Neidio i'r prif gynnwy

Dull newydd o dorri amseroedd aros a derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer cleifion brys

Flwyddyn ar ôl agor Uned Ddydd Lawfeddygol Frys yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae amseroedd triniaeth ac asesu wedi gwella’n ddramatig, ac mae gostyngiad wedi bod yn y nifer o bobl sydd angen cael eu derbyn i’r ysbyty.

Ystyr gofal ar yr un dydd neu ‘ambulatory care’ yw bod cleifion sy’n dod i’r ysbyty mewn argyfwng yn cael eu hasesu, eu diagnosio a’u trin ar yr un diwrnod, ac yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty i dderbyn cymorth clinigol wedi hynny yn ôl yr angen. Oherwydd hyn, does dim angen iddyn nhw weld clinigwyr gwahanol mewn rhannau gwahanol o’r ysbyty, nac aros yn yr ysbyty dros nos.

Dyma Simon Weaver, Llawfeddyg Ymgynghorol yn yr ysbyty, i egluro: “Yn draddodiadol, mae cleifion llawfeddygol gyda chyflyrau brys yn dod i’n Hadran Argyfwng lle bydden nhw’n cael eu hasesu gan amrywiaeth o staff ac yn cael sawl math gwahanol o archwiliad yn ôl yr angen, cyn i benderfyniad gael ei wneud am eu triniaeth. Gall hyn gymryd llawer o amser, gall olygu bod profiad y claf yn wael ac, yn aml, gall arwain at gleifion yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn ddiangen."

Mae ‘Gofal Brys Ar Yr Un Diwrnod’ yn ddull effeithiol o ddelio â’r galw ac, yn dilyn treial llwyddiannus iawn, byddwn bellach yn cynnal uned barhaol dan arweiniad tîm ac uwch-nyrs a llawfeddyg ymgynghorol.”

Ers ei lansio y llynedd, mae’r uned wedi gweld bron i 2,500 o gleifion, a chafodd 80% o’r rhain eu hasesu, eu trin a’u rhyddhau o’r ysbyty o fewn tair awr. Cyn sefydlu’r uned, dim ond 28% oedd y ffigur hwn.

Mae’r Adran Argyfwng ei hun wedi elwa am fod llai o bobl ynddi ac mae’r llif cleifion yn well.

Mae’r gyfradd ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty i gleifion llawfeddygol wedi gostwng o 35% i 10% trwy ddefnyddio’r dull hwn o asesu cleifion, ac mae hyd arhosiad cleifion yn yr ysbyty gyda llid y pendics, crawniad o dan y croen a chyflyrau brys yn ymwneud â choden y bustl (gall bladder) wedi lleihau’n fawr hefyd. 

Mae'r uned ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm.

Aeth Mr Weaver yn ei flaen: “Mae pob galwad ffôn gan feddygon teulu sydd am atgyfeirio claf yn cael ei hateb gan ymgynghorydd. Mae hyn nid yn unig yn gwella cyfathrebu â chydweithwyr mewn gofal sylfaenol, ond mae hefyd wedi arwain at osgoi derbyn un ym mhob deg achos i’r ysbyty, gan fod meddygon teulu yn gallu cael cyngor llawfeddygol gan lawfeddyg uwch yn gynt. Mewn un flwyddyn, mae wedi atal tua 300 o dderbyniadau diangen i’r ysbyty. Yn ogystal, mae siarad â meddyg teulu ar y ffôn yn uniongyrchol am gleifion brys wedi ein helpu i ddelio â’r cleifion mwy cymhleth ag anghenion heriol yn fwy priodol. Mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl i ni roi diagnosis a chynnig triniaeth yn gyflym iawn iawn."

Mae’r uned yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn un o’r ychydig unedau o’i math yng Nghymru.