Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n iach yn ystod beichiogrwydd

Does dim angen i fwyta'n iach fod yn ddrud, a bydd hyn o fudd nid yn unig i chi ond i'r teulu cyfan hefyd.  Mae bwyta'n iach yn ystod beichiogrwydd yn hollbwysig ar gyfer twf a datblygiad eich babi, felly dylech chi fwyta amrywiaeth o fwydydd maethlon bob dydd.  Cofiwch nad oes angen bwyta am ddau o bobl. Mewn gwirionedd, dim ond 200 o galorïau ychwanegol y dydd mae angen i chi eu bwyta ar ôl 28 wythnos. 

Mae bwyta ffrwythau a llysiau yn ystod beichiogrwydd yn rhoi'r fitaminau a'r mwynau pwysig i chi sydd eu hangen ar eich corff. Dylech chi fwyta o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd, a gallai’r rhain fod wedi eu rhewi neu gallan nhw fod yn ffres, mewn tun, yn sych neu ar ffurf sudd.

Mae bwydydd llawn startsh, gan gynnwys bara, tatws, reis, pasta a nwdls, yn ffynhonnell bwysig o egni a gallan nhw eich helpu chi i deimlo'n llawn.

Mae bwydydd llawn protein yn bwysig yn ystod beichiogrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys ffa, pylsau, pysgod, wyau, cig (ond dylech chi osgoi afu) dofednod a chnau.

Mae llaeth yn ystod beichiogrwydd yn bwysig gan ei fod yn cynnwys calsiwm a maetholion eraill sydd eu hangen arnoch chi ac ar eich babi.  Gallwch chi yfed mathau eraill o laeth hefyd, fel diodydd soia.

Ansicr beth i'w goginio? Cliciwch ar y dolenni isod am rywfaint o ysbrydoliaeth:

Dogfennau Ategol

 

Dilynwch ni: