Neidio i'r prif gynnwy

Drymester

Drymester - Helpu Darpar Rieni I Fynd Heb Alcohol

#Drymester

Helpu darpar rieni i fynd heb alcohol.

P'un a ydych chi'n feichiog, yn meddwl am feichiogi neu'n adnabod rhywun sy'n feichiog, mae'n bwysig cofio y gall yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd roi eich babi mewn perygl.

Mae rhai o’r risgiau hynny’n cynnwys camesgoriad, y babi yn cael ei eni’n gynnar, pwysau geni isel ac Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD).

Mae FASD yn gyflwr y gellir ei atal y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn adrodd ei fod yn effeithio ar 1 o bob 100 o fabanod.

Gall symptomau FASD fod yn gorfforol yn ogystal â meddyliol a gallant gynnwys niwed i'r ymennydd, yr arennau a'r breichiau a choesau yn ogystal â chlustiau isel nag yr arfer a ffiltrum gwastad (y rhigol fertigol rhwng y trwyn a'r wefus uchaf). Gall plant â FASD hefyd ddangos:

  • Anawsterau dysgu
  • Methu â rheoli’r awydd sydyn i wneud rhywbeth
  • Problemau o ran y cof, sylw neu grebwyll
  • Problemau o ran dealltwriaeth gymdeithasol
  • Gall hyn arwain at gamddiagnosio plant ag awtistiaeth a syndrom Asperger.

Cwm Taf Morgannwg yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gefnogi ymgyrch Drymester, gan gynnig cyngor ac arweiniad i fenywod beichiog drwy raglen sydd wedi’i chyflwyno ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, sy’n canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar a chodi ymwybyddiaeth.

Mae #Drymester yn ymgyrch i ysbrydoli a chefnogi pobl i fynd heb alcohol pan fyddant yn feichiog neu'n cynllunio beichiogrwydd. Mae llawer o wahanol gyngor ar gael. Mae'r neges yn syml ac yn seiliedig ar y ffeithiau - pan ddaw hi'n fater o yfed alcohol, does dim amser diogel na swm diogel i’w yfed yn ystod beichiogrwydd.

Mae gan wefan Drymester ddigonedd o awgrymiadau a chyngor i'ch helpu i fynd heb alcohol, gan gynnwys rhai ryseitiau moctêls blasus.

 

Dogfennau Ategol

Dilynwch ni: