Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cefnogi Gofalwyr

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio gofalwr fel rhywun sy’n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl. Gall y person sy’n derbyn gofal fod yn aelod o’r teulu neu’n ffrind, sydd ddim yn gallu ymdopi heb gefnogaeth y gofalwr oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu fod yn gaeth i rywbeth. Gallai gofalwr fod yn ŵr sy’n gofalu am ei wraig, yn rhiant sy’n gofalu am ei blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth neu’n blentyn sy’n gofalu am ei riant.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Yn ôl ein Datganiad Cenhadaeth ni, bydd gofalwyr o bob oedran yng Nghwm Taf Morgannwg yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi fel pobl sy’n chwarae rhan hollbwysig o ran y cymorth y maen nhw’n ei roi i deuluoedd a chymunedau. Fydd dim rhaid iddyn nhw ofalu ar eu pen eu hunain, a bydd gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael iddyn nhw i ddiwallu eu hanghenion. Bydd hynny yn eu grymuso i fyw bywydau iach a bodlon ac i daro’r cydbwysedd iawn rhwng gofalu a’u bywyd y tu allan i ofal.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Does dim gofalwr nodweddiadol, boed nhw’n ofalwyr ifanc, gofalwyr sy’n gofalu am frodyr a chwiorydd, gofalwyr sy’n oedolion ifanc, gofalwyr sy’n rhieni i blant anabl, gofalwyr o oedran gweithio neu ofalwyr hŷn, sy’n gofalu am aelodau o’r teulu, partneriaid neu ffrindiau am eu bod nhw’n sâl, yn fregus neu’n anabl ac angen help. Gall y gofal maen nhw’n ei roi fod yn ofal corfforol, emosiynol neu gymdeithasol. Efallai na fydd unigolion yn ystyried eu hunain yn ofalwyr. Yn hytrach, byddan nhw’n ystyried eu hunain yn bennaf yn rhiant, yn wraig, yn ŵr, yn bartner, yn fab, yn ferch, yn gyfaill neu’n gymydog.

Sut gallwn ni eich cefnogi chi?

Mae nifer o ffyrdd y gall lleoliadau gofal acíwt a sylfaenol eich cefnogi gyda gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â'r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu a'r rhai sy’n cael eu darparu gan sefydliadau gwirfoddol yn y gymuned.

Gofal sylfaenol – ar ôl rhoi gwybod i’ch meddyg teulu eich bod yn ofalwr, bydd eich meddygfa yn gallu storio’r wybodaeth hon yn eich cofnodion. Yna bydd yn gallu eich

cyfeirio at wasanaethau cymorth sydd ar gael yn eich cymuned a gwasanaethau perthnasol eraill.

Gofal acíwt (lleoliad ysbyty) – mae gan CTM gydlynydd gofalwyr a fydd yn gallu rhoi cyngor/cymorth pan fydd rhywun rydych chi’n gofalu amdano yn yr ysbyty. Mae modd cysylltu â’r cydlynydd, sy’n gweithio ar draws y safleoedd ysbyty gwahanol, drwy’r rhif ffôn/e-bost isod:-

David Watkins - Cydlynydd Gofalwyr
Rhif Ffôn: 07557930676
E-bost: CTM_carers@wales.nhs.uk

Cysylltwch â ni

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 01443 744825
  • Prosiect Cefnogi Gofalwyr Rhondda Cynon Taf 01443 281463
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 01685 724500
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 01656 643643

Dolenni Defnyddiol

Dilynwch ni: