Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Gofal Sylfaenol newydd gwerth £ 4 miliwn i Aberpennar

Bydd canolfan gofal sylfaenol newydd sbon yn agor ei drysau yn Mountain Ash yr wythnos nesaf, gan ddod â gwasanaethau gofal iechyd modern i'r gymuned leol.

Bydd y ganolfan £4m yn gartref i'r feddygfa newydd yno, Meddygfa Glan Cynon (yn sgil yno Canolfan Feddygol Cwm Cynon a Meddygfa Tŷ Rhos), a bydd yn darparu gwasanaethau meddygon teulu i dros 11,000 o gleifion yn yr ardal.

Bydd nifer o wasanaethau cymunedol hefyd wedi'u lleoli yn yr adeilad, gan gynnwys y timau nyrsio ardal ac ymwelwyr iechyd..

Bydd y safle 1,373 metr sgwâr yn adeilad o’r safon uchaf i’r feddygfa newydd, a fydd yn ei gwneud yn bosibl iddi ddarparu ystod ehangach o wasanaethau i gleifion yn y gymuned.

Dywedodd Dr Nicola Mogford, GP Partner at Meddygfa Glan Cynon Surgery: “Rydyn ni wrth ein bodd bod datblygiad Tŷ Calon Lan bellach ar y gweill er gwaethaf yr heriau yn sgil gan bandemig Covid-19. Bydd yr adeilad newydd yn cynnig cyfleusterau modern, pwrpasol a fydd yn caniatáu i ni ehangu ein gwasanaethau presennol a darparu gofal o ansawdd uchel i boblogaeth yr ardal.

“Byddwn hefyd yn gallu gwneud y mwyaf o addysgu israddedig ac ôl-raddedig amlddisgyblaethol gan sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn y dyfodol yng nghanol Aberpennar. Hoffem ddiolch yn ddiffuant i Apollo a Jehu Project Services am eu hymrwymiad a'u gwaith caled yn ystod y datblygiad hwn ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol CTM a Chyngor RhCT am eu cefnogaeth ddi-ball. "

Ynghyd â chlinigau dan arweiniad y gymuned fel Gofal Clwyfau, bydd y cyfleuster hefyd yn gartref i ystafell addysg iechyd ar gyfer sesiynau tylino babanod a chlinigau bwydo ar y fron, bydd ystafell mân lawdriniaeth yno a lle hefyd i wasanaethau iechyd a lles gwell.

Ychwanegodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Rydyn ni'n falch iawn o agor y ganolfan gofal sylfaenol newydd yn Aberpennar, sef canolfan ragorol a fydd yn dod â thimau amlddisgyblaethol ynghyd i gefnogi cleifion, gofalwyr a chymunedau lleol. 

“Mae anghenion yr ardal leol wedi cael eu hystyried yn ofalus wrth gynllunio’r ganolfan newydd, a fydd yn ei gwneud yn bosibl i ni barhau i ddarparu’r gofal iechyd gorau posibl i gleifion nawr ac yn y dyfodol.”

Er gwaethaf yr heriau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ganolfan wedi'i chwblhau yn ôl yr amserlen gan y contractwyr, Jehu Project Services.

Dywedodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chynghorydd Gorllewin Aberpennar:

“Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu, rwy’n falch iawn o weld y Ganolfan Gofal Sylfaenol a Chymunedol newydd hon yn Aberpennar yn dwyn ffrwyth.

“Bydd y cyfleuster hwn yn dwyn ynghyd wasanaethau meddygon teulu a gwasanaethau iechyd cymunedol mewn cyfleuster modern o’r radd flaenaf, diolch i dros £ 4M o fuddsoddiad a blynyddoedd lawer o ymgyrchu ar ran trigolion lleol yn y dalgylch. Bellach bydd gan drigolion Aberpennar a'r ardal gyfagos yn Nyffryn Cynon Isaf fynediad i ganolfan a fydd yn diwallu eu holl anghenion meddygol.

“Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y datblygwyr a'r meddygon teulu lleol i gefnogi'r cyfleuster mawr ei angen hwn, a fydd o fudd i 11,000 o drigolion ac yn cefnogi lles cenedlaethau'r dyfodol. .

“Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yng Nghwm Taf Morgannwg i gefnogi creu canolfan integredig ar gyfer meddygon teulu a gwasanaethau iechyd cymunedol yn Llanharan a hefyd adolygu opsiynau gyda'r Bwrdd Iechyd ar gyfer safle posibl i gyfleusterau iechyd newydd i'r Rhondda Fach ”

Llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gael cyllid ar gyfer y prosiect, gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2017. Cafodd y prosiect yn ei gyflawni gan Apollo Capital Projects.

Bydd y feddygfa yn agor i gleifion ddydd Llun nesaf, 29 Mawrth. Mawrth.