Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen 2022

Diwrnod Ymwybyddiaeth Straen y Byd 2022

Pam ydw i'n presgripsiynu myfyrdod - Dr Liza Thomas-Emrus

Fy hoff beth am fod yn feddyg teulu yw dod i adnabod fy nghleifion a darganfod beth sydd wedi arwain at eu problem yn y lle cyntaf, yna gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb.

Rwy'n annog ffyrdd iach o fyw yn rhan o fy ngwaith arferol o reoli cleifion yn y GIG.

Mae meddygaeth ffordd o fyw yn rhoi adnoddau i gleifion er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles, trwy wneud newidiadau yn eu ffordd o fyw. Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol. Fy maes penodol o ddiddordeb yw defnyddio myfyrdod a'i rym i wella pobl.

Trwy fy ngweithdai meddygaeth ffordd o fyw ac ymarfer cyffredinol, rwy’n presgripsiynu myfyrdod i gleifion ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau meddygol.

Mae’r rhain yn cynnwys clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, poen gronig, ffibromyalgia a syndrom coluddyn llidus (IBS), yn ogystal â chyflyrau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder. Mae hyn wedi cael adborth gwych gan gleifion, ac mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o gyflyrau’n gwella gydag ymarfer rheolaidd dros gyfnod o 8 wythnos.

Mae llawer iawn o gyffro yn y gymuned wyddonol wrth i fwyfwy o dystiolaeth ddod i’r amlwg i gefnogi myfyrdod fel ffordd effeithiol o wella cleifion. Mae ymchwil o ansawdd gwell yn cael ei chynnal sydd felly’n ei gwneud hi’n fwy dibynadwy.

Mae'n ymddangos mai 8 wythnos o ymarfer bob dydd sy’n arwain at y canlyniadau gorau, a dyma pam rydw i fel arfer yn argymell bod cleifion yn treialu'r cyfnod hwn fel man cychwyn. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o gleifion am barhau â myfyrdod gan eu bod nhw’n teimlo gymaint yn well o ganlyniad.

Mae myfyrdod yn arwain at newidiadau mesuradwy yn yr ymennydd ac yn y corff. Mae'n arwain at niwroplastigrwydd (pan fydd celloedd nerfol newydd yn datblygu yn yr ymennydd) ac felly at strwythur yr ymennydd yn datblygu ac yn newid.

Bydd modd rheoli emosiynau’n well, teimlo’n fwy positif a gwella’r cof. Mae hyn yn newyddion gwych i'r rheiny sy'n poeni am gyflyrau fel Dementia. Mae manteision i’w gweld hefyd yn y corff hyd at lefel y celloedd.

Mae telomerau’n amddiffyn y cromosomau, sy'n cario ein DNA ac yn lleihau o ran hyd wrth i gelloedd ddyblygu a heneiddio. Mae'r ensym telomeras yn arwain at gelloedd yn para’n hirach trwy ei allu i gynnal y telomer.

Mae myfyrdod yn arwain at lawer mwy o weithgarwch gan yr ensym hwn. Yn y bôn, mae hyn yn golygu na fyddwn ni’n heneiddio mor gyflym nac yn dod yn fwy agored i gael clefydau mor gynnar. Dyna ddiwedd ar edrych yn hen ac yn flin pan fyddwn ni dan straen!

Mae newidiadau i’w gweld hefyd yn rhai o fiofarcwyr y system imiwnedd. Bydd y system imiwnedd yn gweithredu’n well a bydd yn ymateb yn llai i straen. Yn ôl un astudiaeth, mae myfyrdod hyd yn oed yn well nag ymarfer corff, gan ei fod yn gallu gwella ein system imiwnedd rhag annwyd!

Mae’n effeithiol hefyd o ran gwella ein pwysedd gwaed, arafu curiad ein calon a’n cyfradd anadlu, a helpu i dawelu ein meddwl. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ei fod yn gwella cyflyrau fel gorbryder, iselder a straen. Mae tystiolaeth hefyd ei fod yn fanteisiol i gleifion gyda chanser a phoen cronig. Yn fy marn i, mae’n gallu helpu i drin unrhyw broblem iechyd.

Rwy'n sylwi fy mod i’n presgripsiynu llai o foddion, gan ei bod hi’n well gyda chleifion roi cynnig ar fyfyrdod yn lle. Wrth gwrs, dydw i ddim yn erbyn moddion. Rwy'n hoffi cynnig opsiwn isel ei risg heb sgil effaith i gleifion a gadael iddyn nhw ddewis. Fel rwy’n dweud wrth gleifion, mae moddion bob amser ar gael fel opsiwn wrth gefn neu i ategu'r ymyriadau â ffyrdd pobl o fyw.

Gobeithio y bydd modd i mi ledaenu'r neges bod pawb yn gallu elwa o fyfyrdod.

O ystyried y gost isel a'r risg isel o niwed, mae'n bosibilrwydd cyffrous fod modd i unrhyw un gynnwys myfyrdod yn ei fywyd a dod yn fyw bywiog a byw’n hirach.


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE


Dychwelyd at Blog Hoot