Ysbyty’r Tywysog Siarl Y Gurnos Merthyr Tudful CF47 9DT |
![]()
![]() |
Hysbysiad Pwysig! Mae gwaith adnewyddu mawr yn digwydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ar hyn o bryd. Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw amhariad.
Byddwch yn ymwybodol bod gwaith mawr, hanfodol yn parhau ar safle Ysbyty'r Tywysog Siarl yn fewnol ac yn allanol. Pan fyddwch chi’n dod i'r ysbyty, ystyriwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhannu ceir neu ofyn am lifft i’ch apwyntiad.
Rydyn ni hefyd wedi symud nifer o adrannau mewnol yn ddiweddar yn rhan o'r gwaith hwn. Mae’r rhain yn cynnwys prif adran y cleifion allanol, yr adran cardio-pwlmonaidd, orthodonteg / y genau a’r wyneb, Diabetes, podiatreg a ffisiotherapi. Erbyn hyn, mae modd cyrraedd pob un o’r rhain yn haws drwy Fynedfa 6 (y fynedfa mamolaeth) ac yn agos at y meysydd parcio isaf wrth ochr yr ysbyty.
Os oes angen i chi barcio pan fyddwch chi’n dod i'r ysbyty, mae’n bosib y bydd angen i chi neilltuo amser ychwanegol i barcio eich car a dod o hyd i'r adran ar gyfer eich apwyntiad. Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn fod wedi ei achosi.