Neidio i'r prif gynnwy

Sylw yn ôl Symptomau ac Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf

Rydyn ni’n trawsnewid ein Gwasanaethau i Gleifion Allanol i’w gwneud yn haws eu defnyddio ac i wella iechyd cymunedau CTM.

I roi mwy o reolaeth i gleifion ar eu gofal, i greu capasiti er mwyn gweld cleifion pan fydd angen gwneud hynny fwyaf, ac i leihau nifer yr apwyntiadau sydd ddim yn dwyn budd clinigol i gleifion, mae CTM wedi lansio Sylw yn ôl Symptomau ac Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf.
 

Beth yw Sylw yn ôl Symptomau ac Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf?

Mae Sylw yn ôl Symptomau ac Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf yn rhoi rheolaeth i chi, fel cleifion, wrth ddefnyddio’r gwasanaeth.
 

Sylw yn ôl Symptomau

Bydd eich clinigydd yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â ph’un a ydy eich cyflwr yn addas er mwyn eich trosglwyddo at lwybr Sylw yn ôl Symptomau, yn hytrach nag apwyntiadau dilynol rheolaidd yn yr ysbyty.  Trwy hyn, mae modd neilltuo cyfnod penodol mae disgwyl i’ch cyflwr wella ynddo.  Os bydd unrhyw broblemau neu bryderon gyda chi ynglŷn â’ch cyflwr yn ystod y cyfnod hwn, gallwch chi ofyn am gyngor neu gymorth gan y clinigydd wnaeth eich atgyfeirio.

Bydd eich clinigydd yn trafod cynnal eich apwyntiadau dilynol yn y modd hwn, a bydd yn rhoi’r holl gyngor ac arweiniad sydd eu hangen arnoch i chi drin eich cyflwr eich hun.  Chi a’ch clinigydd fydd yn penderfynu eich rhoi chi ar lwybr Sylw yn ôl Symptomau ai peidio, ac os byddwch chi’n cytuno i wneud hynny, byddwch chi’n cael llythyr yn esbonio’r broses o drefnu apwyntiad pan fydd angen.

Os na fydd angen apwyntiad dilynol arnoch yn ystod cyfnod penodol eich llwybr Sylw yn ôl Symptomau, byddwch chi’n cael eich rhyddhau yn ôl at ofal eich meddyg teulu yn awtomatig.

 

Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf

Mae apwyntiadau rheolaidd yn yr ysbyty fel claf allanol yn gallu achosi pryder diangen, er enghraifft yn sgil yr amser mae’n ei gymryd i deithio, parcio ac aros am yr apwyntiad, yn enwedig pan fydd eich cyflwr yn sefydlog.

Weithiau, fydd eich apwyntiadau rheolaidd fel claf allanol ddim yn arwain at unrhyw newid yn eich triniaeth, ac mewn gwirionedd, gallai eich cyflwr waethygu rhwng apwyntiadau rheolaidd.  Yn ystod yr adegau hyn y bydd angen cyngor ac arweiniad arbenigol gan eich clinigydd.

Mae Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf yn rhoi rheolaeth i chi wrth drefnu apwyntiad neu wrth ofyn am gyngor pan fydd eu hangen arnoch fwyaf.

Bydd eich clinigydd yn trafod cynnal eich apwyntiadau dilynol yn y modd hwn, a bydd yn rhoi’r holl gyngor ac arweiniad sydd eu hangen arnoch i chi drin eich cyflwr eich hun.  Chi a’ch clinigydd fydd yn penderfynu eich rhoi chi ar lwybr Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf ai peidio, ac os byddwch chi’n cytuno i wneud hynny, byddwch chi’n cael llythyr yn esbonio’r broses o drefnu apwyntiad pan fydd angen.

Byddwch chi’n parhau i fod ar lwybr Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf drwy gydol cyfnod eich cyflwr, a fyddwch chi ddim yn cael eich rhyddhau yn ôl at ofal eich meddyg teulu.

 

Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Pen-y-bont ar Ogwr

Ffôn: 01443 443096

Ar agor Llun - Gwener, 8am-5pm

Ffôn: 01656 754393

Ar agor Llun - Gwener, 8am-5pm

Dilynwch ni: