Ysbyty Cwm Rhondda
Heol y Betrisen
Llwynypia
CF40 2LX |
|
Rhif ffôn: 01443 430022
Cofiwch fod croeso i chi siarad Cymraeg gyda ni.
Mae'r Uned Mân Anafiadau ar agor o 8.30am - 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gellir trin y canlynol yn yr Uned:
- Toriadau a mân losgiadau
- Ysigiadau a straen
- Anafiadau i'r coesau a’r breichiau
- Dadleoli bysedd a bysedd traed
- Anafiadau i'r pen ac anafiadau i'r wyneb heb golli ymwybyddiaeth ac nid yw'r claf yn cymryd meddyginiaeth gwrthgeulo (teneuo gwaed).
- Anafiadau i'ch gwddf/cefn, lle gallwch symud heb unrhyw binnau bach yn eich breichiau neu'ch coesau
- Corffynnau estron yn y llygaid, y clustiau a'r trwyn
- Anafiadau sydd heb dreiddio i'r llygaid a'r glust
- Anafiadau Wal y Frest
- Brathiadau (pryfetach, anifail)
- Pigiadau pryfed
- Fel arall, gwiriwch GIG 111 Cymru am wybodaeth am wasanaethau addas yn eich ardal chi.