Neidio i'r prif gynnwy

Neges atgoffa i wirio statws MMR eich plentyn

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd rhoi dau ddos o’r brechlyn MMR i’w plant.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan achosion o'r frech goch yn ardal Gwent ac mae'n annog rhieni a gwarcheidwaid i wirio statws MMR eu plentyn.

Mae'r frech goch fel arfer yn dechrau gyda symptomau tebyg i annwyd gan gynnwys llygaid yn rhedeg a thymheredd uchel. Mae'r frech fel arfer yn datblygu ar ôl 3-4 diwrnod, gan ddechrau gan amlaf o amgylch llinell y gwallt.

Dyma rai o’r rhesymau pwysig y dylai plant gael y ddau ddos o’u brechlyn MMR:

  • Mae dau ddos o'r brechlyn MMR yn rhoi amddiffyniad am oes ac nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny â dosau a gollwyd. Rhoddir y dos MMR cyntaf pan fydd plentyn yn 12-13 mis oed a'r ail pan fydd yn 3 oed a 4 mis.
  • Nid oes triniaeth benodol ar gyfer y frech goch. Gall y driniaeth a gynigir helpu i leddfu symptomau yn unig.
  • Gall y frech goch fod yn afiechyd difrifol iawn ac achosi cymhlethdodau mawr a all beryglu bywyd hyd yn oed.
  • Mae cymhlethdodau mwyaf cyffredin y frech goch yn cynnwys niwmonia, haint ar y glust, dolur rhydd a chonfylsiynau.
  • Mae cymhlethdodau yn fwy cyffredin ymhlith plant dan 5 oed.
  • Mae'r frech goch yn hynod heintus; gall un achos o'r Frech Goch heintio 9 o bob 10 o gysylltiadau agos heb eu brechu
  • Y cyfnod magu yw tua 10 diwrnod ar gyfer y Frech Goch (ystod o 7 i 21 diwrnod).
  • Mae'r cyfnod heintus yn dechrau ychydig cyn i'r symptomau ddechrau, fel arfer 3-4 diwrnod cyn i'r frech ymddangos ac mae’n para hyd at 4 diwrnod ar ôl i'r frech ddechrau.
  • Mae angen i 95% o blant gael dau ddos o’r MMR i atal brigiad o achosion o'r Frech Goch yn ein cymunedau. Yng Nghymru ar hyn o bryd mae 88.5% o blant wedi cael y ddau ddos o’r MMR erbyn iddynt fod yn 5 oed.

Os oes gennych chi neu eich plentyn symptomau'r frech goch dylech wneud y canlynol -

  • Gofyn am gyngor meddygol drwy ffonio GIG 111 Cymru neu fynd i 111.wales.nhs.uk

  • Gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i leoliadau gofal iechyd am symptomau fel brech neu dwymyn cyn mynd i apwyntiad.

  • Ni ddylai unigolion sy’n meddwl bod ganddynt y frech goch fynd i’r gwaith, ysgol, meithrinfa neu leoliadau gofal plant eraill tan 4 diwrnod llawn ar ôl i’r frech ddechrau a dim ond ar ôl gwella’n llwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR, gan gynnwys sut i wirio eich statws brechu yn eich ardal leol ewch i: Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR) - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

 

 

 

16/04/2024