Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 27 Mai 2021 am 10:00 am.
Mae adnoddau cwnsela a hunangymorth ar lein ar gael bellach i bobl 11-18 oed ledled ein Bwrdd Iechyd, yn dilyn partneriaeth â’r gwasanaeth iechyd meddwl a lles ar lein digidol Kooth, sef gwasanaeth sydd wedi ennill sawl gwobr.
Grŵp celf cymunedol yn rhannu eu profiadau o’r cyfnod clo mewn arddangosfa newydd. Mae grŵp celf cymunedol sy’n helpu pobl gyda materion iechyd meddwl ac unigrwydd yn rhannu eu profiadau o’r pandemig mewn arddangosfa newydd ar lein.
Mae methiant y galon yn gyflwr sy’n gysylltiedig â chyfradd farwolaethau uchel a hefyd nifer uchel o dderbyniadau i’r ysbyty yn y DU, ac mae’n rhoi cryn bwysau ar wasanaethau’r GIG. Yn wir, mae methiant y galon yn cyfrif am 2% o gyllideb flynyddol y GIG.
“Rydw i’n cofio gweld dynes i’w brechu ryw amser cinio. Roedd ei gŵr wedi bod yn yr ysbyty, ac roedd wedi marw o COVID-19 y bore hwnnw."
Wrth i’r diwrnodau gynhesu ac wrth i’r haf addo cyrraedd, mae’n teimlo fel ein bod wedi dechrau troi cornel a chefnu ar ychydig fisoedd hynod anodd i ni i gyd.
Mae menter gymdeithasol awyr agored sy’n hybu iechyd a lles yng Nghwm Cynon yn ymuno â gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd i weld ai natur yw’r moddion gorau!
Ar 1 Ebrill 2021, daeth contract Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg â Patient Knows Best i ben.
Da iawn, iawn i Ben Peever, 19 oed o Glynrhedynog, a osododd her iddo’i hun i redeg hanner marathon (13.1 milltir) trwy gydol mis Mawrth i godi arian ar gyfer pecyn C.A.RE. (‘compassion and respect for every loss’) i deuluoedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd wedi colli anwyliaid.
Yn gyntaf oll, hoffem ni ddiolch i chi am eich amynedd ac am dealltwriaeth o ran ein rhestr wth gefn.
BIP Cwm Taf Morgannwg yn creu rhestr wrth gefn ar gyfer brechiadau rhag COVID-19
Flwyddyn ar ôl agor Uned Ddydd Lawfeddygol Frys yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae amseroedd triniaeth ac asesu wedi gwella’n ddramatig, ac mae gostyngiad wedi bod yn y nifer o bobl sydd angen cael eu derbyn i’r ysbyty.
Bydd canolfan gofal sylfaenol newydd sbon yn agor ei drysau yn Mountain Ash yr wythnos nesaf, gan ddod â gwasanaethau gofal iechyd modern i'r gymuned leol.
Yn ôl adroddiad newydd, amcangyfrifir bod y profion torfol â dyfeisiau llif unffordd ym Merthyr Tudful ac yn rhan isaf Cwm Cynon wedi atal 353 o achosion o COVID-19, 24 o achosion o orfod mynd i’r ysbyty, 5 achos o orfod mynd i uned gofal dwys ac 14 o farwolaethau;
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu bod bron i 12,500 o gleifion ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) wedi gallu cael ymgynghoriadau meddygol o hyd yn ystod pandemig Covid-19, er nad oedden nhw’n gallu ymweld â'r feddygfa neu leoliad gofal iechyd arall yn bersonol.
Mae Canolfan Ymchwil Glinigol newydd, i wella gwaith ymchwil BIP Cwm Taf Morgannwg ac i gynnig therapïau, triniaethau a therapiwteg newydd i gleifion, wedi agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Mae model arloesol, amlddisgyblaethol o roi triniaeth i gleifion gyda chlefydau’r ysgyfaint yn lleihau amseroedd aros yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud y penderfyniad ar y cyd i beidio ag agor canolfan frechu gymunedol yn Aberfan.
Gofynnir i breswylwyr yn ardal Ffordd Abertawe ym Merthyr Tudful fod yn wyliadwrus ychwanegol am arwyddion a symptomau COVID-19 yn dilyn clwstwr o achosion yn yr ardal.
Mae cleifion sy’n mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda mân anaf yn hwyr yn y nos yn cael dewis rhwng aros i gael eu gweld neu ddychwelyd y diwrnod wedyn am apwyntiad wedi’i drefnu, o dan gynllun newydd sy’n cael ei dreialu i leihau amseroedd aros.