Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Strôc

Ym mis Mawrth 2015, gwelwyd penllanw ailgynllunio cynhwysfawr o wasanaethau strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys:

  • Creu gwasanaeth adsefydlu newydd yn y gymuned sy'n caniatáu rhyddhau cleifion strôc yn gynnar â chymorth.
  • Canoli gwasanaethau adsefydlu strôc cleifion mewnol tymor hwy yn Ysbyty Cwm Rhondda.
  • Canoli gwasanaethau adsefydlu hyperacíwt, strôc acíwt a strôc cynnar yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.
  • Uned Strôc Gyfunol yn Ward 5 Ysbyty Tywysoges Cymru sy'n gofalu am gleifion strôc hyperacíwt, strôc acíwt ac adsefydlu strôc.
  • Gwasanaeth mynediad cyflym i gleifion sydd wedi cael pwl ischaemig byrhoedlog (TIA)
  • Adran Achosion Brys 24/7 yn derbyn cleifion strôc hyperacíwt ac yn darparu thrombolysis strôc.

Ysgogwyd hyn gan yr angen i wella ansawdd gwasanaethau yn unol â safonau clinigol cenedlaethol lleol a mwy heriol fyth

Ar gyfer pwy?

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cleifion sy’n byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg yn bennaf, ond mae rhai cleifion o ardaloedd Byrddau Iechyd Powys ac Aneurin Bevan hefyd yn cael gofal strôc yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.

A all unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gwasanaeth brys yw hwn. Mae cleifion sydd â symptomau a amheuir yn cael eu hasesu yn dilyn derbyniad brys.

Oriau Agor
24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Beth i'w ddisgwyl

Os oes gennych symptomau strôc dylech ffonio 999.

Dylech ddisgwyl ymateb cyflym ac asesiad amserol i'r gwasanaeth priodol.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych symptomau strôc mae hwn yn argyfwng. Galwch 999.

Dolenni Defnyddiol

Dilynwch ni: