Prif rôl y Bwrdd yw sicrhau bod system y GIG yn lleol yn cael ei chynllunio a’i chyflawni mewn modd effeithiol, o fewn fframwaith llywodraethu cadarn, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus o’r safonau uchaf, gwella iechyd a threchu anghydraddoldebau, a chyrraedd y canlyniadau gorau ar gyfer ei ddinasyddion, a hynny mewn modd sy’n hybu hawliau dynol.
Dylai ein Bwrdd Iechyd, yn flynyddol, dderbyn Cylch Busnes sy'n nodi'r adroddiadau a fydd yn cael eu cyflwyno'n rheolaidd i'w hystyried. Mae'r Cylch blynyddol yn un o'r cydrannau allweddol wrth sicrhau bod ein Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei rôl yn effeithiol.
Gallwch weld y Cylch Busnes (sy'n cwmpasu'r cyfnod 01 Ionawr, 2021 i 31 Mawrth, 2022) yma. Mae'r Cylch Busnes wedi'i ddatblygu i helpu i gynllunio rheolaeth materion y Bwrdd a hwyluso rheoli agendâu a busnes pwyllgor.