Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio Gwasanaethau Cataractau'r Dyfodol yn Ne Ddwyrain Cymru

Baner Cynllunio Gwasanaethau Cataractau

Rhannwch eich barn ar Gynllunio Gwasanaethau Cataractau'r Dyfodol yn Ne-ddwyrain Cymru

Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i ddarparu’r holl wasanaethau iechyd i’w poblogaeth gan gynnwys gwasanaethau cataract adfer golwg. Er bod yn rhaid i fyrddau iechyd ddarparu’r gwasanaethau hyn, nid oes angen iddynt, o angenrheidrwydd, gael eu darparu o fewn ardal ffiniau’r bwrdd iechyd, ac mae llawer o wasanaethau bellach yn cael eu darparu’n rhanbarthol e.e. rhai meysydd o ran gofal arbenigol neu os oes manteision sylweddol yn deillio o gyfuno gwasanaethau sy’n sicrhau y gall mwy o gleifion gael eu trin nag a fyddai fel arall.

Felly mae Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg wedi cytuno i gydweithio i adolygu opsiynau ynghylch y manteision posibl i gleifion a staff drwy gyfuno ein hadnoddau i gynyddu nifer y llawdriniaethau cataract a wneir ac i leihau amseroedd aros cleifion.

Mae trefniadau dros dro wedi bod ar waith ers mis Ionawr 2023 ar gyfer rhai cleifion o Fyrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg. Mae’r trefniadau yma wedi eu galluogi i gael llawdriniaeth cataractau gan ddefnyddio capasiti ychwanegol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Yn gynnar yn 2024 bydd rhywfaint o gapasiti ychwanegol hefyd yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni. Bydd hyn yn golygu y bydd cleifion Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg yn cael llawdriniaethau cataract yn gynt.

Bwriedir cynnal cyfnod ymgysylltu o 12 wythnos o 9.00am ddydd Llun 13ag o Dachwedd 2023 nes 5.00pm ddydd Gwener 2 Chwefror 2024.
 

Arolwg

Rhowch adborth i ni drwy gwblhau'r arolwg ar-lein trwy'r cod QR neu'r ddolen URL isod:

Arolwg Ar-lein Cynllunio Gwasanaethau Cataractau'r Dyfodol yn Ne Ddwyrain Cymru

Fel arall, gallwch lenwi’r ffurflen yn nogfen Cynllunio Dyfodol Gwasanaethau Cataract yn Ne Ddwyrain Cymru a’i hanfon atom mewn dwy ffordd:

Trwy ei sganio, neu dynnu llun o ansawdd da a'i e-bostio atom yn: sewales.cataracts@wales.nhs.uk

Gellir ei phostio i’r cyfeiriad isod:

YMGYSYLLTU Â NI
Pencadlys Corfforaethol
Sant Cadog
Heol y Lodj
Caerllion
NP18 3XQ

Gallwch hefyd gael mynediad i'r arolwg trwy'r gwefannau canlynol:

Sesiynau Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Bydd pob Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu’n frwd â phobl hŷn drwy amrywiaeth o grwpiau a digwyddiadau. Yn ogystal â hyn, gall pobl fynychu sesiwn ymgysylltu â’r cyhoedd generig, lle byddwch yn cael gwybod mwy am y cynnig ac i ofyn unrhyw gwestiynau ar y dyddiadau canlynol:

Ar-lein trwy Teams

  • 5:00pm i 6:30pm, dydd Iau 7 Rhagfyr 2023
  • 5:00pm i 6:30pm, dydd Mawrth 23 Ionawr 2024
     

Cysylltwch â Ni

Drwy e-bost gydag unrhyw sylwadau neu os hoffech ymuno ag un o’r sesiynau ar-lein uchod ar sewales.cataracts@wales.nhs.uk a byddwn yn trefnu i anfon dolen atoch ar gyfer y sesiwn.

Cyfrannu at unrhyw sgyrsiau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd.
 

Gwybodaeth Ategol

Cynhyrchwyd y canlynol i ddarparu mwy o wybodaeth am wasanaethau cataractau ac fel modd o’ch galluogi i roi eich barn i ni am wasanaethau cataractau a'r hyn sydd angen ei ystyried pan fydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio.

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Cataractau?

Cataractau yw pan fydd rhannau cymylog yn datblygu ar y lens (disg fach dryloyw) y tu mewn i'ch llygad. 

Dros amser, mae'r rhannau hyn fel arfer yn tyfu, gan achosi i’ch golwg ddod yn aneglur, niwlog ac yn y pen draw gallant arwain at ddallineb.

Pan rydym yn ifanc, mae ein lensys fel arfer fel gwydr clir, ac mae hyn yn ein galluogi i weld trwyddynt. Wrth i ni heneiddio, maent yn dechrau mynd yn farugog, fel gwydr ystafell ymolchi, ac yn dechrau cyfyngu ar ein golwg.

Mae cataractau fel arfer yn ymddangos yn y ddau lygad. Efallai na fyddant o reidrwydd yn datblygu ar yr un pryd ac efallai na fyddant yr un fath yn y ddau lygad.

Maent yn fwy cyffredin ymhlith oedolion hŷn a gallant effeithio ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd fel gyrru.

Sut mae profi am Gataractau?

Bydd optegydd yn gwneud cyfres o brofion llygaid, gan gynnwys yr hyn a elwir yn archwiliad craffter gweledol, sy'n mesur pa mor dda yr ydych chi'n gweld o wahanol bellteroedd.

Os bydd yr optegydd yn meddwl bod gennych gataractau, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at arbenigwr llygaid (offthalmolegydd) am fwy o brofion a thriniaeth.

Sut mae Cataractau yn cael eu trin?

Os yw nad yw eich cataractau yn ddwys, efallai y bydd sbectol gryfach a goleuadau darllen mwy disglair o gymorth am sbel.

Fodd bynnag, mae cataractau'n gwaethygu dros amser, felly bydd angen llawdriniaeth arnoch yn y pen draw i dynnu'r lens yr effeithir arni a'i newid.

Llawdriniaeth yw'r unig driniaeth sydd wedi'i phrofi i fod yn effeithiol ar gyfer cataractau.

Beth yw Asesiad Llawdriniaeth Cataract?

Os oes gennych gataractau, bydd eich optegydd yn eich cyfeirio at arbenigwr llygaid (offthalmolegydd) a fydd yn gwneud profion ychwanegol ac yn cymryd mesuriadau o'ch llygad.

Byddant yn casglu gwybodaeth am eich iechyd a'ch ffitrwydd ar gyfer llawdriniaeth, ac yn cymryd mesuriadau eraill fel pwysedd gwaed a siwgr gwaed. Byddant yn siarad â chi am y driniaeth ei hun ac yn sicrhau mai dyma'r opsiwn cywir i chi.

Beth mae Llawdriniaeth Cataract yn ei olygu?

Mae llawdriniaeth cataract yn driniaeth syml sydd fel arfer yn cymryd llai na 30 munud.

Yn ystod y llawdriniaeth, bydd y llawfeddyg yn gwneud toriad bach yn eich llygad i dynnu'r lens gymylog a rhoi lens newydd yn ei lle.

Fe'i cynhelir fel llawdriniaeth ddydd a dylech allu mynd adref ar yr un diwrnod.

Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl wisgo sbectol ar gyfer rhai tasgau, fel darllen, ar ôl llawdriniaeth waeth pa fath o lens y maent wedi'i gosod.  

Pa mor gyffredin yw Cataractau?

Mae gan tua 1 o bob 3 o bobl sydd dros 65 oed yn y DU o leiaf un cataract. Mae dynion a merched yn cael eu heffeithio yn yr un modd. Yn aml mae'r ddau lygad yn cael eu heffeithio ond mae un llygad fel arfer yn waeth na'r llall.

Mae'r rhan fwyaf o gataractau sy'n gysylltiedig ag oedran yn cymryd blynyddoedd lawer i ffurfio, ac yn y lle cyntaf ni fydd unrhyw symptomau. Ychydig iawn o bobl sydd â chataract cynnar sy’n sylweddoli bod ganddynt gataract gan nad yw eu golwg yn gymylog iawn o gwbl.  I'r mwyafrif, felly, bydd y cataract yn cael ei ddiagnosio wrth i wiriad arferol o’r llygad gael ei wneud, cyn i'r symptomau ddatblygu.

Cyfanswm y boblogaeth ar draws Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg yw tua 1.5 miliwn.  O’r rheini, mae tua 665,000 dros 65.

Sut mae gwasanaethau cataract presennol yn gweithio?

Mae cleifion a atgyfeirir ar gyfer gwasanaethau cataract yn cael eu gweld yn eu hysbyty lleol lle darperir y gwasanaeth. Darperir gwasanaethau mewn ysbytai lleol (Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Tywysoges Cymru).

Mae angen i rai cleifion deithio i'r ysbyty ddwywaith er mwyn i'r asesiad gael ei gwblhau ac mae cleifion yn wynebu amseroedd aros hir. 

Pam fod angen newid gwasanaethau Cataract?

Mae angen newid gwasanaethau er mwyn lleihau amseroedd aros i gleifion a darparu gwasanaethau cataractau cyn i’w golwg gael ei effeithio’n ddifrifol.

Mae tystiolaeth dda y bydd dod â gwasanaethau at ei gilydd yn eu gwneud yn fwy effeithlon ac yn lleihau amseroedd aros i gleifion – mae’r gwahanol opsiynau ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol wedi’u datblygu gyda’r nod o gyflawni hyn.

Beth yw manteision posibl model gwasanaeth newydd?

Manteision model gwasanaeth newydd yw y bydd cleifion yn treulio llai o amser yn aros am wasanaethau cataractau ac yn cael triniaeth cyn i'w cataractau symud ymlaen i'r pwynt lle mae nam difrifol ar eu golwg.

Bydd cleifion yn derbyn gwasanaethau mewn ffordd symlach a dim ond dwywaith y bydd yn rhaid iddynt ymweld â safle ysbyty, unwaith ar gyfer yr asesiad a'r eildro ar gyfer llawdriniaeth.

Byddai'r model gwasanaeth newydd yn fwy effeithlon ac felly gellir gweld mwy o gleifion a bydd mwy o gleifion yn gallu derbyn gwasanaethau cataractau.

Faint o gleifion y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt?

Mae tua 18,000 o gleifion ar y rhestr aros ac mae’r galw ar gyfer 10,000 o gleifion ychwanegol y flwyddyn. Bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar yr holl gleifion hyn.

A fydd yn rhaid i mi deithio ymhellach i gael triniaeth?

Gall fod angen i rai cleifion yn yr ardal deithio ymhellach, bydd hyn yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewisir ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Uchafswm y pellter y byddai’n rhaid ei deithio fyddai tua 30 milltir un ffordd, er y byddai teithiau’r rhan fwyaf o gleifion yn fyrrach.

Bydd adborth o’r ymgysylltiad â’r cyhoedd yn bwysig o ran penderfynu ar y ffordd orau i ni greu cydbwysedd rhwng amseroedd teithio a allai fod yn hwy a manteision gwasanaeth ychwanegol ac amseroedd aros byrrach am driniaeth.

Beth os na allaf deithio ymhellach?

Pa bynnag opsiwn a ddewisir ar gyfer y dyfodol, bydd gwasanaethau ar gael o hyd mewn ysbytai lleol (Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Tywysoges Cymru) a gall cleifion gael eu trin yn eu hysbyty lleol os na allant deithio ymhellach.

A yw'r meddygon yn cefnogi newid?

Ydynt, mae staff meddygol offthalmoleg yn cefnogi gwneud newidiadau i'r gwasanaeth. Mae meddygon am ddarparu'r gwasanaeth adfer golwg hwn i gynifer o gleifion â phosibl ac maent yn croesawu'r cyfle i leihau amseroedd aros a darparu gwasanaethau'n fwy effeithlon.

Dilynwch ni: