Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) yn adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i hyrwyddo mwy o natur agored gan awdurdodau cyhoeddus. Pwrpas y DRhG yw sicrhau bod pob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn agored ac yn dryloyw, gan sicrhau bod mwy o wybodaeth amdanynt ar gael yn rhwydd. I'r perwyl hwn, mae'r DRhG yn darparu ar gyfer mynediad cyhoeddus i wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus (ond nid gwybodaeth bersonol fel cofnodion meddygol).
Er mwyn i'ch cais gael ei drin yn unol â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG), rhaid i chi:
Does dim rhaid i chi:
Sylwch: Os ydych am ofyn am gopi o'ch cofnodion meddygol, peidiwch â defnyddio cyfeiriad e-bost Rhyddid Gwybodaeth os gwelwch yn dda . Gellir cyfeirio eich cais at CTT_Medrecordrequest@wales.nhs.uk, neu gallwch chi gysylltu â'r adran cofnodion meddygol trwy ffonio 01443 443443. Mae croeso i chi wneud hynny yn y Gymraeg ac ni fydd gwneud hynny yn arwain at unrhyw oedi.
Gall ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth gael eu hanfon drwy'r cyfeiriadau canlynol. Mae croeso mawr i chi gyflwyno cais yn y Gymraeg ac ni fydd hynny'n arwain at oedi:
Chwilio am arweiniad ar wneud cais Rhyddid Gwybodaeth? Gweler ein Cwestiynau Cyffredin defnyddiol isod.
Mae'r log datgeliadau yn rhoi manylion am geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniwyd ac yr ymatebwyd iddynt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae pob ymateb a roddwyd yn cael ei gyhoeddi yn ddienw.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus yn ein canllawiau.