Neidio i'r prif gynnwy

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 – Rhannau 2 a 3

Cyfraith yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 gafodd ei phasio gan Senedd Cymru. Mae'n ymwneud â'r cymorth ddylai fod ar gael i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl sy’n byw yng Nghymru. 

Bwriad y Mesur yw sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn canolbwyntio'n fwy priodol ar anghenion pobl. Mae pedair prif ran i'r Mesur ac mae pob un yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i wella'r modd mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Dyma'r pedair rhan: 

  • Mae Rhan 1 yn ceisio sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd meddwl ar gael ym maes gofal sylfaenol. 
  • Mae Rhan 2 yn rhoi hawl i Gynllun Gofal a Thriniaeth i bawb sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. 
  • Mae Rhan 3 yn rhoi’r hawl i bob oedolyn, sy'n cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, atgyfeirio ei hun yn ôl at y gwasanaethau hynny. 
  • Mae Rhan 4 yn cynnig cymorth eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i bob claf mewnol. 

Er ei bod hi’n bwysig bod pobl gyda phroblemau iechyd meddwl a'u teuluoedd yn deall prif bwyntiau'r mesur, bydd yr wybodaeth ganlynol yn canolbwyntio ar y cymorth y mae hawl gyfreithiol gyda chi i’w gael erbyn hyn o dan Ran 2 a 3 o'r Mesur Iechyd Meddwl.

RHAN 2 – CYDGYSYLLTU A CHYNLLUNIO GOFAL MEWN GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Mae Rhan 2 yn gosod dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaeth (Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol) i weithredu mewn modd cydgysylltiedig, er mwyn gwella effeithiolrwydd y gwasanaethau iechyd meddwl maen nhw’n eu darparu. Yn ogystal â hynny, mae'n rhoi dwy hawl hanfodol newydd i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd: 

  • yr hawl i benodi Cydlynydd Gofal i weithio gyda nhw er mwyn cydlynu eu gofal a'u triniaeth, ac 
  • yr hawl i Gynllun Gofal a Thriniaeth unigol a chynhwysfawr i’w helpu i wella.

RHAN 3 – ASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD 

Nod Rhan 3 y Mesur yw ei gwneud hi'n haws i bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ddychwelyd at y gwasanaethau hynny. Ar ôl cael eich rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, bydd cyfnod o dair blynedd gyda chi i gyfeirio'n uniongyrchol yn ôl at wasanaethau eilaidd, os byddwch chi’n credu bod eich iechyd meddwl yn dirywio gymaint fel bod angen gofal a thriniaeth arbenigol arnoch eto. Fydd dim rhaid i chi weld meddyg teulu yn gyntaf na mynd i rywle arall i gael eich atgyfeirio.

Dilynwch ni: