Neidio i'r prif gynnwy

Theatr newydd bwrpasol y fron yn agor

Mae ardal theatr ac adferiad newydd, a fydd yn cael ei defnyddio bron yn gyfan gwbl ar gyfer trin cleifion canser y fron wedi agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yr wythnos hon.

Mae'r theatr newydd yn cyd-fynd â gwaith Canolfan Gofal y Fron newydd Snowdrop, 'clinig un stop' gwerth £2m ar gyfer cleifion a gyfeiriwyd gan eu meddyg teulu.

Wedi'i hagor y llynedd, mae Canolfan y Fron Snowdrop yn darparu gofal a chymorth i gleifion â chanser y fron nid yn unig trwy ddiagnosis a thriniaeth, ond hefyd yn galluogi eu holl apwyntiadau dilynol i ddigwydd yn yr un lleoliad pwrpasol, mae hyn yn cynnwys mamograffeg y fron, uwchseiniau a biopsïau.

Mae cael yr holl wasanaethau mewn un uned arbenigol, a nawr gyda'r theatr wedi'i lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn galluogi tîm gofal y fron i gynllunio triniaeth ar gyfer cleifion yn haws gan gynnwys llawdriniaeth, cemotherapi, radiotherapi, meddyginiaeth, cyngor prosthetig a ffitio yn ogystal â chwnsela a therapïau cyflenwol.

Dywedodd Zoe Barber, Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron: "Rwy'n hynod falch o waith caled y tîm gyda'r cyflawniad anhygoel hwn a chefais bleser mawr o berfformio llawdriniaeth gyntaf y theatr yno yn gynharach yr wythnos hon. Bydd y cyfleuster hwn yn ein galluogi i wella'r gwasanaethau gofal y fron y gallwn eu cynnig ymhellach."

 

19/04/2024