Neidio i'r prif gynnwy

Telerau defnyddio

Defnydd a Ganiateir 

Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (y wefan hon) gael mynediad at ddeunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Trwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn ymrwymo i ddilyn y telerau defnydd hyn. 

Er bod ymwelwyr yn gallu cael mynediad at gynnwys, lawrlwytho cynnwys a defnyddio cynnwys at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil breifat, wrth astudio neu wneud defnydd ohono’n fewnol), ni ddylai ymwelwyr atgynhyrchu nac ailgyhoeddi deunyddiau oddi ar y wefan hon heb ganiatâd perchennog y wefan/perchennog yr hawlfraint. 

Ni a/neu drydydd partïon, sydd yn berchen ar y delweddau, y logos a’r darluniau ar y wefan hon. Ni ddylid eu defnyddio heb gael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint. 

Rydych yn cydnabod bod pob hawl o ran eiddo deallusol yn ymwneud â’r wefan hon yn perthyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a, lle bo hynny’n berthnasol, i drydydd partïon. 

  

Gwybodaeth Bersonol 

Pan fyddwch chi’n darparu data sy’n datgelu pwy ydych chi ar y wefan hon yn wirfoddol (gan gynnwys ffurflenni adborth, holiaduron ac ati), ni fydd yr wybodaeth hon ond yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac er mwyn defnyddio’r wybodaeth honno at y diben arfaethedig. Dydyn ni ddim yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr y wefan gyda thrydydd partïon. 

  

Diogelu Rhag Feirysau 

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio nad oes unrhyw firysau yn ein deunyddiau. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn rhedeg rhaglen wrthfirysau ar unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw achosion o golli data, colli mynediad i’ch data neu ddifrod i’ch data neu i’ch system cyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunyddiau o’r wefan hon. 

   

Ymwadiad 

Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Fodd bynnag, mae cynnwys yn cael ei ddarparu er gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac wrth ei ddefnyddio fe fyddwch chi’n derbyn y risg sydd ynghlwm wrth wneud hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod na cholled yn sgil gweithred neu anwaith a wneir yn dilyn defnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon. 

   

Gwefannau Allanol 

Nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol y mae dolenni iddynt ar ein gwefan, nac am ddibynadwyedd y wybodaeth ar y gwefannau hynny. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r cynnwys ar y gwefannau hynny, nac am unrhyw ganlyniadau a ddaw yn sgil dilyn unrhyw gyngor ar y gwefannau hynny. Ni ddylid camgymryd rhestru am gymeradwyaeth o unrhyw fath. 

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio ar bob adeg, ac nid oes unrhyw reolaeth gennym dros argaeledd y tudalennau y mae dolenni iddynt, na thros unrhyw newidiadau i gyfeiriadau'r tudalennau hynny. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cadw’r hawl i wrthod dolenni neu i dynnu dolenni i unrhyw wefan. 

   

Diwygiadau i’r Telerau Hyn yn y Dyfodol 

Bydd diwygiadau i’r telerau hyn yn y dyfodol ar gael i’w gweld ar y wefan hon. 

 

Dilynwch ni: