Neidio i'r prif gynnwy

Ysmygu yn ystod beichiogrwydd

Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau i ysmygu, ac rydyn ni’n cydnabod pa mor heriol mae hyn yn gallu bod, ond dyma un o'r pethau pwysicaf gallwch chi ei wneud i wella iechyd, twf a datblygiad eich babi. Yn ogystal â hynny, dyma’r peth pwysicaf gallwch chi ei wneud i wella eich iechyd hirdymor chi.

Gwasanaeth MAMSS (Modelau Mynediad ar gyfer Cymorth Rhoi’r Gorau i Ysmygu Ymysg Mamau)

Yma ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, rydyn ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’ch iechyd a’ch lles chi, ac iechyd a lles eich babi a'ch teulu, drwy Wasanaeth MAMSS.

Mae cymorth a thriniaeth AM DDIM gan y GIG yn cael eu darparu gan un o'n gweithwyr cymorth mamolaeth sydd wedi cael ei hyfforddi'n llawn, a hynny yn eich cartref eich hun neu mewn clinig yn eich ardal chi!

Gofynnwch i'ch bydwraig am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaeth MAMSS, neu ffoniwch eich gweithiwr cymorth mamolaeth:

Rhondda a Thaf: 07900 915235

Cynon a Merthyr Tudful: 07823551792

Pen-y-bont ar Ogwr: 07786173770

Pam mae ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn niweidiol i mi ac i fy mabi

Yn union fel y mae ysmygu'n wael i chi, mae mwg tybaco’n gallu niweidio babanod yn y groth gan ei fod yn lleihau faint o ocsigen a maetholion sy'n mynd drwy'r brych oddi wrthych chi i'ch babi.

Pam rhoi'r gorau i ysmygu?

Mae dros 4,000 o gemegau mewn sigaréts. Mae llawer o'r rhain yn wenwynig ac yn eich niweidio chi a'ch babi heb ei eni. Y newyddion da yw os byddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu:

• Bydd eich babi yn elwa ar unwaith

• Rydych chi'n fwy tebygol o gael beichiogrwydd iachach a babi iachach

• Byddwch chi’n lleihau'r risg o farw-enedigaeth a syndrom marwolaeth sydyn babanod (marwolaeth yn y crud)

• Mae eich babi yn llai tebygol o gael ei eni'n gynnar

• Mae eich babi yn fwy tebygol o gael ei eni yn bwysau iach ac wedi datblygu'n llawn

• Bydd gan eich plentyn risg is o ADHD

• Fydd dim rhaid i chi adael eich babi newydd-anedig ar ei ben ei hun tra byddwch chi’n ysmygu

Pryd ddylwn i roi'r gorau iddi?

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn gynnar yn eich beichiogrwydd yn rhoi'r dechrau gorau i'ch babi. Ond, dydy hi byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi. Gall Helpa Fi i Stopio i fy Mabi eich cefnogi yn ystod pob cam o'ch beichiogrwydd ac ar ôl i chi roi genedigaeth.

Beth yw monitro Carbon Monocsid?

Mae Carbon Monocsid yn nwy gwenwynig, di-arogl sy'n cael ei anadlu i mewn trwy fwg tybaco. Mae'n cymryd lle ocsigen y mae’r babi ei angen er mwyn datblygu. Mae lefelau Carbon Monocsid yn cael eu mesur fel rhan o ofal mamolaeth arferol. Bydd gofyn i chi anadlu i mewn i diwb cardbord sydd yn sownd wrth fonitor llaw.

A all fy nheulu a’m ffrindiau ymuno?

Mae gan y bobl sy'n byw gyda chi gartref ac rydych chi'n eu gweld yn rheolaidd rôl bwysig o ran cefnogi eich taith ddi-fwg. Bydd yn haws i chi roi'r gorau i ysmygu ac aros yn ddi-fwg gyda'u cymorth nhw. Dyma rai pethau y gallan nhw eu gwneud i'ch cefnogi:

• Rhoi'r gorau i ysmygu yr un pryd â chi

• Gwneud eich cartref yn ddi-fwg trwy dim ond ysmygu y tu allan ac oddi wrthych chi

• Helpu i greu arferion iach newydd, fel mynd am dro gyda'ch gilydd

Mae cymorth rhoi’r gorau i ysmygu rhad ac am ddim y GIG ar gael gan Helpa Fi i Stopio ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau. Ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i www.helpafiistopio.cymru/ i gael cymorth i roi'r gorau iddi.

Beth am e-sigaréts?

Gall gwasanaeth Helpa Fi i Stopio i fy Mabi gefnogi pobl sydd am roi’r gorau i ddefnyddio e-sigaréts

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn lleihau'r holl risgiau uchod.

Dilynwch ni: