Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr i'n staff a'n cymunedau

Wrth i’r diwrnodau gynhesu ac wrth i’r haf addo cyrraedd, mae’n teimlo fel ein bod wedi dechrau troi cornel a chefnu ar ychydig fisoedd hynod anodd i ni i gyd.

Hoffem ni ddiolch o waelod calon i bawb oedd wedi ein cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod hwnnw: o staff y GIG a staff gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol, sydd ar y rheng flaen yn ein diogelu rhag COVID-19 am fwy na blwyddyn erbyn hyn, i’r gweithwyr allweddol hynny sydd wedi cadw gwasanaethau hanfodol i fynd tra oeddem ni i gyd o dan gyfnod clo.

Rhaid diolch yn arbennig hefyd i’r holl staff, gwirfoddolwyr a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan hyd yma o’n rhaglen frechu. Mae mwy nag un ym mhob dau yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg wedi cael o leiaf un ddos o’r brechlyn bellach. Brechu pobl yw’r arf pwysicaf sydd gennym ni o hyd i drechu’r Coronafeirws, a dylai cyflymder y rhaglen honno roi gobaith i bob un ohonom ni wrth i ni symud tuag at ein targed o gynnig un ddos i bob oedolyn erbyn diwedd Gorffennaf.

Rhaid diolch i chi hefyd, ein cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Rydym ni i gyd un ac oll wedi chwarae ein rhan yn y gwaith o leihau cyfraddau achosion o’r Coronafeirws yn ein hardal. Diolch i’ch ymroddiad chi, fe allwn ni ddechrau codi cyfyngiadau a dychwelyd yn araf at fywyd fel yr oedd cyn y pandemig.

Ond nid yw ein gwaith caled ni ar ben eto. Mae clystyrau diweddar o achosion yn ein hardal yn dangos pa mor gyflym y gall y feirws ledaenu os na fyddwn yn wyliadwrus ac os na fyddwn yn dilyn y rheolau.

Mae hyd yn oed yn fwy pwysig bellach ein bod yn cofio’r ffyrdd sylfaenol o atal y Coronafeirws rhag lledaenu. Bydd golchi ein dwylo, gwisgo gorchudd wyneb a chadw dau fetr ar wahân yn hollbwysig, fel y bydd cwrdd â phobl yn yr awyr agored yn lle dan do hefyd ble bynnag y bo hynny’n bosibl.

Bydd profion hefyd yn rhan bwysig o’r daith tuag at normalrwydd eto. Wrth i fwyfwy ohonom ni dderbyn y brechlyn rhag y feirws bob dydd, profi yw’r dull gorau sydd gennym ni erbyn hyn o weld lle mae’r feirws yn lledaenu yn ein cymunedau ac o gymryd camau i atal hynny.

Dyma pam rydym ni’n annog pawb sydd gyda hawl i gael profion llif unochrog asymptomatig rheolaidd i gael prawf, gan fod hyn yn ein helpu i gadw cyfraddau achosion yn isel ac i gadw’r feirws dan reolaeth. Gallwch chi weld yr holl fanylion am gael prawf ar wefan Cwm Taf Morgannwg.

Rydych chi wedi aberthu cymaint yn barod, felly rhaid sicrhau na fydd yr holl gynnydd rydych chi wedi gweithio mor galed drosto yn troi’n ddim ar y foment olaf. Mae dewis gyda chi pan ddaw i’n helpu i drechu’r Coronafeirws, a’ch gweithredoedd chi - mawr a bach - fydd yn gwneud y gwahaniaeth.

Diolch i chi am eich cymorth,

Paul Mears
Prif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mark Shephard
Prif Weithredwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Ellis Cooper
Prif Weithredwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Chris Bradshaw
Prif Weithredwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf