Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2024-2028

Yn dilyn ymgynghoriad mewnol ac allanol, rydym yn falch o allu rhannu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) ar gyfer 2024-2028.  

Mae cael Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ddyletswydd gyfreithiol i Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru ac mae’r cynllun yn rhan o’n BIPCTM 2030: Ein Hiechyd, Ein Strategaeth Ddyfodol. Mae'r CCS hefyd yn rhan allweddol o'n Blaenoriaethau Pobl a'n huchelgais i greu'r amodau i bawb ffynnu mewn diwylliant tosturiol, cynhwysol a chyfiawn.  

Bydd amcanion y cynllun yn sicrhau dealltwriaeth ac atebolrwydd ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn BIPCTM.  Mae'n bwysig ein bod yn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydyn ni’n gwneud. Mae gwerthfawrogi amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol yn ein galluogi i adeiladu gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu’n well, sydd yn ei dro yn ein helpu i ddatblygu a darparu gwell gwasanaethau, ac yn y pen draw yn galluogi gwell canlyniadau gofal iechyd.

 

11/04/2024