Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 2022

Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 2022

Wythnos yma yw Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd. Mae unigrwydd yn deimlad a gawn pan na fydd ein hangen am gysylltiad cymdeithasol â phobl eraill yn cael ei ddiwallu, ac mae hyn yn gallu gwneud i ni deimlo’n wag. Yn aml, bydd angen i bobl gysylltu â phobl eraill, ond mae eu cyflwr meddwl yn gallu ei gwneud hi’n anodd ffurfio'r cysylltiadau hyn. Mae unigrwydd yn gallu effeithio ar bob un ohonom ni ar ryw adeg yn ein bywyd, ac mae pawb yn ystyried unigrwydd yn wahanol. Mae hyn yn awgrymu i mi fod llawer o ffyrdd o fynd i'r afael ag unigrwydd ac mae'n bwysig deall yr anghenion o ran cymorth sy'n gweithio i ni. 

Er y gallem ni i gyd fod wedi teimlo’n unig o’r blaen, mae siarad â phobl eraill a chyfaddef ein bod ni’n teimlo'n unig yn anoddach o lawer. Mae astudiaeth yn awgrymu bod menywod yn fwy tebygol na dynion o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n unig.  Mae angen taer i ni normaleiddio rhannu ein meddyliau a'n teimladau a chofio bod modd trin teimladau anodd, gan gynnwys meddwl am unigrwydd, gyda'r cymorth a'r cysylltiadau cywir o'ch cwmpas.  

Mae unigrwydd yn gallu cael effaith andwyol ar iechyd a lles cyffredinol, ac mae’n gallu arwain at faich afiechydon a chyfraddau marwolaethau uwch. Mae hyn yn cael effaith enfawr ar y galw am wasanaethau ac ar restrau aros y GIG. Mae’n hanfodol bwysig dod o hyd i ffyrdd newydd o hunan-reoli.  

Does dim rheswm penodol sy’n esbonio pam mae pobl yn teimlo’n unig, gan fod profiad pob unigolyn yn wahanol. Mae’n bosib teimlo’n unig hyd yn oed pan fyddwn ni mewn cysylltiad â phobl bob dydd. Mae llawer o ddigwyddiadau yn ein bywyd, newidiadau yn ein ffordd o fyw a phrofiadau’n gallu gwneud i ni deimlo'n unig. Mae deall sut i reoli a llywio'r rhain yn gallu bod yn fuddiol wrth fynd i'r afael ag unigrwydd. 

Pan oeddwn i’n byw yn Llundain am 10 mlynedd cyn symud i Gymru, roeddwn i’n teimlo’n unig, hyd yn oed mewn dinas fawr gyda llawer o bobl o fy nghwmpas. Rwy'n cofio fy mlwyddyn gyntaf yn byw yno ac yn mynd ar drên dan ddaear, a doedd neb yn gwneud cyswllt llygad â mi na hyd yn oed yn gwenu arna i. Roedd yn deimlad rhyfedd a brawychus, ac ar adegau roeddwn i'n teimlo'n ynysig iawn. 

Penderfynais fod angen i mi newid fy ymddygiad er mwyn gwella fy lles fy hun a dechreuais drwy geisio gwneud cyswllt llygad â phobl a gwenu arnyn nhw. Er i mi gael ambell olwg rhyfedd, cafodd ei groesawu gan lawer o bobl eraill, gan ddechrau sgwrs gyda rhai o bobl hyd yn oed. Es i ati gyda’r ymddygiad newydd hwn, ac yn fuan roeddwn i’n teimlo’n llai ynysig ac unig, ac rwy’n cofio cymaint y byddai’n codi fy nghalon gweld gwên gan rywun arall.  

Rhoddodd hyn bersbectif newydd sbon i mi ar deimlo’n unig, gan i mi sylweddoli ambell ddiwrnod mai'r bobl hyn y ces i gysylltiad â nhw oedd yr unig bobl y byddwn i’n siarad â nhw drwy’r dydd. Rwy’n deall nawr fod y pethau bychain yn gallu eich atal rhag teimlo'n unig neu'n ynysig.   

Y cam cyntaf i fynd i'r afael ag unigrwydd yw ei gydnabod a siarad amdano gyda rhywun. Mae cymaint o ffyrdd o gael cymorth pan fyddwn ni'n teimlo'n unig ac, er ei bod hi’n teimlo fel hynny, mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun! 

Cysylltu! 

Cysylltu â phobl eraill yw un o'r ffyrdd o deimlo’n llai unig, a gallai hyn fod mor syml â chodi'r ffôn a chael sgwrs â ffrind neu ag aelod o'r teulu. Mae llawer o wasanaethau cyfeillio ar gael hefyd sy'n cynnig galwadau ffôn a llinellau sgwrsio cyfrinachol un wrth un i'r rheiny sy'n teimlo’n eithriadol o ynysig.

Ymuno!  

Mae ymuno â grŵp yn ffordd dda o gwrdd â phobl newydd yn ogystal â gwneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau. Yn bersonol, rydw i wrth fy modd yn cerdded a bod allan ym myd natur, felly des i o hyd i grŵp oedd yn addas i fy ngallu ac oedd yn ffordd wych o wella fy lles a gwneud i mi deimlo’n llai unig. Yn ogystal â hynny, roedd hyn yn gwella fy ffitrwydd ac felly’n gwella fy lefelau o egni a chymhelliant ymhellach, a gwella fy mhrosesau meddwl.  

Rhannu!  

Mae siarad â phobl eraill ynglŷn â’n teimladau’n gallu ein helpu i deimlo’n llai unig. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi ddeall nad ydych chi ar eich pen eich hun, a bod llawer o bobl wedi profi teimladau tebyg ac yn gallu rhoi syniadau a chyngor i chi ynglŷn â beth sydd wedi eu helpu nhw. Yn ogystal â hynny, mae’n tynnu sylw at y ffaith bod ein meddyliau a'n teimladau fel arfer yn ymateb naturiol i straen bywyd bob dydd a bod pob un ohonom ni’n wynebu hyn. Mae rhannu hefyd yn ein helpu i gysylltu â phobl eraill ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn a phwrpas i ni.  

Helpu!  

Gofalwch am eich gilydd a gwnewch ymdrech i gysylltu â'r rheiny sydd o bosib yn teimlo'n ynysig neu'n unig. Mae’n bosib mai eich cymydog drws nesaf neu rywun sy’n aros am fws ar ei ben ei hun yw hwn. Efallai mai chi yw'r person cyntaf i siarad â’r person hwnnw drwy’r dydd neu hyd yn oed drwy'r wythnos, a gallai rhywbeth mor syml â hyn helpu’r person hwnnw i deimlo'n llai unig.  Rhowch gynnig ar hyn drwy siarad â'r person sy'n gwasanaethu yn eich siop neu archfarchnad leol, a bydd hyn yn helpu i fagu hyder wrth siarad â phobl newydd. 

Gwasanaethau WISE  

Mae Tîm WISE yn deall pwysigrwydd cynnal cysylltiadau cymdeithasol er mwyn teimlo’n llai unig a gwella iechyd a lles pobl. Creu cysylltiadau cymdeithasol yw un o'n dulliau holistaidd rydyn ni’n eu trafod, ac mae amrywiaeth o wasanaethau gyda ni fydd yn eich galluogi i gysylltu â phobl eraill, gwneud cysylltiadau cymdeithasol newydd a dechrau dod o hyd i'ch ffyrdd eich hun o reoli teimladau o unigrwydd.

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451/01685 351 444. Ewch i'r adran Iechyd Meddwl ar ein gwefan: https://bipctm.gig.cymru/wise-ctm/ein-gwasanaeth/lles-meddyliol

Awdur: Sally Pisani


Dolenni Defnyddiol


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm
Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

 

Dychwelyd at Blog Hoot