Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifir bod profion ardal gyfan wedi atal cannoedd o achosion o COVID-19

Yn ôl adroddiad newydd, amcangyfrifir bod y profion torfol â dyfeisiau llif unffordd ym Merthyr Tudful ac yn rhan isaf Cwm Cynon wedi atal 353 o achosion o COVID-19, 24 o achosion o orfod mynd i’r ysbyty, 5 achos o orfod mynd i uned gofal dwys ac 14 o farwolaethau;

Canfu gwerthusiad o'r peilot, a ryddhawyd heddiw (dydd Llun Mawrth 22) gan y sefydliadau partner a gyflwynodd y fenter, fod nodi achosion o COVID-19 mewn pobl asymptomatig trwy brofion llif ochrol torfol yn arbed bywydau ac yn atal cannoedd o achosion o'r firws mewn a amser pan oedd y cyfraddau'n uchel iawn yn yr ardaloedd hyn.

 

Canfu'r gwerthusiad hefyd:

  • Arweiniodd y cynllun peilot at ostyngiad sydyn yn nifer yr achosion o COVID-19 yn yr ardaloedd;
  • Wrth ystyried trosglwyddiad yr haint ymhellach yn y gymuned, sydd i’w ddisgwyl gan bobl na oeddent yn gwybod bod COVID-19 ganddynt, ataliwyd mwy nag un o bob deg o achosion a fyddai wedi digwydd fel arall.
  • Amcangyfrifir mai budd ariannol net y cynllun peilot oedd £5.8 miliwn. Mae hyn yn gyfwerth â chymhareb cost a budd gwerth oddeutu 11 ar gyfer cost y cynllun, sef £516,000, neu elw gwerth oddeutu £10.30 am bob £1 a wariwyd.

Cynhaliwyd y cynllun profi torfol peilot ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020, gyda’r nod o atal y Coronafeirws rhag lledaenu mewn ardaloedd â nifer fawr o achosion a chyfraddau positif uchel.

Cyflwynwyd y cynlluniau peilot o ganlyniad i gydweithrediad na welwyd ei debyg o’r blaen rhwng partneriaid. Ymhlith y rhain roedd yr awdurdodau lleol, y Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru, y lluoedd arfog, yr heddlu a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn ogystal ag ysgolion a’r trydydd sector.

Canfu’r gwerthusiad fod nifer fawr o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun profi peilot. Cafodd 22,021 o bobl ym Merthyr Tudful eu profi, sef bron hanner y boblogaeth darged (49%). Cafodd 10,457 o bobl yn rhagor yn rhan isaf Cwm Cynon eu profi, sef 56% o’r boblogaeth darged. Mae’r ffigurau hyn yn agos at ddwbl ffigurau cynlluniau peilot Lerpwl a’r Alban.

Cyfradd y profion positif oedd 2.3% ym Merthyr Tudful a 2.6% yn rhan isaf Cwm Cynon.Canfu’r adroddiad fod cyfradd y profion positif yn uwch ymysg y carfannau canlynol:

  • Dynion;
  • Pobl iau;
  • Pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig;
  • Galwedigaethau lle mae cyswllt agos yn fwy tebygol, fel trafnidiaeth a lletygarwch, gweithgynhyrchu ac adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, manwerthu a'r celfyddydau ac adloniant.

Canfu'r gwerthusiad lefel uchel o sicrwydd ynghylch profion dyfeisiau llif ochrol (LFD), gan fod y profion yn dangos perfformiad da wrth nodi heintiau asymptomatig, gan awgrymu rôl wahanol ond cyflenwol i brofion PCR a ddefnyddir yn bennaf i wneud diagnosis o heintiau symptomatig. Nid yw rhwng un o bob pedwar ac un o bob tri o bobl sydd â Coronavirus byth yn dangos unrhyw symptomau, felly gall profion LFD helpu i adnabod pobl sydd â'r firws nad oes ganddynt symptomau ac na fyddent fel arall yn dod ymlaen am brawf.

 

Nid oedd symptomau gan fwyafrif helaeth (99.6%) y rheiny a ddaeth i’r canolfannau profi torfol, sy’n dangos bod y gymuned wedi deall diben y profion ac wedi dod i’r canolfannau yn briodol;

 

Dyma rai o gasgliadau eraill y gwerthusiad:

  • Roedd mwyafrif helaeth (99.6%) y rhai a oedd yn mynychu'r canolfannau profi torfol yn anghymesur, gan ddangos bod y gymuned yn deall pwrpas profi ac yn cael eu cyflwyno'n briodol;
  • Trosglwyddiad mewn aelwydydd oedd prif ffynhonnell yr heintiad; 
  • Roedd gweithio yn y sector lletygarwch ac ymweld â'r dafarn hefyd yn risgiau sylweddol ond oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 ar y pryd, roedd y rhain yn ddatguddiadau anaml;
  • Cafodd ysmygu neu anweddu effaith fach ond sylweddol;
  • Nid oedd awgrym bod gweithio yn y maes addysg, byw gyda rhywun sy’n gweithio yn y maes addysg, cyfrifoldebau gofalu nac ymweld ag archfarchnad, tŷ bwyta, campfa neu ganolfan hamdden yn cynyddu’r risg o gael heintiad;
  • Mae’r nifer lai o bobl a gafodd eu profi ymysg y grwpiau o’r boblogaeth â chyfraddau uwch o brofion positif yn enghraifft amlwg o “gyfraith profi gwrthdro”.

 

Mae'r adroddiad yn argymell y canlynol:

  • Dylid ystyried bod profion torfol ar gyfer aelodau asymptomatig o’r gymuned yn rhan bwysig ac effeithiol o unrhyw gynllun rheoli COVID-19;
  • Dylid targedu’r defnydd o ddyfeisiau llif unffordd at ardaloedd a grwpiau sy’n wynebu mwy o risg o gael eu heintio. Argymhellir prawf PCR dilynol o fewn 24 awr er mwyn sicrhau bod achosion a chysylltiadau yn sgil nifer fach o ganlyniadau positif ffug yn gallu rhoi’r gorau i hunan-ynysu;
  • Dylid targedu profion at ardaloedd mwy difreintiedig, dynion, pobl iau a galwedigaethau â chyswllt agos sy’n methu â gweithio gartref, er enghraifft trafnidiaeth, adeiladu a gweithgynhyrchu, gwasanaethau personol megis gwallt a harddwch ac iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Dylid integreiddio’r broses o olrhain cysylltiadau yn llawn yn y gwaith o olrhain achosion at ddibenion hunan-ynysu a chymorth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ac er mwyn torri cadwyni trosglwyddiad;
  • Mae’n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei arwain yn lleol, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a’r trydydd sector;
  • Mae angen cyfathrebu ac ymgysylltu’n briodol ag aelodau o’r gymuned a busnesau lleol er mwyn sicrhau cyfranogiad da.

Dywedodd yr Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’n braf gen i rannu’r adroddiad hwn sy’n gwerthuso llwyddiant ein cynllun profi torfol peilot. Roedd hwn yn gynllun uchelgeisiol iawn a gafodd ei gynnal ar frys, gyda’r nod o wneud gwahaniaeth sylweddol i’n cymunedau ar adeg pan oedd nifer yr achosion o COVID-19 yn hynod o uchel yn yr ardaloedd hyn.

“Mae’r canlyniadau’n amcangyfrif bod mwy na 350 o achosion o COVID-19 ac 14 o farwolaethau wedi cael eu hatal, sy’n dweud y cyfan wrthym ni. Yn ogystal â bod yn newyddion cadarnhaol i’n cymunedau, mae’r gwerthusiad yn dangos bod y cynllun peilot wedi lleddfu’r pwysau ar ein hysbytai ac ar ein gweithwyr hanfodol pan oedd angen hyn arnynt fwyaf. Cyfanswm yr elw mewn termau ariannol oedd £5.8 miliwn, felly roedd hyn yn fuddsoddiad da.

“Credaf y bydd yr adroddiad hwn yn werthfawr iawn i unrhyw sydd â diddordeb mewn defnyddio profion llif unffordd yn rhan o strategaeth brofi ehangach yng Nghymru a ledled y byd. Mae’n dangos bod potensial gan brofion llif unffordd i fod yn rhan allweddol o’n prosiect Profi, Olrhain, Diogelu, wrth i ni edrych yn fwy hyderus ar adfer ar ôl COVID-19, ac mae’n cynnig profiad go iawn i feysydd eraill sy’n ystyried dull tebyg. Mae’r adroddiad gwerthuso llawn yn rhoi glasbrint i bobl eraill ei ddefnyddio.

Hoffwn ddiolch i’r partneriaid a gydweithiodd â ni ar bob cam o’r broses, ac i’r cymunedau a weithiodd gyda ni i sicrhau ei fod yn llwyddiannus. Heb eu hymroddiad a’u gwaith caled, ni fyddai’n bosibl cynnal cynllun o’r raddfa hon.”

 

Mae crynodeb o'r adroddiad a dolenni i'r adroddiad llawn i'w gweld isod:

NEWYDD A DIWEDDARWYD Crynodeb Gweithredol

NEWYDD A DIWEDDARWYD Adroddiad Llawn

Crynodeb Cyhoeddus o'r Adroddiad Gwerthuso (Saesneg) (Cymraeg)

NEWYDD A DIWEDDARWYD Atodiadau (Page 1) (Page 2) (Page 3)

 

I'w nodi: Yn yr adroddiad wedi'i ddiweddaru, mae'r adran ar asesu cywirdeb profion LFD wedi'i dileu. Mae cyfeiriadau cysylltiedig at y pwnc hefyd wedi'u dileu. Tybiwyd cywirdeb profion LFD wrth nodi haint ar gyfer y peilot hwn yn seiliedig ar astudiaethau perthnasol ac nid oedd y data a gasglwyd gennym yn y peilot yn agored i ddadansoddiad o gywirdeb profion.

 

Am geisiadau ar gyfer cyfweliad gyda'r Athro Kelechi Nnoaham, e-bostiwch CTM.News@wales.nhs.uk.