Neidio i'r prif gynnwy

Dementia a Hydradu

I ddathlu Wythnos Maeth a Hydradu, mae WISE yn canolbwyntio ar bwysigrwydd hydradu digonol ar gyfer dementia ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor defnyddiol.

Mae hydradu yn ffactor pwysig i bawb, ond mae'n arbennig o bwysig i'r rhai sydd â dementia. Mae hydradu digonol yn helpu i gynnal iechyd gwybyddol a chorfforol, a gall leihau'r risg o ddatblygu problemau iechyd mwy difrifol fel heintiau'r llwybr wrinol.

Yn anffodus, mae'r rhai sydd â dementia yn aml yn ei chael hi’n anodd cydnabod a chofio bod angen iddyn nhw yfed digon. Gall hyn arwain at ddadhydradu sy’n gallu gwneud eu cyflwr yn waeth a chynyddu'r risg o gymhlethdodau iechyd difrifol.

Mae'n bwysig i ofalwyr ac aelodau o deulu'r rhai sydd â dementia fod yn ymwybodol o bwysigrwydd hydradu a chymryd camau i wneud yn siŵr bod yr unigolyn maen nhw’n gofalu amdano yn cael digon o hylifau.

Dyma rai awgrymiadau ar sut i annog rhywun sydd â dementia i yfed digon:

1.       Gwnewch yn siŵr ei fod yn gallu cael gafael ar ddŵr bob amser. Rhowch jwg o ddŵr ger ei wely neu gwpan ar ei fwrdd fel y gall ei gyrraedd yn hawdd.

2.       Gwnewch yn siŵr bod ei wydrau yfed yn hawdd eu hadnabod. Gall hyn ei helpu i gofio yfed yn amlach. Mae hefyd yn bwysig defnyddio lliwiau cyferbyniol i helpu pobl sydd â dementia i wahaniaethu rhwng gwrthrychau a gofodau, felly beth am ddefnyddio cwpanau llachar?

3.       Cynigiwch amrywiaeth o hylifau iddo drwy gydol y dydd, nid dim ond dŵr. Gall gwahanol flasau a gweadau apelio’n fwy a'i helpu i yfed digon. Ceisiwch ychwanegu tafelli ffrwythau neu berlysiau.

4.       Ewch ati i fonitro faint o hylifau mae’n eu hyfed trwy gydol y dydd a gwnewch yn siŵr ei fod yn yfed digon.

5.       Gwyliwch allan am unrhyw feddyginiaethau sy’n gallu cynyddu’r risg y bydd yn dadhydradu, fel diwretigion, a thrafodwch y rhain gyda'i fferyllydd

6.       Anogwch ef i fynd am dro yn rheolaidd neu gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill a fydd yn ei helpu i gadw'n actif yn gorfforol a gwneud yn siŵr ei fod wedi’i hydradu. 

7.       Defnyddiwch welltyn: Efallai y bydd gwelltyn yn ei gwneud hi'n haws i berson sydd â dementia yfed mwy o ddŵr.

8.       Defnyddiwch nodiadau atgoffa: Defnyddiwch nodiadau atgoffa fel larymau neu giwiau gweledol i atgoffa'r person pryd i yfed dŵr.

9.       Ewch ati i gynnwys dŵr mewn prydau a byrbrydau: Ychwanegwch ddŵr at gawliau, smwddis, neu ryseitiau eraill. Gall hyn helpu i wneud yfed mwy o ddŵr yn rhan o'i drefn ddyddiol.

10.   Rhowch gymorth: Rhowch gymorth emosiynol a chorfforol i'r unigolyn sydd â dementia pan fydd yn yfed. Gall hyn helpu i wneud y gweithgaredd yn fwy pleserus a'i helpu i yfed digon.

Trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch chi helpu i sicrhau bod rhywun sydd â dementia yn yfed digon a bod ganddo'r cyfle gorau i gynnal ei iechyd gwybyddol a chorfforol. Mae yfed digon yn hanfodol i bawb, ond mae hyd yn oed yn bwysicach i'r rhai sydd â dementia. Trwy gymryd yr amser i sicrhau eu bod yn cael digon o hylifau, gallwch chi eu helpu i gadw'n iach ac yn gyfforddus.

Awdur: Dr Liza Thomas-Emrus


    Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm
    Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE


    Dychwelyd at Blog Hoot

    Mis Ymwybyddiaeth Straen – A WISE Approach

    Mis Ymwybyddiaeth Straen yw'r amser perffaith i lansio ‘WISE Approach Podcast' wrth i ni archwilio nifer o dechnegau meddyginiaeth ffordd o fyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth i hyrwyddo lles corfforol ac emosiynol hirdymor, sydd yn y pen draw yn helpu i leihau straen.

    Niwroamrywiaeth Croesawu Gwahaniaethau gyda Chefnogaeth Chwe Philer WISE

    Heddiw, mae amrywiaeth yn cwmpasu mwy na hil, rhywedd ac ethnigrwydd yn unig. Mae hefyd yn cynnwys niwroamrywiaeth, sy'n dathlu cryfderau a safbwyntiau unigryw unigolion â chyflyrau fel Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, a gwahaniaethau niwrolegol eraill.

    No smoking day graphic 
    WISE – Dull Cynhwysfawr o Ddiwrnod Dim Smygu 13 Mawrth 2024 

    Wrth i ni arsylwi Diwrnod Dim Smygu, mae'n hollbwysig cydnabod arwyddocâd blaenoriaethu lles yn ei holl agweddau.

    Menyw yn gweithio ar ei chyfrifiadur
    Gorflinder a Chyflyrau Iechyd Cronig

    Mae Dr Liza Thomas-Emrus yn trafod â gorflinder a chyflyrau cronig mewn rhaglen ddogfen BBC Wales Live.

    2024 imaghe
    Adennill eich Lles gyda WISE yn 2024

    Mae'n wythnos gyntaf mis Ionawr ac mae llawer ohonom wedi paratoi ein rhestr o addunedau iechyd y Flwyddyn Newydd, lle rydym wedi gosod cynlluniau i gychwyn ar daith o hunanwella i fwynhau ffordd iachach o fyw.

    Lady doing Taiko Drumming
    Grym iachaol y Celfyddydau Creadigol ar ein hiechyd a'n lles

    Yn ddiweddar, cynhaliodd rhaglen Celfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles WISE ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ddiwrnod gwerthuso lle gallai cyfranogwyr adlewyrchu a rhannu eu profiadau am eu gweithdai Crefft Creadigol a Drymio Taiko Japaneaidd.

    Dr Liza in Dubai
    Rhagnodi Lles: Trawsnewid y dyfodol gyda Meddygaeth Ffordd o Fyw

    Yn y blog hwn, rydym yn rhannu sut mae WISE wedi bod yn lledaenu’r neges am Feddygaeth Ffordd o Fyw a’r rôl hanfodol y mae’n ei chwarae wrth rymuso pobl i hunanreoli eu hiechyd.

    Picture of a group of happy smiling people
    Darganfod Lles gyda Hyfforddwyr WISE (Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd)

    Wrth i ni aros yn eiddgar am fis Hydref, rydyn ni'n paratoi i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd sydd i ddod ar 10 Hydref 2023. 

    Banner with Lifestyle Medicine Banner
    Cysylltu Cymunedau a Hybu Iechyd: Taith yn WISE

    Trwy rannu gwybodaeth, adnoddau ac arbenigedd, gallwn ddatgloi atebion arloesol a thrawsnewid tirwedd gofal iechyd.

    Lleihau eich risg o ddatblygu dementia

    Yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia rydym yn siarad am ddewisiadau ffordd o fyw a all leihau eich risg o ddatblygu dementia

    Dementia a Hydradu

    Pwysigrwydd hydradu digonol (yfed digon) ar gyfer dementia

    Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Menopos

    Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

    Amser i siarad Graffeg Dydd
    Manteision siarad am iechyd meddwl

    Mae siarad am iechyd meddwl wedi dod yn bwnc trafod llawer mwy agored a chyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn deillio, yn rhannol, o'r gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd iechyd meddwl a'r ffaith bod problemau iechyd meddwl yn dod yn fwy cyffredin. Ond, y tu hwnt i’r ffaith bod iechyd meddwl yn cael ei dderbyn fel pryder iechyd dilys, beth mae'r dystiolaeth yn ei ddangos am y manteision go iawn sy’n gysylltiedig â siarad am iechyd meddwl?

    Diwrnod Ymwybyddiaeth Straen y Byd 2022
    Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen 2022

    Mae heddiw yn Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen

    diwrnod ffitrwydd cenedlaethol
    Nid y gampfa sy'n bwysig.

    Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol

    Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 2022
    Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 2022

    Wythnos yma yw Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd

    Wythnos Iechyd Dynion 2022
    Wythnos Iechyd Dynion 2022

    Wythnos Iechyd Dynion 2022

    Diwrnod Myfyrdod y Byd 2022
    Diwrnod Myfyrdod y Byd 2022

    21 Mai 2022 yw Diwrnod Myfyrdod y Byd

    Diwrnod Gorbwysedd y Byd 2022
    Diwrnod Gorbwysedd y Byd 2022

    Mae 17 Mai 2022 yn ddiwrnod i dynnu sylw at orbwysedd, neu bwysedd gwaed sef ei enw cyffredin.

    Mental Health Awareness Week 2022
    Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl 2022

    Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.