15pm
Gwener: 9.00am - 12.00pm

Llinell frys
01443 443836
(est 75921) 

Mawrth: 12.30pm – 8.15pm
Iau: 9.00am – 4.30pm

Pen-y-bont ar Ogwr

0300 555 0279 Llun a Mawrth8.00am – 6.30pm
Mercher ac Iau: 8.00am – 3.30pm
Gwener: 8.00am – 1.00pm

 

Bydd rhaglenni hunanreoli 'Time4Me' yn eich grymuso ac yn eich helpu i drin cyflwr hirdymor yn well a gwella eich iechyd a'ch lles bob dydd.

Cyrsiau sydd ar gael:

  • Iechyd a lles – straen; gorbryder; hwyliau isel – gan gynnwys COVID hir
  • Poen gronig
  • Cyn-Diabetes Math 2
  • Gofal traed i bobl gyda Diabetes Math 1 neu Fath 2 (sesiwn untro am 1 awr 45 munud)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Rhif ffôn: 01685 351025
E-bost: CTT_time4me@wales.nhs.uk
Gwefan: bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/amser4me-cwmtafepp-rhaglen-addysg-i-gleifion/

Amser4me

Mae Cydlynwyr Lles yn helpu unigolion i gael cymorth cymdeithasol, ymarferol ac emosiynol drwy gyfeirio at wasanaethau, grwpiau a gweithgareddau lleol sy'n gwella iechyd a lles pobl.

Taf Elái

Grŵp Facebook: facebook.com/TaffElyWellbeingCoordinators

Robyn Hambrook
rhambrook@interlinkrct.org.uk
07730 431859

Imogen Hopkin
ihopkins@interlinkrct.org.uk
07515 166035

Cwm Cynon

Facebook: facebook.com/cynonwellbeingcoordinators

Samantha Williams
swilliams@interlinkrct.org.uk
07515 166017

Julie Lomas
jlomas@interlinkrct.org.uk
07730 436807

Cwm Rhondda

Grŵp Facebook: facebook.com/RhonddaWellbeingCoordinators

Lisa Lewis
llewis@interlinkrct.org.uk
07340 708383

Melanie Holly
mholly@interlinkrct.org.uk
07515 166036

Katy Williams
kwilliams@interlinkrct.org.uk
07515 166024

Pen-y-bont ar Ogwr

Gwasanaeth Cyfeirio am Wybodaeth: bavo.org.uk

Gail Devine
gaildevine@bavo.org.uk
07719 546842

Julia Andrews
juliaandrews@bavo.org.uk
07923 212727

Georgina Powell
georginapowell@bavo.org.uk
07855 825036

Rob Wood
robwood@bavo.org.uk
07874 871499

Tom McGeoch
tommcgeoch@bavo.org.uk
07710 067698

Gwasanaeth tu allan i oriau
Gyda’r nos ac ar y penwythnos
07851 248576

Merthyr Tudful

Lesley Hodgson
Lesley.hodgson@vamt.net
07580866547

Swyddogion Cymorth Meddygon Teulu (Merthyr Tudful yn unig)

Oes problem anfeddygol gyda chi? Ydych chi’n ansicr at bwy i droi? Gallai swyddog cymorth meddygon teulu eich helpu chi.

Mae swyddogion cymorth meddygon teulu yn gweithio ym mhob meddygfa ym Merthyr Tudful ac mae eu gwybodaeth am adnoddau lleol, fel cwnsela, gwirfoddoli, ffitrwydd a rhoi’r gorau i ysmygu, yn rhagorol.

Maen nhw’n gymwys i helpu gydag amrywiaeth eang o broblemau, gan gynnwys:

  • Problemau gydag iechyd meddwl
  • Unigrwydd
  • Teimladau pryderus
  • Cymorth i ofalwyr
  • Problemau rhianta
  • Problemau ariannol, fel budd-daliadau
  • Cyngor ynglŷn â thai ac addasiadau

Ewch i www.healthymerthyr.co.uk/projects am fwy o wybodaeth, neu siaradwch â thîm eich meddygfa i drefnu apwyntiad gyda swyddog cymorth meddyg teulu. Eich swyddogion lleol yw: Rhian Barnett, Kay Powell, Tracey Roberts, Sharon Lewis a Fleur Morgan.

Dilynwch ni: