Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Pediatrig

Mae'r gwasanaeth Seicoleg Glinigol Pediatrig yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd corfforol a'u teuluoedd. Ein nod yw helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ymdopi ag agweddau emosiynol a seicolegol ar iechyd a salwch. Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Seicolegwyr Clinigol sy'n gweithio ochr yn ochr â llawer o weithwyr iechyd proffesiynol eraill. Rydyn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at 18 oed.

Weithiau, gall y bobl rydyn ni'n eu gweld fod yn cael anawsterau gyda'u meddyliau, eu teimladau, eu hymddygiad a'u gallu i ymdopi ac, yn aml, bydd yr anawsterau hyn yn deillio o’u cyflwr meddygol, neu byddan nhw’n effeithio ar eu gallu i reoli eu cyflwr meddygol.

Sut mae cael apwyntiad?
  • Os ydych chi’n teimlo y byddai ein gwasanaeth o fudd, gallwch chi drafod hyn gyda Phediatregydd eich plentyn, Nyrs Glinigol Arbenigol, neu dîm meddygol amlddisgyblaethol ehangach e.e. ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol ac ati, a all eich atgyfeirio os byddan nhw’n cytuno.
Costau Teithio
  • Os ydych chi’n cael Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Teulu, gallwch chi hawlio costau trafnidiaeth.
Dilynwch ni: