Neidio i'r prif gynnwy

Henry

Bydd pob atgyfeiriad ac felly darpariaeth rhaglenni a gweithdai yn dod i ben o 17 Gorffennaf 2024 i ganiatáu amser i'r tîm weithio gyda theuluoedd i ystyried eu hanghenion unigol ar draws BIP cyfan CTM i greu cynnig gwasanaeth newydd ar gyfer 2025!

Mae gweithio i gefnogi ein plant a’n teuluoedd gyda phroblemau sy’n ymwneud â phwysau iach yn flaenoriaeth, ond rydym wedi wynebu heriau parhaus o ran staffio a chyflenwi ac rydym bellach yn adolygu ein dulliau hirdymor o ran sut rydym yn cefnogi teuluoedd ar hyd cwrs bywyd i gefnogi iechyd, gweithgarwch a lles. 

Mae cymorth pellach ar gael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg trwy raglenni Deieteg Iechyd y Cyhoedd ar gyfer oedolion a phlant 3-7 mlwydd oed ym Merthyr, Rhondda a Thaf Elái a byddwn yn parhau i ddiweddaru ein tudalennau gwe gyda chymorth a gwybodaeth i deuluoedd.

Mae ein gweithdai HENRY terfynol ar gyfer y teuluoedd hynny sydd wedi cofrestru ac yn cael ei hamlinellir isod:

  • 11 Mehefin Deall Ymddygiad Plant (Ardal Pen-y-bont ar Ogwr)
  • 20 Mehefin Bwyta Ffwslyd (Rhithwir)
  • 25 Mehefin Bwyta'n Iach am Lai (Rhithwir)
  • 8 Gorffennaf Dechrau Bwyd Solet (Ardal Merthyr)
  • 16 Gorffennaf Bwyta Ffwslyd (ardal Pen-y-bont ar Ogwr)

Os ydych wedi ymuno â gweithdy yn ddiweddar byddwn yn cysylltu a chi ac os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â thîm HENRY: HENRY_CTM_PHW@wales.nhs.uk

PIPYN

Os oes gennych blentyn 3-7 mlwydd oed sy'n byw yn ardaloedd Merthyr, Rhondda neu Taf Elái, mae Tîm PIPYN yma i chi fyw bywyd iachach a mwy actif! Ymweld â'r tîm yma; PIPYN Merthyr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gallwch hefyd ymweld â thudalennau Cychwyn Iach, Dyfodol Iach a thudalennau PIPYN Merthyr i gael cefnogaeth a gwybodaeth i deuluoedd.

Rhagor o Wybodaeth

Am ragor o wybodaeth a chyngor ewch i’r tudalennau Gwybodaeth a Chymorth Pwysau Iach sydd i’w gweld yma: Gwybodaeth a Chymorth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dilynwch ni: