Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

15/10/26
Diwrnod Shwmae Su'mae Hapus 2026!

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae gyda lansiad ei Rwydwaith Pencampwyr y Gymraeg newydd, gan helpu i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ar draws gwasanaethau gofal iechyd a gwella profiadau cleifion, teuluoedd a chymunedau.

14/10/26
Sut mae rhoddion lleol yn helpu gwella llawdriniaeth ar y fron yn Lili Wen Fach

Mae system Pintuition , a ariennir drwy gronfa Giving to Pink Elusen GIG CTM, yn helpu llawfeddygon i leoli ardaloedd targedig o feinwe'r fron yn ystod llawdriniaeth, gan gynnig dewis arall di-wifr i dechnegau traddodiadol.

13/10/26
I Harlow: Mae Jasmine yn codi £1,400 i gefnogi teuluoedd sy'n profi colli babi

Mae Jasmine wedi cymryd rhan yn Hanner Marathon Manceinion er cof am ei nith, Harlow, gan godi dros £1,400 hyd yn hyn i gefnogi teuluoedd sy'n profi colled babanod yn Ysbyty Tywysoges Cymru. 

13/10/26
Gwelyau Cymunedol - Cwestiynau Cyffredin

Mae gwelyau cymunedol yn darparu gofal i gleifion nad oes angen triniaeth arnyn nhw mwyach mewn gwely ysbyty acíwt, ond nad ydyn nhw’n hollol barod i ddychwelyd adref eto.  

12/10/26
Canolfan Iechyd a Lles newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn agor

Mae Canolfan Iechyd a Lles Newydd Cwm Taf Morgannwg ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn agor ei drysau am y tro cyntaf i’r gymuned heddiw, dydd Llun 12 Hydref.

09/10/26
Mae'n dda siarad. Mae hyd yn oed yn well cael eich clywed.

Dyma neges Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2026.

06/10/26
Dathlu a chefnogi pobl hŷn ledled Cwm Taf Morgannwg - Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 

Dros y penwythnos, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn falch o ymuno ag aelodau o Grŵp Ymgynghorol Pobl Hŷn (OPAG) - sy'n cynrychioli Fforymau Pobl dros 50 oed Rhondda Cynon Taf - i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 2026.

01/10/26
Helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd a lles ym Maesteg a Chwm Llynfi - dygwyddiau ymgysylltu yn eich gymuned

Rydym yn gwahodd preswylwyr ar draws Maesteg a Chwm Llynfi i rannu eu barn ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a lles lleol.

30/09/26
Ymgynghoriad ar Batrymau Sifftiau wedi'i estyn tan 23 Hydref

Ar ôl trafodaethau gyda'n cydweithwyr Undeb Llafur, mae'r cyfnod ymgynghori ar batrymau sifftiau presennol wedi’i ymestyn i roi mwy o amser i gydweithwyr adolygu'r cynigion a rhannu eu barn.

23/09/26
Cyhoeddwyd MTX fel Prif Noddwr Gwobrau Blynyddol Seren CTM 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch o gyhoeddi mai MTX yw Prif Noddwr Gwobrau Blynyddol Seren 2026.

21/09/26
Gweinidog y Cabinet yn Ymweld â Datblygiad Parc Iechyd Llantrisant

Ymwelodd Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru, Mabon ap Gwynfor, â safle'r Parc Iechyd newydd yn Llantrisant heddiw, dydd Llun 21 Medi. Mae'r datblygiad gofal iechyd mawr hwn yn mynd i wella mynediad at wasanaethau diagnostig a gofal wedi'i gynllunio i gymunedau ledled de-ddwyrain Cymru.

17/09/26
Cynnydd cyffrous ym Mharc Iechyd Llantrisant

Mae wedi bod yn gyfnod prysur ar y safle dros yr wythnosau diwethaf; mae modiwlau wedi cyrraedd ac, am y tro cyntaf, mae'r adeilad newydd wir yn dechrau cymryd siâp.

17/09/26
Diweddariad ar Ganolfan Iechyd a Lles Newydd Pen-y-Bont ar Ogwr

Cyn ei agor ym mis Hydref, mae'r gwaith o roi’r cyffyrddiadau olaf ar y Ganolfan Iechyd a Lles newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr bellach ar y gweill. Bydd y cyfleuster gofal iechyd newydd hwn yn darparu gwasanaeth pwysig i'r dref.

16/09/26
Dyfodol Iachach i Gwm Llynfi

Gallai pobl ledled Maesteg a Chwm Llynfi ehangach elwa o fwy o wasanaethau iechyd, lles a chymunedol yn nes at adref trwy gynlluniau arfaethedig ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd yng Nghwm Llynfi yn Oakwood Drive, ger Heol Ewenni.

11/09/26
Cullen, chwech oed, yn cwblhau triathlon i godi arian ar gyfer y Ward Plant a ofalodd amdano

Ar ôl mwy na 60 o dderbyniadau i'r ysbyty yn ystod ei blentyndod cynnar, mae Cullen Roderick, chwech oed, wedi dod o hyd i ffordd unigryw o ddiolch i'r tîm sydd wedi'i helpu dros y blynyddoedd.

08/09/26
Helpu i Llunio Dyfodol Iechyd a Llesiant yng Nghwm Llynfi

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gwahodd pobl leol, grwpiau cymunedol a sefydliadau i helpu i lunio cam nesaf y rhaglen Dyfodol Iach Maesteg.

08/09/26
Llwyddiant tair gwobr i dîm datblygu Ysbyty'r Tywysog Siarl

Mae'r tîm y tu ôl i'r rhaglen ailddatblygu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn dathlu ar ôl cael eu cydnabod trwy ennill tair gwobr fawreddog yn y diwydiant.

04/09/26
Wythnos Atal Cwympiadau: 21 - 25 Medi 2026

Yr Wythnos Atal Cwympiadau hon, bydd gwasanaeth Peidiwch â Chwympo Amdani CTM yn cynnig cyfres o gyfleoedd am ddim ledled Cwm Taf Morgannwg, wedi'u cynllunio i helpu unrhyw un a allai fod yn poeni am gwympo, neu sydd â diddordeb mewn dysgu mwy ar ran aelod o'r teulu neu ffrind, i ddod draw a chael rhywfaint o wybodaeth.

03/09/26
Achrediad Arian GreenED wedi'i dderbyn gan Adrannau Argyfwng YTC, YTS ac YBM

Yr wythnos diwethaf, llwyddodd Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ennill statws Arian GreenED gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.

28/08/26
Pasbort Gofalwyr newydd yn cael ei lansio i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws CTM

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lansio Pasbort Gofalwyr newydd i helpu i gydnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl sy'n chwarae rhan hanfodol wrth ofalu am aelodau'r teulu, ffrindiau ac anwyliaid.

Dilynwch ni: