Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau - Brechlyn Ffliw a Phigiad Atgyfnerthu COVID-19

Dyn mewn cot gaeaf gwyrdd mawr

Y ffordd orau o amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid yw drwy fanteisio ar y brechlynnau sy’n cael eu cynnig ar gyfer y Ffliw a COVID-19.

Y Ffliw

Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes cyflwr iechyd hirdymor gyda chi, neu os ydych chi’n feichiog neu'n hŷn. Yn gyffredinol, mae’r rheiny sy’n wynebu risg uchel o COVID-19 hefyd yn wynebu risg uwch o fynd yn sâl iawn gyda'r ffliw.

Cliciwch yma i gael gwybod sut gallwch chi gael eich pigiad ffliw

Pigiad Atgyfnerthu’r Hydref rhag COVID-19

Rydyn ni’n cynnig cyfle i bawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu'r hydref.

Cliciwch yma i gael gwybod sut gallwch chi gael eich pigiad atgyfnerthu COVID-19

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am ein Rhaglen Frechu COVID-19

Cyflyrau Anadlol - Cwestiynau Cyffredin

Oes unrhyw sgil-effeithiau o'r brechlyn rhag y ffliw i bobl â chyflyrau anadlol?

Fel gyda phob brechlyn, mae rhai sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â'r brechlyn rhag y ffliw, ond mae'r rhan fwyaf yn ysgafn a thros dro, fel dolur ar y fan lle cawsoch chi bigiad neu dwymyn ysgafn. Yn gyffredinol, mae'r sgil-effeithiau hyn yn cael eu goddef yn dda gan unigolion â chyflyrau anadlol. Mae sgil-effeithiau difrifol yn brin1.

1 Gwybodaeth Diogelwch Brechlyn Rhag y Ffliw | CDC

Pam fod brechlyn rhag y ffliw mor bwysig i bobl â chyflyrau anadlol?

Mae'r brechlyn rhag y ffliw yn helpu i ddiogelu rhag straeniau feirws y ffliw y disgwylir iddyn nhw fod fwyaf cyffredin yn ystod tymor y ffliw. Mae pobl â chyflyrau anadlol yn fwy agored i heintiau anadlol2. Gall y ffliw fod yn arbennig o ddifrifol i unigolion â chyflyrau anadlol. Dyna pam yr ydyn ni’n argymell cael brechlyn rhag y ffliw. Os yw unigolyn sydd wedi'i frechu wedi dal y ffliw, mae'n debygol o fod yn ysgafnach, ac na fydd yn para mor hir3.

Brechiadau rhag y ffliw | Asthma + Lung UK (asthmaandlung.org.uk)
Brechlyn rhag y ffliw - NHS (www.nhs.uk)

All brechlyn rhag y ffliw sbarduno pwl o asthma?

Na, dydy'r brechlyn rhag y ffliw ddim yn achosi pwl o asthma. Mewn gwirionedd, mae'n ddiogel i bobl ag asthma dderbyn y brechlyn rhag y ffliw2. Mae modd defnyddio'r brechlyn chwistrell trwynol (brechlyn ffliw byw wedi'i wanhau) ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed os nad ydyn nhw’n profi gwaethygiad difrifol o symptomau ar hyn o bryd gan gynnwys mwy o wichian a/neu angen triniaeth broncoledydd ychwanegol yn y 72 awr flaenorol4.

Brechiadau rhag y ffliw | Asthma + Lung UK (asthmaandlung.org.uk)
4 Brechlyn rhag y ffliw i blant - NHS (www.nhs.uk)

Oes brechlynnau rhag y ffliw penodol ar gyfer pobl â chyflyrau anadlol?

Na, does dim brechlynnau rhag y ffliw penodol ar gyfer pobl â chyflyrau anadlol. Mae gwahanol fathau o frechlynnau rhag y ffliw ar gael yn gyffredinol, gan gynnwys brechlynnau i’w chwistrellu a brechlynnau chwistrell trwynol. Rydyn ni’n argymell y brechlyn i’w chwistrellu ar gyfer y rhan fwyaf o bobl â chyflyrau anadlol 18+ oed a’r brechlyn chwistrell trwynol ar gyfer y rhai dan 18 oed nad ydyn nhw’n profi gwaethygiad o symptomau.

Pryd yw'r amser gorau i gael y brechlyn rhag y ffliw os oes gyflwr anadlol gyda chi?

Yn gyffredinol, rydyn ni’n argymell cael y brechlyn rhag y ffliw cyn gynted ag y bydd ar gael/yn cael ei gynnig. Mae'r rhan fwyaf o frechlynnau rhag y ffliw yn cael eu rhoi yn yr hydref, cyn i'r ffliw ddechrau cylchredeg. Mae cael eich brechu'n gynnar, cyn mis Rhagfyr yn ddelfrydol, yn caniatáu i'r corff feithrin imiwnedd cyn i'r ffliw ddod yn gyffredin. Gellir rhoi brechiadau ffliw hyd at 31 Mawrth.

All pobl â chyflyrau anadlol ddibynnu ar frechlyn rhag y ffliw yn unig i'w amddiffyn?

Er bod y brechlyn rhag y ffliw yn fesur ataliol hanfodol, mae mesurau diogelu personol y gallwch eu cymryd, er enghraifft, dilyn yr arwyddion 'Ei Ddal. Ei Daflu. Ei Ddifa.', dilyn gweithdrefnau golchi dwylo ac osgoi cysylltiad agos â phobl sy'n sâl â'r ffliw. Mae hefyd yn bwysig i bobl â chyflyrau anadlol barhau i reoli eu cyflwr trwy ddilyn eu cynllun triniaeth sydd wedi’i bresgripsiynu, gan gynnwys cymryd meddyginiaethau yn unol â chyfarwyddiadau ac osgoi sbardunau sy'n gwaethygu eu symptomau.

Ydy'r brechlyn rhag y ffliw am ddim i bobl â chyflyrau anadlol?

Ydy, mae'r brechlyn rhag y ffliw am ddim i bobl â chyflyrau anadlol. Yr unig eithriad i hyn yw os oes asthma gyda chi. Gydag asthma, mae angen i chi fod ar fewnanadlydd steroid / tabledi i fod yn gymwys i gael brechlyn rhag y ffliw am ddim.1

1 Gwybodaeth Diogelwch Brechlyn Rhag y Ffliw | CDC

Ydy'r brechlyn ffliw yn gwneud cyflyrau anadlol yn waeth?

Nac ydy, ni fydd y brechlyn rhag y ffliw yn gwneud eich cyflwr anadlol yn waeth, ond gall cael y ffliw ei waethygu.

Fydd y brechlyn rhag y ffliw yn rhyngweithio â meddyginiaethau eraill?

Mae effaith brechlynnau rhag y ffliw ar feddyginiaethau eraill yn fach iawn. Er gwaethaf yr effeithiau hyn, nid oes unrhyw ryngweithio cyffuriau niweidiol hysbys sy'n digwydd gyda brechlynnau rhag y ffliw5.

5 Llyfr Gwyrdd Pennod 19 - Ffliw (publishing.service.gov.uk)

Ydy hi'n ddiogel cael y brechlyn rhag y ffliw gyda brechlynnau eraill?

Mae'n ddiogel cael y brechlyn rhag y ffliw ochr yn ochr â brechlynnau eraill y gaeaf, fel brechlyn atgyfnerthu hydref COVID-19 a'r brechlyn niwmococol. Mewn gwirionedd, efallai y byddwch chi’n cael eu cynnig ar yr un pryd.

Beth os oes gen i alergedd i'r brechlyn rhag y ffliw?

Mae'n anghyffredin iawn cael adwaith alergaidd difrifol i frechlyn rhag y ffliw. Os bydd hyn yn digwydd, fel arfer bydd yn digwydd o fewn ychydig funudau ar ôl iddo wneud3. Bydd y person sy'n eich brechu yn cael ei hyfforddi i ddelio ag adweithiau alergaidd. Mae rhai brechlynnau rhag y ffliw yn cael eu gwneud gan ddefnyddio wyau. Mae hyn yn golygu, os oes gennych alergedd wy, efallai y byddwch chi mewn perygl o adwaith alergaidd i'r pigiad brechlyn rhag y ffliw5. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu fferyllydd am frechlyn gyda chynnwys wyau isel neu heb wyau.

Brechlyn rhag y ffliw - NHS (www.nhs.uk)
5 Llyfr Gwyrdd Pennod 19 - Ffliw (publishing.service.gov.uk)

Oes gan y brechlyn rhag y ffliw porc ynddo?

Mae olion bach o gelatin moch yn y brechlyn chwistrell trwynol, sydd fel arfer yn cael ei roi i blant. Os yw unigolyn yn poeni am y cynnwys gelatin porc, efallai y bydd yn gallu cael brechlyn i’w chwistrellu yn lle hynny, sydd ddim yn cynnwys unrhyw gynhyrchion porc6.

6 Brechlyn rhag y ffliw 2022-23 « The Villa Medical Centre (villamedicalcentrewirral.nhs.uk)

Beth os oes gen i ofn nodwyddau?

Os oes ofn nodwyddau arnoch chi, rhowch wybod i'ch fferyllydd neu feddyg teulu cyn yr apwyntiad brechu fel bod cymorth a sicrwydd angenrheidiol ar gael i chi yn ystod eich apwyntiad.

Dilynwch ni: