Neidio i'r prif gynnwy

Disgwyl i lwybr newydd brofi ai natur yw'r moddion gorau!

 

Mae menter gymdeithasol awyr agored sy’n hybu iechyd a lles yng Nghwm Cynon yn ymuno â gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd i weld ai natur yw’r moddion gorau!
 
Mae Cynon Valley Organic Adventures wedi ymuno ag ymchwilwyr i greu llwybr natur er mwyn hybu manteision ‘presgripsiynu cymdeithasol’ gwyrdd i iechyd, lles ac ansawdd bywyd. Bydd y llwybr yn Abercynon yn rhoi cyfle i feddygon teulu atgyfeirio cleifion ato ac i aelodau o’r gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur.

Bydd yr effeithiau’n cael eu monitro gan dîm dan arweiniad yr Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Accelerate, sef cydweithrediad arloesol rhwng prifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n helpu i roi syniadau arloesol ar waith.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn galluogi meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd i gyfeirio pobl at weithgareddau sy’n seiliedig ar natur. Mae’r rhain yn cynnwys garddio, campfeydd ‘gwyrdd’ a sesiynau dosbarth mewn coetir. Mae Cynon Valley Organic Adventures yn cynnal amrywiaeth o fentrau iechyd a dysgu i bobl, plant ysgol a grwpiau lleol er mwyn gwella sgiliau cyflogadwyedd a lleihau unigrwydd ac unigedd ymysg y rheiny sy’n dod i’w chyrsiau a’i sesiynau.

Meddai sylfaenydd a chyfarwyddwr Cynon Valley Organic Adventures, Janis Werrett: “Mae’n braf gennym ni ymuno â Phrifysgol Caerdydd ac Accelerate i greu llwybr natur fydd yn helpu i fesur manteision presgripsiynu cymdeithasol. 

“O brofiad personol, wrth i chi ofalu am natur, bydd natur yn gofalu amdanoch chi, Daeth tri ohonom ni ynghyd i sefydlu CVOA yn 2018 ac wrth i ni dacluso gwerth pum mlynedd o dwf danadl poethion a thrwsio ffensys ar draws ein safle, dechreuodd ein lles wella.  Wrth i’r ardd dyfu, daethom ni’n iachach ac yn hapusach.”

Meddai’r Athro Baillie: “Wrth galon ein partneriaeth, y nod yw creu llwybr natur cymunedol yn Abercynon. Mae Prifysgol Caerdydd yn bwriadu rhoi cymorth i’r gymuned drwy gynnig arbenigedd gan grwpiau fel ein prosiect ‘Pharmabees’, er mwyn helpu CVOA i greu mannau sy’n gyfeillgar i beillwyr a darparu adnoddau addysgol.

Mae presgripsiynu gwyrdd yn bwnc llosg iawn, ond mae angen rhagor o dystiolaeth wyddonol gadarn er mwyn helpu cymdeithas i wybod mwy am y manteision mae’n gallu eu cynnig i fywydau pobl. Byddwn ni’n gweithio gyda meddygon teulu lleol a chleifion yng Nghwm Cynon i ddangos sut mae cysylltu â natur yn gallu gwella iechyd a lles pobl. Bydd casglu profiadau cleifion o’r llwybr natur yn ein helpu i greu data byd go iawn ynglŷn â’r manteision.

Y meddygfeydd sy’n rhan o’r cynllun hwn yw Meddygfa Glan Cynon (Meddygfa Tŷ Rhos a Chanolfan Feddygol Cwm Cynon gynt), Meddygfa Abercwmboi, Meddygfa Cwmaman, Canolfan Feddygol Penrhiw-ceiber a Chanolfan Feddygol Abercynon.

Cafodd Cynon Valley Organic Adventures ei sefydlu dair blynedd yn ôl mewn partneriaeth â Green Valley Wellbeing Group, ac mae’n gweithio’n agos â meddygfeydd lleol a chydlynwyr lles i drefnu atgyfeiriadau. Yn wreiddiol, roedd y grŵp yn rhentu ei safle pum erw o faint ar lan yr afon, sy’n cynnwys coetir a gardd gymunedol, ond yn gynharach eleni, cafodd y grŵp gyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu’r tir.

Mae CVOA yn cynnig gweithgareddau lles, sesiynau dysgu achrededig sy’n dileu rhwystrau rhag gweithio, yn ogystal ag ysgol haf i blant rhwng 5 a 12 oed. Mae’r ardd fywyd gwyllt yn dod â phobl ynghyd i dyfu a choginio bwyd yn ogystal â chreu ffrindiau, a bydd Caffi Sied yr Ardd, sef caban gwledig gyda lle i goginio yn yr awyr agored, ar gael i’w logi fel lleoliad hyfforddi. Bydd y caffi’n agor fel caffi cymunedol unwaith i gyfyngiadau COVID-19 ganiatáu hynny.

Ymhlith y syniadau ar gyfer y llwybr mae dôl flodau Celtaidd, celfwaith lleol, gardd synhwyraidd, gardd feddyginiaethol a nodwedd ddŵr. Bydd cam cyntaf y prosiect yn cychwyn y mis hwn (Ebrill 2021) gydag ymchwilwyr yn casglu barn meddygon a chleifion o Gwm Cynon ar bresgripsiynu gwyrdd, a bydd cleifion yn dechrau cael eu hatgyfeirio yr haf hwn er mwyn helpu i greu’r llwybr. Bydd lles pobl yn cael ei fesur drwy gydol y prosiect, sydd wedi ei gyllido am 10 blynedd.

I gael gwybod mwy am Cynon Valley Organic Adventures, ewch i’r wefan neu ar dudalen Facebook y fenter.

Mae partneriaeth y llwybrau natur yn rhan o Genhadaeth Ddinesig Prifysgol Caerdydd, sy’n gweithio gydag ysgolion, colegau, sefydliadau a chymunedau yn Mhrifddinas-Rhanbarth Caerdydd ac yng Nghymru, yn y DU a ledled y byd er mwyn hybu cydlyniant cymdeithasol a gwella iechyd, cyfoeth a lles.

Diolch i Brifysgol Caerdydd am roi caniatâd i ni rannu manylion o erthygl gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 12 Mawrth.