Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Blinder Sylfaenol

Mae'n bwysig, os oes unrhyw bryderon gyda chi am eich symptomau, ac yn meddwl y gallai fod gennych ME/CFS, COVID Hir neu Flinder Ôl-Feirysol, eich bod chi’n siarad â'ch meddyg teulu, ymgynghorydd neu weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd (e.e. nyrs, ymarferydd nyrsio, therapydd) am eich pryderon. Byddan nhw am ddiystyru achosion eraill y gellir eu trin ar gyfer eich symptomau cyn eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Blinder Sylfaenol. Bydd angen iddyn nhw wirio profion gwaed ac efallai y byddan nhw hefyd am wneud profion syml eraill, yn dibynnu ar eich symptomau. Does dim prawf i wneud diagnosis o ME/CFS, COVID Hir neu Flinder Ôl-Feirysol, mae'r profion hyn i sicrhau nad yw eich symptomau'n cael eu hachosi gan rywbeth arall y gellir ei drin ond mewn ffordd wahanol.

Croeso i'r Gwasanaeth Blinder Sylfaenol. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n byw gydag Enseffalomyelitis Myalgig neu Syndrom Blinder Cronig (ME/CFS), COVID Hir, a Blinder Ôl-Feirysol, lle mae achosion meddygol eraill wedi'u diystyru. Mae profiad pawb o fyw gyda'r cyflyrau hyn yn wahanol. Bydd rhai pobl yn profi un neu ddau o symptomau, ac efallai y bydd gan eraill lawer. Gall yr effaith ar fywyd dyddiol a lles amrywio o ysgafn iawn, i ddifrifol iawn. Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth gyffredinol am y cyflyrau hyn a rheoli symptomau, ac yn cynnig mwy o wybodaeth am y gwasanaeth, lle mae cefnogaeth wedi'i phersonoli yn fwy. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaeth a rhai o'r symptomau mwy cyffredin a'u rheolaeth yn yr adrannau isod.

Mae unrhyw gyngor ar y tudalennau hyn yn gyffredinol ar draws y cyflyrau rydyn ni'n helpu gyda nhw ac nid yw wedi'i fwriadu i gymryd lle cyngor meddygol proffesiynol, diagnosis na thriniaeth.

Beth yw Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig (ME/CFS)?
Beth yw COVID hir?
Beth yw Blinder Ôl-feirysol?
Beth yw Anhwylder ôl-ymarferol (post-exertional malaise - PEM) neu Waethygu Symptomau ôl-ymarferol (post-exertional symptom exacerbation - PESE)?
Gorflinder
Meddwl pŵl
Diffyg anadl
Ymdopi ag Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol
Cwsg
Bwyta ac yfed yn dda
Blas ac arogl
Poen
Sensitifrwydd i Golau
Rhagor am y Gwasanaeth
Gwybodaeth i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol
Dolenni defnyddiol eraill
Fideos
Dilynwch ni: