Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cwm Taf Morgannwg yn dathlu agor Canolfan Ymchwil Glinigol nodedig

Mae Canolfan Ymchwil Glinigol newydd, i wella gwaith ymchwil BIP Cwm Taf Morgannwg ac i gynnig therapïau, triniaethau a therapiwteg newydd i gleifion, wedi agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Mae datblygu’r ganolfan yn dangos ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i wneud ymchwil fasnachol ac anfasnachol o’r radd flaenaf, ynghyd â’n hymrwymiad i wella gwasanaethau i’n cleifion a’r boblogaeth ehangach. Roedd yn bosibl trwy gymorth ein tîm gweithredol a nifer o dimau, a gydweithiodd i sicrhau cyllid ac i gyflawni’r prosiect mewn dim o dro.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu, yr Athro John Geen: “Roedd datblygu Canolfan Ymchwil Glinigol gyntaf y Bwrdd Iechyd yn bosibl oherwydd cymorth y tîm Gweithredol, yn benodol yr Arweinydd Gweithredol ar gyfer Ymchwil a Datblygu, yr Athro Kelechi Nnoaham, y Cyfarwyddwr Cyllid Steve Webster a Chyfarwyddwr Grŵp Lleoliad Integredig Taf Elái, Dr Stuart Hackwell.

“Mae cydweithio rhwng y Tîm Ymchwil a Datblygu, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Bartneriaeth Cydwasanaethau a thimau Ystadau, TGCh a Chyllid y Bwrdd Iechyd wedi bod yn hollbwysig i sicrhau cyllid ac i orffen y datblygiad hwn mewn dim o dro. Diolch iddyn nhw un ac oll am eu gwaith caled a’u cefnogaeth.”

Dathlwyd agor y Ganolfan Ymchwil Glinigol trwy gynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth, dan law ein Tîm Ymchwil a Datblygu. Mae tri llun buddugol – yn cynrychioli pob un o’n lleoliadau – bellach i’w gweld mewn man amlwg yn nerbynfa’r ganolfan, yn dilyn pleidlais ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ôl llunio rhestr fer o’r cannoedd o gynigion gan staff ac aelodau o’r cyhoedd.

Dyma’r lluniau buddugol: “Southerndown”, Pen-y-bont ar Ogwr, gan Tamsyn Clark; “View from the Bwlch”, Rhondda, gan Mal Durbin; a “River Cynon autumn colours”, Penrhiwceiber, gan Martin Agg.

Ychwanegodd yr Athro Geen: “Diolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb ac i gyflwyno eu gwaith i’r gystadleuaeth ffotograffiaeth. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr. Roedd safon ac amrywiaeth y ffotograffau yn rhagorol, ac oherwydd hynny roedd gwaith y panel beirniadu yn anodd iawn.

“Roedd y portffolio o waith a gafodd ei gyflwyno yn adlewyrchiad cynhwysfawr o dirweddau hardd ac o dreftadaeth hanesyddol gyfoethog ein hardal. Ar ran BIP Cwm Taf Morgannwg a’r Tîm Ymchwil a Datblygu, rydw i’n llongyfarch Martin, Tamsyn a Mal ar eu llwyddiant ac am helpu i sicrhau y bydd y Ganolfan Ymchwil Glinigol newydd yn lle croesawgar a braf i’r staff, y partneriaid ymchwil a’r holl gyfranogwyr ymchwil a fydd yn ymweld dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”

Mae datblygiad y ganolfan hefyd yn cefnogi amcan allweddol y Bwrdd Iechyd i gadw ei statws prifysgol, a fydd yn gwella cyfleoedd ar gyfer ymchwil gydweithredol yn y dyfodol rhwng y GIG, partneriaid academaidd a phartneriaid diwydiant. Mae profiadau diweddar wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil wrth nodi arfer gorau, ac wrth roi newidiadau a gwelliannau ar waith mewn gwasanaethau clinigol er budd ein poblogaeth.

Mae agor canolfan ddynodedig ar gyfer ymchwil eisoes wedi ei gwneud yn bosibl i BIP Cwm Taf Morgannwg gychwyn astudiaeth genedlaethol frys ym maes iechyd y cyhoedd o’r enw SIREN, i ymchwilio i effaith gwrthgyrff rhag SARS-CoV2 ar nifer yr achosion o COVID-19 ymhlith gweithwyr gofal iechyd.

Mae’r tîm Ymchwil a Datblygu wrthi’n recriwtio i’r astudiaeth hon ar hyn o bryd tan ddiwedd mis Mawrth, a byddem ni wrth ein boddau yn clywed gan gydweithwyr a hoffai gymryd rhan. I ymuno â’r astudiaeth, cysylltwch â’r tîm trwy ffonio 01443 443421 neu e-bostio CTMUHB_RD@wales.nhs.uk.