Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp celf cymunedol yn rhannu eu profiadau o'r cyfnod clo mewn arddangosfa newydd

Grŵp celf cymunedol yn rhannu eu profiadau o’r cyfnod clo mewn arddangosfa newydd. Mae grŵp celf cymunedol sy’n helpu pobl gyda materion iechyd meddwl ac unigrwydd yn rhannu eu profiadau o’r pandemig mewn arddangosfa newydd ar lein.

Mae Breathing Space, sy’n fenter ar y cyd rhwng Clwstwr Gofal Sylfaenol Taf Elái a Tanio (sef Celfyddydau Cymunedol y Cymoedd a’r Fro gynt), yn defnyddio celf a chreadigrwydd i gysylltu â phobl sy’n ei chael yn anodd gydag iselder, gorbryder ac unigedd.

Mae’r arddangosfa, ‘Of Windows and Worlds: Out of Lockdown’ yn ddathliad o waith y grŵp a gafodd ei greu yn ystod y cyfnod clo, ac mae bellach ar lein i’w weld yma.

Mae’n cynnig safbwyntiau gonest am sut mae unigolion wedi ymdopi yn ystod y pandemig, ac am ba mor bwysig oedd creadigrwydd ac aros mewn cysylltiad ag eraill i les.

Dywedodd yr Ymarferydd Lles Creadigol, Sarah Featherstone, oedd wedi gweithio gyda’r grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf, “Roedd y sesiynau wir yn achubiaeth, gan fod cynifer o bobl yn y grŵp ar eu pen eu hun heb neb arall o gwbl. Roedd y sesiynau yn gyfle hollbwysig i ddod i gyswllt ag eraill, siarad a chefnogi ei gilydd. Roedd llawer yn ei chael yn anodd cysgu, ac roedd gorbryder ac unigrwydd wedi gwaethygu i nifer.

“Roedd y creadigrwydd wedi rhoi hwb i bob un ohonom ni, achos roedd yn ffordd o fynegi ein hemosiynau trwy waith celf, ysgrifennu, cerddoriaeth a gwau.

“Roedd gweld y cynnydd yng ngwaith pobl yn ystod y cyfnod clo mor ysbrydoledig, ac mae’r arddangosfa hon yn adlewyrchiad gwych o’r cyfnod. Gobeithio y bydd pobl eraill yn gallu uniaethu â hi.”

Cafodd Breathing Space ei lansio ym mis Ionawr 2018 ac mae’n cynnal un sesiwn wythnosol gyda chymysgedd o ymwybyddiaeth ofalgar, creadigrwydd, cymorth a thechnegau ymdopi. 

Mae’r grŵp fel arfer yn cwrdd yn Eglwys Catrin Sant ym Mhontypridd bob prynhawn Dydd Iau, ond ers y pandemig maen nhw’n cwrdd ar lein rhwng 1-3pm.

Mae pobl yn dod i Breathing Space mewn nifer o ffrydd, naill ai yn dilyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu gan yr elusen iechyd meddwl Mind, ar ôl gweld gwybodaeth ar lein neu drwy glywed am y grŵp gan rywun arall. Mae nifer gynyddol o ddynion yn dod i’r grŵp hefyd erbyn hyn ac yn gwneud ffrindiau newydd.

I Joan Mascord, roedd Breathing Space yn lle cyson lle gallai ddod yn ystod y cyfnod clo a chysylltu ag eraill.

Dywedodd, “ Roedd y cymorth yn hanfodol, gan nad oedd unman arall i fynd heblaw am fynd am dro o gwmpas yr ardal yn lleol, ond roedd y grŵp hwn yn ddyddiad yn fy nyddiadur lle roeddwn i’n gallu gweld pobl eraill. 

“Roedd gwneud celf i fi yn ffordd o wneud synnwyr o’r byd yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond fyddwn i ddim yn gwneud hynny ar fy mhen fy hun felly mae Breathing Space yn lle perffaith i gael yr ysbrydoliaeth a’r hwb sydd eu hangen arnaf i.

Cytunodd Sara Mayo, sydd hefyd yn arddangos ei gwaith yn yr arddangosfa, â sylwadau Joan am y grŵp a chymorth hanfodol. 

Dywedodd, “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi archwilio ysgrifennu creadigol trwy gymryd rhan yn Breathing Space, sydd wedi bod yn strategaeth ymdopi bwysig i fi wrth fyw gyda salwch iechyd meddwl, bod yn ddi-waith a delio â’r ansicrwydd oherwydd y pandemig.

Mae Breathing Space, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, yn cael ei ystyried yn ateb hirdymor i wella lles yn y gymuned.

Ar y cyd â bod yn lle i siarad a chreu, mae Breathing Space hefyd yn gweithio’n agos gyda’r elusen Interlink RCT, sy’n gallu helpu pobl i ddod o hyd i wasanaethau i gael cymorth pellach i wella lles.

Dywedodd Lisa Davies, Prif Swyddog Gweithredol Tanio, “Gall fod yn anodd iawn dod o hyd i gymorth, ac rydyn ni’n defnyddio dull grymuso wrth weithio gyda chyfranogwyr er mwyn gwella eu lles ac ansawdd eu bywyd.

“Mae Breathing Space yn lle diogel lle gall pobl gwrdd ag eraill, teimlo cyswllt ag eraill ac adeiladu ar eu cryfderau a’u doniau. Mae’r arddangosfa yn benllanw ar waith y cyfranogwyr dros y flwyddyn ddiwethaf a gobeithiwn y bydd yn cyrraedd pobl eraill a’u hannog i ddod draw. Rydyn ni’n gwybod ei fod yn gam mawr, ond mae pawb yn groesawgar ac yn gefnogol.”

Bydd y grŵp yn parhau i gwrdd ar lein am y tro ac ym mis Gorffennaf, os bydd y cyfyngiadau yn caniatáu hynny, maen nhw’n gobeithio dechrau cwrdd wyneb yn wyneb eto yn Eglwys Catrin Sant rhwng 1-3pm.

I ddarganfod mwy am y grŵp neu i gael sgwrs gychwynnol i weld a yw'n iawn i chi, cysylltwch â Sarah Featherstone ar 07792 452361 neu e-bostiwch sarahjfeatherstone@gmail.com neu Ruth Morris yn Tanio ar 01656 729246.

 * Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Watkins yn y Tîm Cyfathrebu ar 07854 386054 neu e-bostiwch Alison.watkins3@wales.nhs.uk