Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Iechyd Cyhoeddus

Pwy ydym ni a beth ydym ni’n ei wneud:

Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg wedi’i leoli o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae’n cynnwys:

  • Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd, Rheolwyr Proffesiynol, Ymgynghorwyr a staff Gweinyddol
  • Dadansoddwyr Data
  • Y tîm Ysgolion a Chyn-Ysgolion Iach
  • Gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu Helpa Fi i Stopio

Gan weithio gyda phartneriaid statudol a thrydydd sector, gweledigaeth y tîm yw diogelu a gwella iechyd poblogaeth Cwm Taf Morgannwg. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn defnyddio data a deall ymddygiad i nodi a mynd i'r afael â materion iechyd ein poblogaeth, gan helpu i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd a chynyddu disgwyliad oes iach.

Rydym yn gweithio ar draws Awdurdodau Lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, sydd â phoblogaeth o 450,000.

 

Mae Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn arwain y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol ac mae wedi’i rannu ar draws dau safle: Parc Iechyd Prifysgol Kier Hardie, Merthyr Tudful ac Ysbyty Glanrhyd, Pen-y-bont ar Ogwr.

I gael rhagor o wybodaeth am feysydd ffocws ein tîm, ac adroddiadau a chyhoeddiadau, cliciwch ar y teils isod.

Dilynwch ni: