Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint

Mae Gwiriadau Iechyd Ysgyfaint y GIG AM DDIM yn cael eu cynnig i bobl:

  • O feddygfeydd dethol yn ardal y Rhondda
  • Sy'n ysmygu neu sydd wedi ysmygu yn y gorffennol
  • Sydd rhwng 60 a 74 oed

Mae'r holl wahoddiadau ar gyfer y rhaglen beilot Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint hon bellach wedi'u hanfon. Os dydych chi ddim wedi derbyn gwahoddiad, yn anffodus fyddwn ni ddim yn gallu cynnig Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint i chi.

Nod gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yw canfod a thrin canser yr ysgyfaint yn gynnar, cyn i chi gael unrhyw arwyddion neu symptomau.

Mae gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yn achub bywydau.

Hoffech chi wybod mwy? Cliciwch ar y dolenni isod neu lawrlwythwch un o'n Llyfryn Gwybodaeth, sydd ar gael fel fersiynau safonol a Hawdd eu Darllen, yn Saesneg ac yn Gymraeg. 

Dilynwch ni: