Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Menopos

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae WISE yn canolbwyntio ar y Menopos ac yn taflu rhywfaint o oleuni ar arferion hunanofal, syniadau ar gyfer dewisiadau ffordd o fyw iach, a sut i ofyn am gymorth gan weithwyr meddygol proffesiynol.

Wrth i fenywod heneiddio, gallan nhw brofi symptomau sy'n digwydd yn ystod y newid i'r menopos. Gall y symptomau hyn, a all ddechrau mor gynnar â chanol eu tridegau, amrywio o ysgafn i ddifrifol a gallan nhw gynnwys pyliau poeth, chwysu yn y nos, aflonyddwch cwsg, sychder yn y wain, a hwyliau ansefydlog.

Does dim un ffordd o reoli'r symptomau hyn sy’n addas i bawb, ond gall gwneud rhai newidiadau i'ch ffordd o fyw roi rhywfaint o ryddhad.

Mae cynnwys arferion iach yn eich bywyd bob dydd yn allweddol i reoli'r symptomau sy'n gysylltiedig â chyfnod pontio’r perimenopos.

Gall bwyta deiet cytbwys sy'n cynnwys amrywiaeth o lysiau, ffrwythau, proteinau heb lawer o fraster, a grawn cyflawn helpu i leihau symptomau. Gall cyfyngu ar fwydydd wedi'u prosesu, carbohydradau wedi’u prosesu, siwgrau wedi'u puro a brasterau afiach fod yn fuddiol hefyd. Yn ogystal, mae hydradu digonol yn bwysig i helpu gyda phyliau poeth a chwysu yn y nos.

Mae ymarfer corff yn ffordd wych o reoli symptomau’r perimenopos. Gall gweithgaredd corfforol rheolaidd helpu i leihau straen, gwella hwyliau, ac adfer lefelau egni. Mae ymchwil yn awgrymu bod menywod sy'n gwneud ymarfer corff o leiaf deirgwaith yr wythnos yn chwysu yn y nos ac yn cael pyliau poeth yn llai aml a’u bod yn llai difrifol. Gall ymarfer corff hefyd helpu i wella ansawdd cwsg, sy'n arbennig o bwysig yn ystod cyfnod pontio’r perimenopos.

Mae rheoli straen yn agwedd bwysig arall ar reoli symptomau’r perimenopos. Gall straen waethygu symptomau fel pyliau poeth, chwysu yn y nos, a hwyliau ansefydlog. Gall rhai gweithgareddau sy’n lleihau straen, fel ioga, tai chi, a myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar, helpu i leihau straen a gwella lles cyffredinol.

Mae cyflawni ffordd iach o fyw yn ystod cyfnod pontio’r perimenopos yn gofyn am ymrwymiad i wneud rhai newidiadau penodol i ffordd o fyw.

Dyma gynllun gweithredu i’ch helpu i gychwyn arni:

  • Gwneud newidiadau i’ch deiet: Dechreuwch trwy gynnwys mwy o ffrwythau, llysiau, proteinau heb lawer o fraster, a grawn cyflawn yn eich deiet a chyfyngu ar fwydydd wedi'u prosesu, carbohydradau wedi'u prosesu, a brasterau afiach.
  • Cynnwys ymarfer corff yn eich trefn arferol: Anelwch at wneud ymarfer corff dwysedd cymedrol o leiaf dri diwrnod yr wythnos.
  • Ymarfer technegau sy’n lleihau straen: Rhowch gynnig ar ioga, tai chi, neu fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar i helpu i leihau straen a gwella eich lles cyffredinol.
  • Yfed llai o gaffein ac alcohol.
  • Gofyn am gymorth ein Hyfforddwyr Lles WISE os oes angen help arnoch i wneud newidiadau llwyddiannus i'ch ffordd o fyw.
  • Siarad â'ch meddyg teulu os nad yw mesurau ffordd o fyw yn rheoli'ch symptomau er mwyn i chi drafod ychwanegu opsiynau rheoli eraill fel therapi amnewid hormonau.

Trwy wneud y newidiadau hyn i'ch ffordd o fyw, gallwch chi leihau difrifoldeb symptomau’r perimenopos a gwella'ch lles cyffredinol yn ystod y cyfnod pontio i'r menopos.

Awdur: Dr Liza Thomas-Emrus


    Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm
    Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE


    Dychwelyd at Blog Hoot

     

    Mis Ymwybyddiaeth Straen – A WISE Approach

    Mis Ymwybyddiaeth Straen yw'r amser perffaith i lansio ‘WISE Approach Podcast' wrth i ni archwilio nifer o dechnegau meddyginiaeth ffordd o fyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth i hyrwyddo lles corfforol ac emosiynol hirdymor, sydd yn y pen draw yn helpu i leihau straen.

    Niwroamrywiaeth Croesawu Gwahaniaethau gyda Chefnogaeth Chwe Philer WISE

    Heddiw, mae amrywiaeth yn cwmpasu mwy na hil, rhywedd ac ethnigrwydd yn unig. Mae hefyd yn cynnwys niwroamrywiaeth, sy'n dathlu cryfderau a safbwyntiau unigryw unigolion â chyflyrau fel Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, a gwahaniaethau niwrolegol eraill.

    No smoking day graphic 
    WISE – Dull Cynhwysfawr o Ddiwrnod Dim Smygu 13 Mawrth 2024 

    Wrth i ni arsylwi Diwrnod Dim Smygu, mae'n hollbwysig cydnabod arwyddocâd blaenoriaethu lles yn ei holl agweddau.

    Menyw yn gweithio ar ei chyfrifiadur
    Gorflinder a Chyflyrau Iechyd Cronig

    Mae Dr Liza Thomas-Emrus yn trafod â gorflinder a chyflyrau cronig mewn rhaglen ddogfen BBC Wales Live.

    2024 imaghe
    Adennill eich Lles gyda WISE yn 2024

    Mae'n wythnos gyntaf mis Ionawr ac mae llawer ohonom wedi paratoi ein rhestr o addunedau iechyd y Flwyddyn Newydd, lle rydym wedi gosod cynlluniau i gychwyn ar daith o hunanwella i fwynhau ffordd iachach o fyw.

    Lady doing Taiko Drumming
    Grym iachaol y Celfyddydau Creadigol ar ein hiechyd a'n lles

    Yn ddiweddar, cynhaliodd rhaglen Celfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles WISE ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ddiwrnod gwerthuso lle gallai cyfranogwyr adlewyrchu a rhannu eu profiadau am eu gweithdai Crefft Creadigol a Drymio Taiko Japaneaidd.

    Dr Liza in Dubai
    Rhagnodi Lles: Trawsnewid y dyfodol gyda Meddygaeth Ffordd o Fyw

    Yn y blog hwn, rydym yn rhannu sut mae WISE wedi bod yn lledaenu’r neges am Feddygaeth Ffordd o Fyw a’r rôl hanfodol y mae’n ei chwarae wrth rymuso pobl i hunanreoli eu hiechyd.

    Picture of a group of happy smiling people
    Darganfod Lles gyda Hyfforddwyr WISE (Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd)

    Wrth i ni aros yn eiddgar am fis Hydref, rydyn ni'n paratoi i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd sydd i ddod ar 10 Hydref 2023. 

    Banner with Lifestyle Medicine Banner
    Cysylltu Cymunedau a Hybu Iechyd: Taith yn WISE

    Trwy rannu gwybodaeth, adnoddau ac arbenigedd, gallwn ddatgloi atebion arloesol a thrawsnewid tirwedd gofal iechyd.

    Lleihau eich risg o ddatblygu dementia

    Yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia rydym yn siarad am ddewisiadau ffordd o fyw a all leihau eich risg o ddatblygu dementia

    Dementia a Hydradu

    Pwysigrwydd hydradu digonol (yfed digon) ar gyfer dementia

    Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Menopos

    Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

    Amser i siarad Graffeg Dydd
    Manteision siarad am iechyd meddwl

    Mae siarad am iechyd meddwl wedi dod yn bwnc trafod llawer mwy agored a chyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn deillio, yn rhannol, o'r gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd iechyd meddwl a'r ffaith bod problemau iechyd meddwl yn dod yn fwy cyffredin. Ond, y tu hwnt i’r ffaith bod iechyd meddwl yn cael ei dderbyn fel pryder iechyd dilys, beth mae'r dystiolaeth yn ei ddangos am y manteision go iawn sy’n gysylltiedig â siarad am iechyd meddwl?

    Diwrnod Ymwybyddiaeth Straen y Byd 2022
    Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen 2022

    Mae heddiw yn Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen

    diwrnod ffitrwydd cenedlaethol
    Nid y gampfa sy'n bwysig.

    Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol

    Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 2022
    Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 2022

    Wythnos yma yw Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd

    Wythnos Iechyd Dynion 2022
    Wythnos Iechyd Dynion 2022

    Wythnos Iechyd Dynion 2022

    Diwrnod Myfyrdod y Byd 2022
    Diwrnod Myfyrdod y Byd 2022

    21 Mai 2022 yw Diwrnod Myfyrdod y Byd

    Diwrnod Gorbwysedd y Byd 2022
    Diwrnod Gorbwysedd y Byd 2022

    Mae 17 Mai 2022 yn ddiwrnod i dynnu sylw at orbwysedd, neu bwysedd gwaed sef ei enw cyffredin.

    Mental Health Awareness Week 2022
    Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl 2022

    Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.