Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau am fynediad at gofnodion iechyd

Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gyfer ysbytai dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM), h.y. Ysbyty Dewi Sant, Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie, Ysbyty'r Tywysog Siarl, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda.

Mae hawl gyfreithiol gydag unigolion i gael mynediad at ddata personol amdanyn nhw sy’n cael ei gadw gan unrhyw sefydliad. ‘Cais Gwrthrych am Wybodaeth’ yw’r enw ar hyn.

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau fel testun data, gallwch chi fynd at wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Gwneud cais am fynediad at gofnodion iechyd

Os ydych chi am gael mynediad at eich cofnod iechyd eich hun, cofnod ar ran rhywun arall neu unigolyn sydd wedi marw, bydd angen i chi gysylltu â’r Adran Cofnodion Meddygol. Ei chyfeiriad e-bost yw CTT_Medrecordrequest@wales.nhs.uk.

Os bydd angen i chi ffonio’r Adran Cofnodion Meddygol, ffoniwch 01443 443233.

Bydd gofyn i chi ddarparu manylion penodol y cofnodion rydych chi am gael mynediad iddyn nhw ac mae ffurflen y gallwch chi ei llenwi a’i dychwelyd at yr Adran Cofnodion Meddygol. Yn ogystal â hynny, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth a dogfennau sy’n cynnwys eich cyfeiriad. Os ydych chi’n gwneud cais am gofnodion ar ran rhywun arall, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth fod hawl gyda chi i wneud cais am fynediad i’r wybodaeth honno.

Mae’r holl fanylion ynglŷn â pha ddogfennau sydd eu hangen i ddangos pwy ydych chi i’w gweld yn y ffurflen, a gall yr Adran Cofnodion Meddygol gadarnhau’r manylion hyn pan fyddwch chi’n cyflwyno eich cais hefyd.

Os oes pryder parhaus gyda chi a hoffech chi weld y cofnodion sy’n cael eu cadw amdanoch, cysylltwch â’r Tîm Pryderon:

Rhif ffôn: 01443 744915 neu e-bost: CTHB_Concerns@wales.nhs.uk

Gallwch chi hefyd fynd i’r dudalen Pryderon ar y wefan am ragor o wybodaeth ynglŷn â thynnu sylw at bryder.

Gwneud cais am fynediad i gofnodion sydd ddim yn ymwneud ag iechyd

Os bydd angen mynediad arnoch chi at wybodaeth sydd ddim yn rhan o’ch cofnodion ysbyty, bydd angen i chi gysylltu â’r gwasanaethau canlynol:

  • Os bydd angen gwybodaeth bersonol arnoch chi sydd ddim i’w chael mewn cofnod iechyd, fel ffeiliau personél, e-bostiwch informationgovernancedepartment@wales.nhs.uk.
  • Os bydd angen cofnodion iechyd y meddyg teulu arnoch chi, bydd angen i chi gysylltu’n uniongyrchol â’ch meddyg teulu am gopi o’ch cofnodion iechyd.

Gwneud cais am fynediad at gofnodion at ddibenion ymchwilio

Mae proses wahanol i sefydliadau wneud cais am fynediad at gofnodion personol. Dydy’r broses hon ddim yn berthnasol i gleifion nac unigolion. Mae’r weithdrefn hon yn berthnasol yn unig i wybodaeth y mae angen ei datgelu yn ôl y gyfraith neu mewn perthynas ag achosion cyfreithiol. Mae'r ffurflen ar gael ar gais. Ffoniwch 01443 744800 a gofynnwch am y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth.

Dilynwch ni: