Mae Llyfrgelloedd Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys tair llyfrgell, un wedi’i lleoli yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, un yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ac un arall yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ogystal â darparu mynediad i ystod o lyfrau, cyfnodolion ac e-adnoddau cenedlaethol, rydym hefyd yn darparu mynediad i adnoddau lleol:
Rydym hefyd yn darparu:
Darperir hyfforddiant ar:
Gall yr holl weithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'r holl fyfyrwyr ar leoliad yn y bwrdd iechyd ddefnyddio Llyfrgelloedd CTM.
Ni all cleifion gael mynediad uniongyrchol at ein gwasanaethau.
| Llyfrgell Ysbyty'r Tywysog Siarl | Llyfrgell Ysbyty Tywysoges Cymru | Llyfrgell Ysbyty Brenhinol Morgannwg |
| Dydd Llun - 7.30yb - 5.30yp | Dydd Llun - 9.00yb - 5.00yp | Dydd Llun - 9.00yb - 5.00yp |
| Dydd Mawrth - 7.30yb - 5.30yp | Dydd Mawrth - 9.00yb - 5.00yp | Dydd Mawrth - 9.00yb - 5.00yp |
| Dydd Mercher - 7.30yb - 5.30yp | Dydd Mercher - 9.00yb - 5.00yp | Dydd Mercher - 9.00yb - 5.00yp |
| Dydd Iau - 7.30yb - 5.30yp | Dydd Iau - 9.00yb - 5.00yp | Dydd Iau - 9.00yb - 5.00yp |
| Dydd Gwener - 7.30yb - 5yp | Dydd Gwener - 9.00yb - 5.00yp | Dydd Gwener - 9.00yb - 5.00yp |
| Dydd Sadwrn - Heb staff | Dydd Sadwrn - Heb staff | Dydd Sadwrn - Heb staff |
| Dydd Sul - Heb staff | Dydd Sul - Heb staff | Dydd Sul - Heb staff |
Mae mynediad 24 awr ar gael. Cysylltwch â staff y Llyfrgell i gael gwybod sut i gofrestru.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gellir benthyca hyd at 10 llyfr. Mae benthyciadau ar gael naill ai am 4 neu 2 wythnos fel arfer. Unwaith y byddant wedi'u benthyca, gellir adnewyddu llyfrau hyd at 3 gwaith. Gellir adnewyddu llyfrau naill ai ar-lein, dros y ffôn, drwy e-bost neu wyneb yn wyneb.
I bori drwy'r hyn sydd ar gael yn Llyfrgelloedd CTM, gallwch chwilio ein catalog. Gallwch gyfyngu eich chwiliad i naill ai RGH neu PCH neu POW, gan ddefnyddio'r terfynau ar ochr dde'r sgrin.
Cysylltwch â staff y Llyfrgell, os gwelwch yn dda, os hoffech archebu sesiwn Cynefino â’r Llyfrgell, neu i gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau a'n cyfleusterau.
Ewch i https://www.nhswls.org/ i gael manylion am Lyfrgelloedd GIG Cymru a'r gwasanaethau a ddarparwn.
Cysylltu â ni:
Ysbyty Tywysog Siarl (PCH)
llyfrgell.tywysogsiarl@wales.nhs.uk
01685 728251
Ysbyty Brenhinol Morgannwg (RGH)
llyfrgell.ysbytybrenmorgannwg@wales.nhs.uk
01443 443443 est 74470
Ysbyty Tywysoges Cymru (POW)
llyfrgell.penybont@wales.nhs.uk
01656 753610