Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr wrth gefn ar gyfer brechu yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i bobl 40-49 oed - diweddariad

Yn gyntaf oll, hoffem ni ddiolch i chi am eich amynedd ac am dealltwriaeth o ran ein rhestr wth gefn.

Mae ein timau wedi gweithio’n ddi-baid i ddatrys y problemau technegol ar y ffurflen ar gyfer y rhestr ers nos Fawrth.

Maen nhw wedi canfod y problemau erbyn hyn ac wrthi’n rhedeg y profion terfynol ar y system.

O ganlyniad, ni fyddwn yn lansio’r ffurflen eto tan yr wythnos nesaf (yn dechrau Ebrill 5). Byddwn yn cadarnhau pa ddiwrnod yn union y bydd y ffurflen yn fyw, a byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd fydd hi ar gael ar ein gwefan eto.

Roedd nifer ohonoch chi wedi llwyddo i gyflwyno eich manylion, ac felly rydych chi ar y rhestr ac mae’n bosibl y byddwch chi’n derbyn galwad ffôn yr wythnos nesaf. Oherwydd y problemau technegol, fodd bynnag, mae croeso i chi gyflwyno eich manylion eto rhag ofn os ydych chi am wneud hynny. Byddai’n well gennym ni ddelio â manylion a gyflwynwyd ddwywaith na’ch bod yn meddwl eich bod ar y rhestr wrth gefn er nad ydych chi arni.

Hoffem ni ei gwneud yn glir hefyd bod y rhestr wrth gefn hon wedi ei chreu oherwydd cynnydd bach yn y nifer o bobl sydd ddim wedi dod i’w hapwyntiadau yn y canolfannau brechu cymunedol. Bydd y rhestr felly yn ei gwneud yn bosibl i ni lenwi apwyntiadau a ganslwyd a sicrhau trwy hynny, fel rydym wedi gwneud hyd yma, na fydd yr un brechlyn yn cael ei wastraffu. Os ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 9, dydy hyn ddim yn effeithio arnoch chi a phryd y byddwch chi’n cael eich brechu, gan fod eich apwyntiadau wedi eu trefnu yn barod.

I’ch atgoffa, mae’n rhaid eich bod rhwng 40 i 49, yn byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg ac yn gallu dod i apwyntiad ar fyr rybudd er mwyn bod ar ein rhestr wrth gefn (o bosibl o fewn yr awr).

Yn olaf, diolch yn fawr eto i chi am eich amynedd ac yn ail, er ein bod yn cydnabod bod y problemau technegol hyn wedi achosi rhwystredigaeth, hoffem ni ddiolch i chi am eich diddordeb. Rydym ni’n falch iawn, iawn o weld bod cynifer ohonoch chi yn y grŵp oedran 40–49 am fod ar y rhestr wrth gefn. Mae’r brechlynnau’n ddiogel, ac rydym ni’n annog pob un ohonoch i gael y brechlyn fel y gallwn ni un ac oll ddiogelu ein cymunedau. Nid oes neb wedi'i ddiogelu hyd nes ein bod i gyd wedi'n diogelu.

Diolch.