Neidio i'r prif gynnwy

Cytundeb CTM â Patient Knows Best yn dod i ben

Ar 1 Ebrill 2021, daeth contract Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg â Patient Knows Best i ben. Porth i gleifion yw hwn sy’n galluogi clinigwyr a chleifion i gyfathrebu â’i gilydd yn ddiogel parthed canlyniadau profion a llythyrau. 

Yn anffodus, mae’r defnydd o’r porth wedi bod yn hynod o brin a does dim modd ei gyflwyno’n ehangach ar draws y Bwrdd Iechyd heb waith sylweddol ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol.

O ganlyniad, mae’r Bwrdd Iechyd wedi dod i gytundeb â chwmni arall i ddarparu’r gwasanaeth hwn ledled ardal y Bwrdd Iechyd. Y gobaith yw y bydd y cwmni’n darparu gwasanaeth tebyg yn fuan.

Yn sgil hyn, fydd dim llythyrau newydd na chanlyniadau patholeg yn cael eu huwchlwytho i borth PKB ar ôl 1 Ebrill 2021.

Mae’n bosib o hyd i gleifion sydd wedi cofrestru i’r porth fewngofnodi a defnyddio unrhyw swyddogaeth platfform PKB, neu fel arall, gallwch chi ddweud wrth y cwmni eich bod chi am gau eich cyfrif a’ch bod chi am iddyn nhw ddileu eich data.