Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol

Mae eich adran Iechyd Galwedigaethol wedi ymrwymo i ymdrechu i'ch cadw'n iach yn y gwaith, yn gorfforol ac yn feddyliol fel ei gilydd.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwaith da yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n lles.

Byddwn yn helpu i gadw gweithwyr yn iach ac yn ddiogel pan fyddant yn y gwaith ac yn rheoli unrhyw risgiau yn y gweithle sy'n debygol o achosi salwch sy'n gysylltiedig â gwaith.

I grynhoi, mae Iechyd Galwedigaethol yn canolbwyntio ar sut mae gwaith yn effeithio ar iechyd person a sut mae iechyd rhywun yn effeithio ar ei waith.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o Nyrsys Arbenigol hynod fedrus, Meddygon, Ffisiotherapyddion a Swyddog Cymorth sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r canlynol:

  • Sgrinio iechyd cychwynnol cyn cyflogaeth er mwyn rhoi cyngor i reolwyr ar unrhyw gymorth sydd ei angen i gyflawni'r rôl arfaethedig
  • Darparu argymhellion ar unrhyw gymorth neu addasiadau yn y gweithle yn ôl yr angen
  • Darparu imiwneiddiadau a brechiadau perthnasol i'ch diogelu yn eich rôl
  • Cyngor ar adleoli ac adsefydlu
  • Sgrinio, fel y bo'n briodol, Firysau a Gludir yn y Gwaed (BBVs) fel HIV, Hepatitis B a Hepatitis C
  • Gwerthuso iechyd - asesiadau ffitrwydd i weithio yn dilyn afiechyd / anaf
  • Cyngor i reolwyr a staff ynghylch anabledd
  • Cyngor ar geisiadau ymddeoliad oherwydd afiechyd
  • Asesiad ffisiotherapi ac ymyrraeth ar gyfer unrhyw weithwyr sy'n profi anhwylderau Cyhyrysgerbydol

Os ydych yn gyflogai gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth trwy ‘atgyfeiriad rheolwr llinell’ neu ‘hunan-atgyfeiriad’ ac mae’r rhain i’w gweld ar safle mewnrwyd y staff ‘Sharepoint’.

Fel arall, ffoniwch y rhif isod os oes gennych unrhyw ymholiadau

Cysylltu â’r brif adran:
Teleffôn : Galwadau Allanol: 01443 443231 Galwadau Mewnol: Est 73231
E-bost :

Ymholiadau cyffredinol: CTT_Occupationalhealth@wales.nhs.uk

Ymholiadau cyn cyflogaeth: CTT_Occhealthnewstart@wales.nhs.uk

Cyfeiriad : Iechyd Galwedigaethol, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ynysmaerdy, Llantrisant, RhCT, CF72 8XR.

Oriau Agor y Gwasanaeth:

 Llun - Gwener 8yb-4yp

Dilynwch ni: