Neidio i'r prif gynnwy

Dull arloesol yn arbed bywydau ac yn gostwng y nifer o dderbyniadau i'r ysbyty

Mae methiant y galon yn gyflwr sy’n gysylltiedig â chyfradd farwolaethau uchel a hefyd nifer uchel o dderbyniadau i’r ysbyty yn y DU, ac mae’n rhoi cryn bwysau ar wasanaethau’r GIG. Yn wir, mae methiant y galon yn cyfrif am 2% o gyllideb flynyddol y GIG.

Yn ogystal, mae’r broses o roi diagnosis cywir o fethiant y galon ac o roi’r driniaeth iawn i gleifion wedi bod yn un hir yn hanesyddol.

Erbyn hyn, mae Cardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Dr Aaron Wong, yn newid y ffordd mae cleifion gyda methiant y galon yn cael eu trin. Maen nhw bellach yn cael diagnosis mewn modd amserol ac mae llai o berygl y bydd rhaid iddyn nhw gael eu derbyn i’r ysbyty eto.

Mae llawer o foddion ar sail tystiolaeth at drin methiant y galon, sydd yn ôl ymchwil yn gwella symptomau cleifion, yn lleihau’r risg y byddan nhw’n cael eu derbyn i’r ysbyty eto ac sy’n lleihau’r nifer o farwolaethau. Fodd bynnag, mae rhoi diagnosis a thriniaeth mewn modd amserol yn hollbwysig i wella canlyniadau’r cleifion hynny.

Mae tua miliwn o bobl yn y DU wedi cael diagnosis o fethiant y galon, ac mae 65,000 yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda’r cyflwr bob blwyddyn. Mae prognosis methiant y galon yn waeth na’r rhan fwyaf o ganserau ac mae cyfradd farwolaethau o fewn pum mlynedd o 50%.

Nid ar ba mor hir y bydd rhywun yn byw yn unig y mae methiant y galon yn effeithio, ond gall effeithio hefyd ar ansawdd bywyd cleifion mewn ffordd arwyddocaol iawn. Symptomau cyffredin methiant y galon yw diffyg anadl, blinder, coesau a breichiau’n chwyddo, diffyg cwsg a diffyg chwant bwyd.

Eglurodd Dr Wong, “Mae’r llwybr at roi diagnosis a gofal acíwt i gleifion gyda methiant y galon yn un hir erioed yn y wlad yma.  Wrth gymharu hyn â beth sy’n digwydd yn achos triniaeth canser er enghraifft, bydd yn cymryd mwy o amser i gleifion gyda methiant y galon gael y profion angenrheidiol a chael y driniaeth iawn. Rydyn ni wedi newid sut rydyn ni’n mynd ati yn sylweddol, a bellach mae prognosis gwell i’n cleifion.

Yn hanesyddol, mae’r llwybr o roi diagnosis a thriniaeth yn hir i gleifion gyda clefyd y galon. Ar gyfartaledd, mae’n cymryd 6-12 mis i gael y diagnosis ac i gael budd o’r cyffuriau ar sail tystiolaeth. Mae Dr Wong wedi chwyldroi'r broses hon.

Mae Dr Wong yn blaenoriaethu cleifion ar sail eu nodweddion clinigol, ac ar sail profion gwaed o’r enw NTproBNP (po uchaf y lefel, gwaethaf yn y byd y bydd y symptomau a’r prognosis). Mae cleifion gyda lefel uchel o NTproBNP yn cael eu blaenoriaethu i ddod i glinig methiant y galon ‘un stop’ o fewn pythefnos i dair wythnos. Mae sganiau o’r galon, profion ECG, pelydrau-X, profion gwaed ac ymgynghoriadau clinigol oll yn cael eu cynnal yn ystod yr un ymweliad â’r ysbyty. Unwaith bod methiant y galon wedi ei gadarnhau, bydd triniaeth yn dechrau ar yr un diwrnod a bydd apwyntiadau dilynol priodol gyda nyrs arbenigol ar gyfer methiant y galon yn cael eu trefnu.

Fel hyn, mae Tîm Methiant y Galon Ysbyty Tywysoges Cymru wedi llwyddo i roi diagnosis o fethiant y galon a chynnig y driniaeth orau ar ei gyfer o fewn tri mis a hanner, o gymharu â’r cyfnod o 12 mis fel yr oedd hi. Oherwydd hyn, mae hyn wedi arwain at ostyngiad pedair neu bum gwaith yn y nifer o gleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, ac at ostyngiad tebyg yn y gyfradd farwolaethau. Aeth Dr Wong yn ei flaen, “Trwy dargedu cleifion yn gynnar, mae modd i ni gynnig therapïau iddyn nhw yn gynt all achub eu bywyd. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i ni i sicrhau na fydd angen i’n cleifion gael triniaethau mwy difrifol a chostus, fel gosod rheolydd calon neu ddiffibriliwr. Mae hefyd yn lleihau’r risg y byddan nhw’n marw neu’n cael eu derbyn i’r ysbyty eto. Mae tystiolaeth yn dangos, o aros yn yr ysbyty gyda methiant y galon, fod tebygolrwydd o 50% y byddwch chi’n dychwelyd yn glaf mewnol o fewn blwyddyn. Rydyn ni’n torri’r cylch hwnnw ac yn gwella canlyniadau i gleifion.”

“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld y canlyniadau gwell i’r cleifion yn ein gwasanaeth. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud o hyd i gleifion gyda methiant y galon. Mae ein data lleol yn dangos bod modd sicrhau canlyniadau gwell i gleifion gyda methiant y galon os byddan nhw’n cael eu gweld a’u trin, ac yn derbyn gofal dilynol, gan arbenigwr methiant y galon.”

“Mae angen brys i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o fethiant y galon ac i sicrhau mynediad gwell at brofion gwaed NTproBNP a sganiau o’r galon. Rydyn ni hefyd angen gweld cynnydd yn y nifer o feddygon methiant y galon ymgynghorol a nyrsys arbenigol ledled Cymru.

“Mae methiant y galon yn gyflwr difrifol, ond erbyn hyn mae therapi ar sail tystiolaeth gyda ni a all wneud gwahaniaeth anferthol i fywyd claf a’i ganlyniadau iechyd.”